Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gofalwyr maeth yn Wrecsam yn dathlu cyfraniad brodyr a chwiorydd maeth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gofalwyr maeth yn Wrecsam yn dathlu cyfraniad brodyr a chwiorydd maeth
Pobl a lleY cyngor

Gofalwyr maeth yn Wrecsam yn dathlu cyfraniad brodyr a chwiorydd maeth

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 13, 2025 9:05 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Family Teulu
RHANNU

Mae gofalwyr maeth yn Wrecsam yn dathlu’r cyfraniad hanfodol y mae eu plant eu hunain yn ei chwarae yn y daith faethu.

Fel rhan o Wythnos Plant Gofalwyr Maeth (o Hydref 13-19), mae gofalwyr Maeth Cymru Wrecsam yn rhannu straeon am y ffordd mae eu plant wedi helpu i wneud i’r rhai sydd yn eu gofal deimlo’n hapusach, eu bod yn cael eu croesawu, yn fwy diogel ac yn cael eu caru.

Mae rhai pobl yn dweud bod yr effaith bosibl ar eu plant yn un o’r rhwystrau i fod yn ofalwr maeth, ond mae llawer o blant yn gweld manteision i fod yn rhan o deulu sy’n maethu. Gall gweld bywyd o safbwynt rhywun arall fod yn brofiad sy’n cyfoethogi a all helpu plentyn i ddysgu a datblygu fel unigolyn. Mae plant hefyd yn canfod eu bod yn gallu datblygu eu cysylltiadau eu hunain gyda phlant sy’n cael eu maethu yn eu cartref nhw.

Fel rhan o Wythnos Plant Gofalwyr Maeth, mae Maethu Cymru Wrecsam yn taflu goleuni ar blant gofalwyr maeth, y bobl ifanc sy’n chwarae rhan hanfodol wrth helpu plant mewn gofal i deimlo’n ddiogel, yn gartrefol a’u bod yn cael eu caru.

Rhannodd Millie, gofalwr maeth gyda Maethu Cymru Wrecsam ei myfyrdodau ar yr hyn y mae maethu fel teulu yn ei olygu mewn gwirionedd. Yn ei geiriau hi: “Unwaith, daeth un bach atom heb ddim. Roedd yn ansicr iawn ac yn ofnus. Rhoddodd fy mab ei hoff dedi iddo fynd i’r gwely, i anwesu. Roedd yn hyfryd iawn i weld. Gadawodd y bachgen bach i fynd at ei deulu am byth, gan fynd â’r tedi gydag o. Cymerodd fy mab gysur yn y ffaith bod y bachgen bach angen y tedi’n fwy nag o.”

Mae ei stori yn atgof pwerus bod maethu nid yn unig yn newid bywydau’r plant sy’n derbyn gofal, mae hefyd yn siapio calonnau a meddyliau’r plant sydd eisoes yn y cartref.

Darllenwch y blog llawn i glywed mwy o’i stori yma.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, aelod arweiniol y gwasanaethau plant a theuluoedd: “Mae maethu yn brofiad sy’n gallu effeithio ar deulu cyfan mewn ffordd sy’n newid bywydau. Mae gwybod eich bod wedi chwarae rhan yn newid bywyd person ifanc er gwell yn rhoi boddhad mawr. Mae hefyd yn ehangu profiad bywyd eich teulu eich hun trwy ddysgu empathi, caredigrwydd a derbyn i’ch plant.”

I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Wrecsam.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Côr Meibion Cantorion Gogledd Cymru Dewch draw i Gyngerdd Côr Elusennol y Maer ar 15 Tachwedd
Erthygl nesaf Gweithwyr busnes proffesiynol yn dod at ei gilydd i ddyrchafu Wrecsam Gweithwyr busnes proffesiynol yn dod at ei gilydd i ddyrchafu Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English