Mae’n swnio fel ein bod ni am gael ychydig o dywydd gwlyb a gwyntog dros y dyddiau nesaf
Gallwch roi gwybod i’r cyngor am unrhyw faterion (e.e. difrod storm, coed wedi cwympo ac ati) trwy ffonio’r rhifau canlynol:
- (24awr) 01978 298989
- Gwaith trwsio ar dai tenantiaid y Cyngor (24 awr) 01978 298993. Gallwch hefyd anfon e-bost at wrexhamemergency@deltawellbeing.org.uk ar gyfer galwadau y Tu Allan i Oriau yn Unig.
Plîs ffoniwch am faterion brys yn unig-am unrhyw faterion eraill, plîs helpwch ni drwy nodi eich problem.
Gallwch roi gwybod am unrhyw faterion o ran colli trydan trwy ffonio 105 (Mae Toriad Pwer 105 yn wasanaeth am ddim a fydd yn eich cysylltu â gweithredwr yn eich rhwydwaith lleol am gymorth a chefnogaeth).
Gellir hysbysu Dŵr Cymru am unrhyw argyfwng gyda charthion yn gorlifo o ddraeniau ar 0800 085 3968.
Cofiwch, os oes perygl uniongyrchol i fywyd yn ystod unrhyw dywydd gwael, dylech ffonio 999 bob tro.
Rydym yn cynghori pawb i beidio â cherdded mewn ardaloedd coediog ac os ymwelwch â’n parciau gwledig arhoswch mewn mannau agored oherwydd gallai malurion hedfan ac achosi risg sylweddol o anafiadau. Dylech hefyd osgoi cerdded ger afonydd a nentydd cyflym.
Os ydych yn mentro allan mae gan Traffig Cymru awgrymiadau a chyngor ar gadw’n ddiogel yn ogystal â mapiau o faterion cyfredol ar draws rhwydwaith traffig Cymru.
Mae Gwefan ac ap y UK Met Office rhagolygon tywydd diweddaraf a gwybodaeth am gadw’n ddiogel yn ystod tywydd gwael