Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Wythnos Cysylltiadau Coetir yn dychwelyd gyda’r thema “Ceisio Noddfa”
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Adult holding a child's hand
Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Digwyddiadau Y cyngor
Celf ffenestr cartŵn llachar gan 'PaintedCreations by ME' (Michelle Edwards) ar gyfer arddangosfa 'Seirian versus the Leukamians' yn Nhŷ Pawb, Wrecsam
Arddangosfa Seirian yn Nhŷ Pawb: creadigrwydd dewr trigolyn ifanc Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Wrexham bus station - stand 5
Isio gwybod ble i ddal y bws gwennol o ganol dinas Wrecsam i’r Maes?
Digwyddiadau Pobl a lle
Jan Picken, Senior MIS Support and Training Officer for Wrexham Council
Ysgolion Wrecsam yn elwa o gyfres meddalwedd SGR newydd a gynhelir yn y cwmwl
Busnes ac addysg
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae Wythnos Cysylltiadau Coetir yn dychwelyd gyda’r thema “Ceisio Noddfa”
Y cyngorPobl a lle

Mae Wythnos Cysylltiadau Coetir yn dychwelyd gyda’r thema “Ceisio Noddfa”

15-21 Mehefin

Diweddarwyd diwethaf: 2024/06/11 at 2:18 PM
Rhannu
Darllen 8 funud
Woodland Connections
RHANNU

Mae coed a choetiroedd yn noddfa i bobl a bywyd gwyllt.  Eleni, ar gyfer Wythnos Cysylltiadau Coetir, mae Cyngor Sir Wrecsam wedi ymuno â Phartneriaeth Coedwigoedd Wrecsam i gynnal cyfres o ddigwyddiadau a sgyrsiau trwy gydol yr wythnos i ddangos i bobl pa mor arbennig ydynt.

Mae nifer o goed o amgylch sir Wrecsam wedi eu dewis fel teyrnged i thema ‘Ceisio Noddfa’. Mae pob coeden wedi’i henwebu am gynnig ‘Noddfa’ mewn un ffordd neu’r llall. Ymhlith y coed mae enillydd Coeden y Flwyddyn y DU 2023, Castanwydden Bêr Wrecsam, hen goeden 484 oed yng nghanol Parc Acton.

Dywedodd Terry Evans, Aelod Arweiniol Adran yr Amgylchedd a Thechnegol “Bu’n bleser gweithio gyda sefydliadau sydd â diddordeb mor angerddol mewn coed a choetiroedd yn Wrecsam. Mae’r weledigaeth hon a rennir ar gyfer ein hasedau coed yn golygu ein bod yn buddsoddi amser, ymdrech ac arian er budd mannau agored i bobl a natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.’

Mae Partneriaeth Coedwigoedd Wrecsam yn gasgliad o sefydliadau sydd wedi arwyddo Addewid Coetir Wrecsam i ddangos eu hymrwymiad i gynyddu brigdwf coed, ac amddiffyn coed a choetir sy’n bodoli ar draws y fwrdeistref sirol. 

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Un o’r ymrwymiadau yw “gwella iechyd a lles trwy annog a galluogi cysylltiadau gyda natur a choetir”.  Mae Wythnos Cysylltiadau Coetir yn rhoi cyfleoedd i bawb ar draws Wrecsam i wneud hynny.

Dywedodd Rachel Alexander, Swyddog Pobl a Lleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru, “Mae Wythnos Cysylltiadau Coetir Partneriaeth Coedwigoedd Wrecsam yn gyfle gwych i bwysleisio pwysigrwydd brigdwf coed trefol.

“Rydym yn gwybod fod coed a choetiroedd yn hyrwyddo synnwyr o iechyd a lles mewn cymunedau lleol, gan olygu gwell ansawdd bywyd i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Wrecsam.

“Gall coed mewn ardaloedd trefol hefyd gysylltu ardaloedd gwyrdd i bobl a bywyd gwyllt, gan hidlo llwch yn yr aer a chynnig byffer rhag sŵn o ardaloedd diwydiannol, a gwneud cyfraniad allweddol hefyd at y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.”

