Mae dau ddisgybl talentog o Ysgol Maelor yn Llannerch Banna wedi cyrraedd y rhestr fer yn rownd derfynol Gwobr Myfyrwyr Caer 2026 y Sovereign Art Foundation, cystadleuaeth ranbarthol fawr sy’n dathlu talent artistig ledled Caer a Gorllewin Swydd Gaer, Wrecsam a Sir y Fflint.
Mae Sophie Hughes ac Edan Carpenter ill dau wedi cael eu cydnabod am eu gwaith rhagorol ac maent ymhlith 30 o bobl sydd wedi cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer yr arddangosfa eleni.
Dewiswyd ‘Hunanbortread, Hunaniaeth’ gan Sophie a ‘Hunanbortread’ gan Edan ar gyfer y rhestr fer – cydnabyddiaeth genedlaethol ryfeddol o’u creadigrwydd, eu sgiliau a’u hymroddiad.
Mae’r wobr flynyddol yn gwahodd ysgolion uwchradd lleol i enwebu eu myfyrwyr celf mwyaf addawol, gyda phob myfyriwr yn cyflwyno darn o gelf i’w ystyried.
Bydd y gweithiau celf ar y rhestr fer yn cael eu harddangos yn gyhoeddus yn Eglwys Gadeiriol Caer rhwng 27 Ebrill a 5 Mai 2026, lle bydd ymwelwyr yn gallu gweld yr arddangosfa a phleidleisio dros eu hoff ddarn.
Fel rhan o’r gystadleuaeth, bydd yr artist sy’n derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau cyhoeddus yn ennill Gwobr y Bleidlais Gyhoeddus, sef £400, a bydd £1,000 yn mynd i’w ysgol. Bydd y beirniaid hefyd yn dewis enillydd cyffredinol a fydd yn derbyn £800, gyda £2,000 yn mynd i’w ysgol.
Bydd pob gwaith celf ar y rhestr fer hefyd yn cael ei gynnwys mewn ocsiwn tawel, gyda’r elw’n cael ei rannu’n gyfartal rhwng y myfyriwr a’r Sovereign Art Foundation. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bawb ar y rhestr fer elwa’n ariannol o’u gwaith, a thynnu sylw’r cyhoedd sy’n prynu celf atynt.
Mae’r cyflawniad yn foment falch i Ysgol Maelor ac yn adlewyrchu’r creadigrwydd, yr ymroddiad a’r rhagoriaeth artistig sy’n cael eu meithrin yn ei hadran gelf.
Dywedodd Leanne Eyre, Pennaeth Ysgol Maelor, “Rydym yn hynod falch o Sophie ac Edan am y cyflawniad gwych hwn. Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr gelf ranbarthol mor fawreddog yn brawf o’u creadigrwydd, eu hymroddiad a safon uchel y gwaith maen nhw wedi’i gynhyrchu.”
“Yn Ysgol Maelor, rydym wedi ymrwymo i feithrin talent ac annog ein myfyrwyr i fynegi eu hunain gyda hyder ac uchelgais, ac mae’n wych gweld eu hymdrechion yn cael eu cydnabod yn y modd hwn.”
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ar 5 Mai 2026.



