Ym mis Mehefin eleni gwnaethon ni lansio ymgynghoriad yn gofyn am eich barn, i helpu llunio dyfodol gwasanaethau cymdeithasol oedolion yn Wrecsam.
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau a byddwn yn rhannu’r adborth a gawsom, gan gynnwys y canlynol:
- Opsiynau a chyfleoedd cyfathrebu cynhwysol
- Grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli
- Hyrwyddo heneiddio’n iach
- Cymorth Dementia
- Gofalwyr di-dâl
- Lles Meddyliol
- Hygyrchedd ac argaeledd gwasanaethau
- Gwneud penderfyniadau mewn ffordd dryloyw
- Gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Bod yn glir am y gefnogaeth y gall gofal cymdeithasol oedolion ei darparu
Fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn i ddatblygu strategaethau gofal cymdeithasol, dywedoch chi y byddech chi’n hoffi gweld mwy o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb y tu allan i ganol y ddinas.
Felly, rydyn ni’n dod i leoliad yn agos i chi i rannu canlyniadau’r arolwg.
Manylion y digwyddiadau
Sesiynau galw heibio bydd y rhain, sy’n golygu nad oes angen i chi drefnu apwyntiad, dim ond cyrraedd rhywbryd rhwng yr amseroedd dechrau a gorffen a byddwch yn gallu siarad ag un o aelodau ein tîm gofal cymdeithasol.
Gallwn egluro canlyniadau’r arolwg a gallwch chi ein helpu i lunio’r camau nesaf.
Bydd un o’n staff o’r Hwb lles yno hefyd, fydd yn gallu eich cyfeirio at amrywiaeth o wasanaethau a chymorth nad ydych efallai’n gwybod amdanynt.
Dewch i ymuno â ni ym mis Medi neu ddechrau mis Hydref, os gallwch chi:
Rhos Llyfrgell y Rhos
- Dydd Mawrth, 9 Medi, 2025
- 1 – 3pm
Y Mwynglawdd / Coedpoeth: Canolfan Adnoddau Plas Pentwyn
- Dydd Mawrth, 30 Medi, 2025
- 10 – 11.30am
Canol y Ddinas: Yr Hwb Lles, Adeiladau’r Goron
- Dydd Mawrth, 30 Medi, 2025
- 1 – 2.30pm
Acton: Canolfan Adnoddau Acton
- Dydd Mercher, 1 Hydref, 2025
- 1 – 2.30pm
Owrtyn: Ystafelloedd y plwyf, Neuadd Bentref Owrtyn
- Dydd Llun, 6 Hydref, 2025
- 2 – 3.30pm
Gresffordd: Llyfrgell Gresffordd
- Dydd Mawrth, 7 Hydref, 2025
- 1 – 2.30pm
Rhannwch y neges
Mae’r sesiynau hyn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn clywed canlyniadau’r arolwg yn fwy manwl.
Os ydych chi’n adnabod rhywun arall sy’n derbyn cymorth gofal cymdeithasol oedolion yn Wrecsam ac a fyddai â diddordeb mewn dod i un o’r sesiynau hyn, rhowch wybod iddynt.
Oeddech chi’n gwybod? Os ydych chi’n oedolyn yn Wrecsam sy’n chwilio am gymorth lles, gallwch weld pa wasanaethau lleol sydd ar gael drwy ein Porth Lles ar-lein.