Ymunwch â gweithgareddau sy’n digwydd ar draws Wrecsam gan ddechrau ddydd Sadwrn 15 Mehefin gyda thaith dywysedig o amgylch coed canol y ddinas yna noson ystlumod a gwyfynod yng Nghoedwig Llwyneinion.  Mae’r wythnos yn parhau gyda sesiynau o amgylch y tân ym Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Sgwrs am Goed Hynafol yn Tŷ Pawb a thaith gerdded Trochi yn y Goedwig Heuldro’r Haf trwy Goedwig Plas Power. 

I wybod mwy am y digwyddiadau hyn ewch i dudalen Facebook Partneriaeth Coedwigoedd Wrecsam.  Mae llefydd yn gyfyngedig, felly cadwch eich lle yn fuan trwy gysylltu â woodlandpledge@wrexham.gov.uk.

Dim amser i fynd i’r digwyddiadau hyn?  Ni fyddwch yn colli unrhyw beth!  Ewch i ymweld ag un o’r Coed Noddfa ar draws Wrecsam gyda ffrind neu aelod o’r teulu a myfyrio ar beth mae Noddfa yn ei olygu i chi neu edrych ar y coed i ddarganfod pa fywyd gwyllt sy’n byw yma. 

Dywedodd Sorrel Taylor o Ardd Furiog Fictoraidd Erlas, “Rydym yn falch o gael un o’r Coed Noddfa yma.  Mae’n rhoi cyfle i bobl gymryd ychydig o amser, ac ailgysylltu â natur – profiad lles gwerthfawr iawn.”

I ddod o hyd i’ch ‘Coeden Noddfa’ agosaf edrychwch ar ein map yn Tŷ Pawb neu darllenwch amdano ar ein blog.

Gallwch chi hefyd enwebu eich coeden Noddfa eich hun!  Yr oll sy’n rhaid i chi ei wneud yw anfon llun, pwynt lleoliad a disgrifiad byr ynglŷn â pham fod eich coeden yn noddfa i chi, eich cymuned neu fywyd gwyllt. Anfonwch eich cynigion at woodlandpledge@wrexham.gov.uk a byddwn yn arddangos eich coeden i chi.  Sicrhewch fod gennych ganiatâd y tirfeddiannwr.

Mae’r gwaith hwn wedi bod yn bosib gyda chefnogaeth gan Coed Cadw yng Nghymru gan ddefnyddio’r Gronfa Argyfwng i Goed. Dywedodd Terry Evans, Aelod Arweiniol adran yr Amgylchedd a Thechnegol, ‘mae’r arian hwn wedi bod yn allweddol yn ei hymdrechion i gynyddu brigdwf coed a gwella cysylltedd rhwng coetiroedd ar gyfer bioamrywiaeth ac mae wedi dod â phwysigrwydd coed a choetiroedd i’r arena gyhoeddus yn Wrecsam.’

Edrychwn ymlaen at eich gweld ger coeden yn fuan!

Ein cenhadaeth yw creu cysylltiadau rhwng pobl, sefydliadau, diddordebau a materion er mwyn gwireddu’r weledigaeth.

Ein gweledigaeth yw y bydd cymunedau ar draws y Sir yn cydnabod ac yn dathlu eu hetifeddiaeth goed a bod partneriaid a chymunedau yn gweithio gyda’i gilydd i greu tirwedd gysylltiedig gyda hen goed yn ogystal â choed newydd wrth wraidd ein cymunedau nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ynglŷn â Chyngor Sir Wrecsam

Mae coed a choetiroedd yn rhan hanfodol o’n trefi a chefn gwlad. Maent yn bwysig ar gyfer ein hiechyd, lles ac ansawdd bywyd. Ni allwn gymryd eu dyfodol yn ganiataol.

Mae newid hinsawdd, plâu ac afiechydon, datblygiadau adeiladu, arferion amaethyddol modern a chanfyddiadau anghywir o ran risg yn rhai o broblemau sydd yn bygwth ein coed.

