Mae yna ddigon o bethau i ddiddanu’r rhai bach yn Llyfrgell Wrecsam yn ystod yr wythnosau nesaf a, gorau oll, maen nhw’n rhad ac am ddim!
Yn gyntaf, bydd Xplore! yn ymweld â bron bob llyfrgell dros yr haf i gynnal sesiynau adeiladu. Mae’r holl amseroedd ar gael isod, a chofiwch archebu lle ymlaen llaw. Mae’r sesiynau yn rhad ac am ddim ac yn addas i blant 3-8 oed.
16 Awst
Llyfrgell Wrecsam 11am-12.30pm
Llyfrgell Wrecsam 1.30-3pm
18 Awst
Llyfrgell Rhiwabon 11am-12pm
Llyfrgell Cefn Mawr 2pm-3pm
22 Awst
Llyfrgell y Waun 11am-12pm
Llyfrgell Rhos 2-3pm
23 Awst
Llyfrgell Brynteg 11am-12pm
Llyfrgell Llai 2-3pm
26 Awst
Llyfrgell Coed-poeth 11am-12pm
Llyfrgell Gwersyllt 2-3pm
Bydd Magi Ann hefyd yn ymweld â phob llyfrgell dros yr haf. Mae’r sesiwn yn y bore yn cynnwys celf a chrefft am hanner awr ac yna Amser Stori a Rhigwm gyda Magi Ann.
Bydd sesiwn y prynhawn yn cynnwys Amser Stori a Rhigwm gyda Magi Ann a bydd y plant yn cael pecyn lliwio i fynd adref gyda nhw. Mae sesiynau Magi Ann yn addas i blant dan 5.
27 Gorffennaf
Llyfrgell Coed-poeth 10:30-11:30am
Llyfrgell Rhiwabon 1:30-2:15pm
Llyfrgell Brynteg 3-3:45pm
10 Awst
Llyfrgell Wrecsam 10:30-11:30am
Llyfrgell Cefn Mawr 1:30-2:15pm
Llyfrgell Llai 3-3:45pm
24 Awst
Llyfrgell Gwersyllt 10:30-11:30am
Llyfrgell y Waun 1:30pm-2:15pm
Llyfrgell Rhos 3-3:45pm
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR