Ydych chi’n cael trafferth parcio pan fyddwch chi’n mynd i gêm Wrecsam? Gwasanaeth parcio a theithio Ffordd Rhuthun yw’r ateb!
Eisiau mynd allan am ddiod ar ôl y gêm neu’n teimlo bod trafnidiaeth gyhoeddus yn ddrud? Tocyn Arriva am bris gostyngol yw’r ateb!
Darllenwch isod i ddysgu mwy…
Gwasanaeth parcio a theithio Ffordd Rhuthun
Parcio rhad, cyfreithlon a chyfleus, gyda digon o leoedd a dim perygl o gael tocyn parcio. (Gwyliwch y fideo isod i weld pa mor hawdd yw hi.)
Cyn y gêm
Parcio y tu allan i swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7TU.
Bydd bysus yn rhedeg bob 20 munud gan ddechrau am 6pm; bws olaf 7.20pm.
Ar ôl y gêm
Bydd bysus yn rhedeg bob 20 munud gan ddechrau am 10pm o Ffordd yr Wyddgrug; bws olaf 11.20pm.
Mae pob bws ar ôl y gêm yn rhedeg o Ffordd yr Wyddgrug.
Dim ond £1 am daith ddwyffordd i oedolion (50c i blant)
Maes parcio’n cau am 11.59pm.
Os nad ydych chi eisiau gyrru i’r gemau…
Os nad ydych chi eisiau gyrru i’r gemau, beth am ddal y bws a thalu llai wrth ddangos eich tocyn i’r gêm i’r gyrrwr?
Prynwch Docyn Parth Wrecsam (gallwch weld y llwybrau yma) a thalu £3.00 ar gyfer Oedolyn/£2.00 ar gyfer Plentyn – gan arbed hyd at £2.60.
Ar ôl y gêm fydd dim brys i deithio adref gan fod tocynnau dydd yn ddilys tan 11.59pm ar y diwrnod, felly gallwch aros yng nghanol y ddinas i ddathlu buddugoliaeth arall!
Cofrestrwch i bleidleisio mewn pryd ar gyfer Etholiad y Senedd ar 7 Mai, 2026.