Yng Nghyngor Wrecsam, rydym wedi datblygu ‘Addewid Coetir’ i helpu diogelu coed a choetiroedd ar draws y fwrdeistref sirol. Mae’r addewid hefyd yn helpu pobl i fynd allan i’r awyr agored i fwynhau coed a choetiroedd yn eu cymdogaeth.

Ydych chi wedi llofnodi’r addewid eto?

Dangoswch eich cefnogaeth i goed a choetiroedd a chofrestru ar gyfer ein haddewid coetir yn Addewid Coetir Wrecsam.

Ynglŷn â Choed Cadw yng Nghymru

Coed Cadw yw’r elusen cadwraeth goed fwyaf yn y DU. Mae ganddi dros 500,000 o gefnogwyr.  Mae am weld DU yn llawn coedwigoedd a choed brodorol ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth dair nod allweddol:

  • diogelu coetir hynafol prin ac unigryw.
  • adfer coetir hynafol sydd wedi’u difrodi, gan ddod â rhannau gwerthfawr o’n hanes naturiol yn ôl yn fyw.
  • plannu coed a choedwigoedd brodorol gyda’r nod o greu tirweddau gwydn i bobl a bywyd gwyllt. 

Wedi’i sefydlu ym 1972, erbyn hyn mae gan Coed Cadw dros 1,200 o safleoedd dan ei gofal sy’n cwmpasu oddeutu 29,000 hectar.  Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gyda chyfanswm arwynebedd o 2,987 hectar (7,155 erw).  Mae mynediad i’w goedwigoedd am ddim, felly gall pawb elwa o goedwigoedd a choed.

Mae enw Cymraeg yr Ymddiriedolaeth, “Coed Cadw”, yn hen derm Cymraeg, a ddefnyddir mewn deddfau canoloesol i ddisgrifio coetir gwarchodedig neu gadwedig.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wythnos Cysylltiadau Coetir, 15 Mehefin i 21 Mehefin - Coed Noddfa Wrecsam Wythnos Cysylltiadau Coetir, 15 Mehefin i 21 Mehefin – Coed Noddfa Wrecsam
Erthygl nesaf Mae’r wybodaeth Datgarboneiddio Wrecsam bellach yn fyw! Mae’r wybodaeth Datgarboneiddio Wrecsam bellach yn fyw!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Adult holding a child's hand
Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Digwyddiadau Y cyngor Awst 1, 2025
Celf ffenestr cartŵn llachar gan 'PaintedCreations by ME' (Michelle Edwards) ar gyfer arddangosfa 'Seirian versus the Leukamians' yn Nhŷ Pawb, Wrecsam
Arddangosfa Seirian yn Nhŷ Pawb: creadigrwydd dewr trigolyn ifanc Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 1, 2025
Wrexham bus station - stand 5
Isio gwybod ble i ddal y bws gwennol o ganol dinas Wrecsam i’r Maes?
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 30, 2025
Jan Picken, Senior MIS Support and Training Officer for Wrexham Council
Ysgolion Wrecsam yn elwa o gyfres meddalwedd SGR newydd a gynhelir yn y cwmwl
Busnes ac addysg Gorffennaf 29, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Adult holding a child's hand
DigwyddiadauY cyngor

Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 1, 2025
Celf ffenestr cartŵn llachar gan 'PaintedCreations by ME' (Michelle Edwards) ar gyfer arddangosfa 'Seirian versus the Leukamians' yn Nhŷ Pawb, Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lle

Arddangosfa Seirian yn Nhŷ Pawb: creadigrwydd dewr trigolyn ifanc Wrecsam

Awst 1, 2025
Wrexham bus station - stand 5
DigwyddiadauPobl a lle

Isio gwybod ble i ddal y bws gwennol o ganol dinas Wrecsam i’r Maes?

Gorffennaf 30, 2025
Free pre-loved school uniform shop opens in the Wellbeing Hub.
Busnes ac addysgDatgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim yn agor yn yr Hwb Lles

Gorffennaf 25, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English