Pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn rhannu’r perthnasoedd ystyrlon y gwnaethon nhw eu datblygu drwy’r gymuned faethu, ac a newidiodd eu bywydau er gwell.
Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth, sy’n cael ei gynnal yn flynyddol a rhwng 12 a 25 Mai yn 2025, mae’r gymuned faethu yn dathlu pŵer perthnasoedd.
Boed yn gysylltiad rhwng gofalwr a phlentyn, y berthynas sy’n cael ei meithrin gyda gweithwyr cymdeithasol cefnogol, neu’r cyfeillgarwch sy’n datblygu rhwng gofalwyr maeth o fewn cymuned, perthnasoedd cryf yw’r llinyn arian ymhob stori faethu.
Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Nod Maethu Cymru yw recriwtio 800 o ofalwyr ychwanegol erbyn 2028.
Dim ond tri diwrnod oedd gan Lisa i fynd cyn ei phen-blwydd yn 8 oed pan aeth i ofal maeth yn Wrecsam.
Mewn amgylchedd anghyfarwydd, roedd ofn arni. Doedd hi ddim yn deall pam ei bod hi yno. Ond 21 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r teulu maeth a agorodd eu calonnau a’u cartref iddi fel plentyn 7 oed ofnus ac agored i niwed, yn dal i fod yn deulu iddi heddiw – ac maen nhw wastad wedi bod yno iddi.
Dywed Lisa fod gofal maeth wedi achub ei bywyd.
“Ar ôl blynyddoedd o ddioddef camdriniaeth, fe wnaethon nhw wneud i fi deimlo’n ddiogel. Doedd dim ofn arna i mwyach,” dywed Lisa, sydd bellach yn fam ei hun ac yn astudio i fod yn nyrs.
“Pan gyrhaeddais i, doeddwn i ddim yn gallu darllen nac ysgrifennu. Gwnaeth fy ngofalwyr maeth fy nghefnogi trwy bopeth. Trefnon nhw diwtor i fi, fy helpu gyda chlybiau ar ôl ysgol, ac roedden nhw’n darllen gyda fi bob nos.”
“Maen nhw wastad wedi fy nhrin fel aelod o’r teulu, yn ddim gwahanol i’r ffordd roedden nhw’n trin eu plant eu hunain. Fe wnaethon nhw fy nerbyn i am bwy oeddwn i, ac felly y mae o hyd.”
Bu Lisa’n byw gyda’i theulu maeth tan iddi gyrraedd 19 oed a symud i’w fflat ei hun pan oedd hi’n feichiog. “Dywedon nhw wrtho i y gallwn i aros cyhyd ag oeddwn i eisiau, ond roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n bryd cael fy lle fy hun. Hyd yn oed wedyn, fe wnaethon nhw fy nghefnogi bob cam o’r ffordd. Fe wnaethon nhw’n siŵr bod gen i bopeth oedd ei angen arna i i ddechrau’r bennod nesaf. Maen nhw’n trin fy mhlentyn fel un o’u hwyrion, ac maen nhw’n gymaint rhan o’n bywyd ag y buon nhw erioed.
“Rwy dal i fod mewn cysylltiad â phlant eraill gafodd eu maethu gan fy nheulu. Aeth rhai ohonyn nhw yn ôl at eu teuluoedd biolegol, ond rydyn ni i gyd wedi aros mewn cysylltiad. Maen nhw’n teimlo fel teulu estynedig i fi.”
“Mae maethu yn creu’r cysylltiadau oes hynny, er bod taith pawb yn wahanol.”
Dywedodd y Cynghorydd Robert Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant a Theuluoedd: “Mae stori Lisa yn dangos mor bwysig y gall rôl gofalwr maeth fod. Gall cael amgylchedd diogel newid bywydau pobl ifanc sydd wedi profi amseroedd anodd o’r blaen.
“Os ydych chi wedi meddwl am fod yn ofalwr maeth ond nad ydych chi’n siŵr beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd, neu efallai eich bod chi’n gwybod y byddwch chi’n gallu cynnig cartref gofalgar i berson ifanc ond yn teimlo y byddai angen cefnogaeth arnoch i wneud gwahaniaeth go iawn, yna cysylltwch â’n tîm yma yn Wrecsam. Byddant yn gallu rhoi’r holl wybodaeth a’r help sydd ei angen arnoch chi.”
I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Wrecsam, ewch i: wrecsam.maethucymru.llyw.cymru/
Dewch i gwrdd â thîm Wrecsam Maethu Cymru yn un o’n digwyddiadau:
- 15 Mai, Sesiwn alw heibio i gael gwybodaeth yn yr Hwb Llesiant rhwng 10am a 2pm
- 20 Mai, Stondin wybodaeth yn Tesco (canol dinas Wrecsam) 10am – 2pm.
Os na allwch gyrraedd un o’r digwyddiadau hyn, ffoniwch ni ar 01978 295316 neu e-bostiwch fostering@wrexham.gov.uk a gallwn drefnu sgwrs anffurfiol neu anfon gwybodaeth atoch.