Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Peidiwch â chymryd cam gwag costus y Nadolig hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Peidiwch â chymryd cam gwag costus y Nadolig hwn
ArallPobl a lle

Peidiwch â chymryd cam gwag costus y Nadolig hwn

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 20, 2025 11:07 am
Rhannu
Darllen 4 funud
E-Scooter in Christmas wrapping paper
RHANNU

Does neb am i’r Nadolig gael ei ddifetha. Bydd y cyngor canlynol gan Diogelwch Ffyrdd Cymru yn eich helpu i osgoi prynu anrheg allai gael ei hatafaelu gan yr Heddlu ac arwain at ddirwy a phwyntiau cosb i’r defnyddiwr. Cyn prynu, cofiwch: yng Nghymru dim ond gyda chaniatâd y tirfeddiannwr y cewch chi reidio e-sgwteri yn gyfreithlon ar dir preifat.


Esboniodd Rhys John-Howes, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru: “Mae reidio e-sgwter ar y briffordd, y palmant, neu ar lonydd beicio yng Nghymru yn anghyfreithlon. Does dim cynlluniau rhentu ar waith yng Nghymru, felly mae unrhyw un sy’n defnyddio e-sgwter fel hyn yn torri’r gyfraith. Mae unrhyw un sy’n ystyried e-sgwter fel anrheg angen i’r beiciwr fod â mynediad i dir preifat a chaniatâd i’w reidio yno. Mae prynu e-sgwter yn debygol o fod yn gamgymeriad drud y dylai teuluoedd ei osgoi ar bob cyfri.”

Peidiwch â chymryd cam gwag costus y Nadolig hwn


Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru hefyd yn gofyn i’r cyhoedd sicrhau, os ydyn nhw’n bwriadu prynu e-feic (beic pedal â chymorth trydan/EAPC) ei fod yn gyfreithlon ar y ffordd; os nad yw, fe allai’r beicwyr wynebu camau gan yr Heddlu a chael y beic wedi’i atafaelu a’i falu.


Er mwyn cael ei ddefnyddio’n gyfreithlon ar y ffordd, rhaid i e-feic fod ag allbwn pŵer o 250 watt ar y mwyaf ac ni ddylai allu gyrru’r beic pan fo’n mynd ar fwy na 15.5mya. Os yw modur y beic yn mynd yn gyflymach na hyn, neu os nad oes angen ei bedlo, byddwch yn ymwybodol nad yw’n gyfreithlon ar y ffordd a’i fod yn cael ei ddosbarthu fel beic modur. Yn ôl y gyfraith, rhaid i feiciau modur gael eu cofrestru, eu trethu a’u hyswirio; rhaid i’r beiciwr feddu ar y drwydded yrru addas a gwisgo helmed damwain.


Ychwanegodd Kayleigh Tonkins, Is-gadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru, “Dylai unrhyw un sy’n meddwl prynu e-feic ymchwilio’n ofalus cyn gwario’u harian prin. Rhaid i feicwyr fod yn 14 oed o leiaf a defnyddio’r e-feic fel unrhyw feic safonol, fel yr amlinellir yn Rheolau’r Ffordd Fawr”.

Peidiwch â chymryd cam gwag costus y Nadolig hwn


Mae cymunedau ledled Cymru wedi wynebu ymddygiad gwrthgymdeithasol a gyrru’n beryglus ar feiciau trydan wedi’u haddasu a beiciau trydan, beiciau modur trydan, beiciau modur oddi ar y ffordd, ac e-sgwteri anghyfreithlon. Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn cefnogi’n cydweithwyr yn yr Heddlu yn llawn i atafaelu cerbydau sy’n cael eu reidio’n anghyfreithlon ac erlyn beicwyr sy’n peryglu eu hunain ac aelodau o’r cyhoedd.


Dywedodd yr Arolygydd yn Heddlu Dyfed-Powys, Dawn Fencott-Price, “Rydyn ni’n annog pawb i feddwl ddwywaith cyn prynu sgwteri electronig ar gyfer y Nadolig gan fentro mynd yn groes i’r gyfraith. Rydyn ni’n deall y gall e-sgwteri ymddangos fel syniad hwyliog a chyffrous am anrheg, ond mae’n bwysig deall y rheolau a’r risgiau sy’n dod gyda nhw. Mae e-sgwteri preifat yn anghyfreithlon i’w defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus, palmentydd, neu lwybrau beicio. Gall eu cyflymder a’u distawrwydd greu perygl sylweddol i ddefnyddwyr eraill y ffordd ac i ddiogelwch cerddwyr, yn enwedig cerddwyr sy’n agored i niwed. Mae llawer o bobl yn anymwybodol o’r cyfyngiadau ar e-sgwteri ac er y gallai manwerthwyr fod yn hapus i werthu un
i chi, fe allai gael ei atafaelu yr eiliad y byddwch chi’n ceisio’i ddefnyddio mewn man cyhoeddus”.


Peidiwch â chael eich dal trwy reidio’n anghyfreithlon. Gofalwch eich bod yn gwybod y gyfraith ar e-feiciau ac e-sgwteri.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Diogelwch Ffyrdd Cymru.

Peidiwch â chymryd cam gwag costus y Nadolig hwn
E-Scooter – 7

Rhannu
Erthygl flaenorol Cost of Living Cyngor Wrecsam yn Cyhoeddi Cymorth Costau Byw Cyn y Nadolig
Erthygl nesaf Montage of images from Wrexham Victorian Christmas Market Marchnadoedd Nadolig Fictoraidd Wrecsam yn Dychwelyd y Tymor Nadoligaidd hwn – Wedi’i Noddi yn Falch gan Costa Coffee Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English