Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut ydych chi’n creu cyngor ysgol berffaith?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Parking sign
Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle
St Mark's Car Park in Wrexham
Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Arall
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Sut ydych chi’n creu cyngor ysgol berffaith?
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Sut ydych chi’n creu cyngor ysgol berffaith?

Diweddarwyd diwethaf: 2022/12/12 at 12:52 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
school councillor
RHANNU

Mae disgyblion sydd ar y cynghorau ysgol yn Wrecsam wedi cael blwyddyn brysur yn codi arian i gael siediau beiciau newydd, gosod larymau mwg yn y toiledau, ailwampio mynediad i’r anabl neu chwilio am lwyddiannau cyn-ddisgyblion – ac roedd digwyddiad Cynghorau Ysgol Cyngor Wrecsam yn lle gwych i rannu eu prosiectau gyda’i gilydd.

Mae cynghorau ysgol yn cynnwys disgyblion o bob blwyddyn ysgol, a’u gwaith nhw yw cynrychioli disgyblion eraill i’r pennaeth a’r staff, a lleisio eu safbwynt ar ran poblogaeth yr ysgol

Roedd digwyddiad cynghorau ysgol, a drefnwyd gan y Tîm Cyfranogi Wrecsam, yn ffordd wych i ddangos i bobl ifanc y cyfleoedd sydd ganddynt yn Wrecsam i ddysgu mwy am ddemocratiaeth ar y cyfan, sut y gallent gymryd rhan a hefyd sut i wella eu sgiliau wrth gynrychioli eu cyd-ddisgyblion.

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Roedd hefyd yn gyfle gwych i gynghorau o wahanol ysgolion gymharu nodiadau ar yr hyn y maent wedi ei wneud.

Wrth gyflwyno’r digwyddiad, dywedodd Donna Dickenson, Pennaeth y Gwasanaeth Atal a Chefnogaeth, Gwasanaethau Addysg ac Ymyrraeth Gynnar: “Yn yr adran addysg rydym wirioneddol eisiau gwybod beth mae plant a phobl ifanc yn meddwl amdano, felly rydym bob amser yn mynd at bobl ifanc fel chi a gwrando ar eich llais chi. Rwy’n gobeithio eich bod heddiw wedi cael cyfle i rannu syniadau a dysgu am gyfleoedd a fydd yn rhoi sgiliau i chi wrando ar anghenion eich cyfoedion ac yn gallu cyflwyno eich achos.

“Hefyd chi yw’r genhedlaeth nesaf o bleidleiswyr ac mae’n bwysig eich bod yn gwybod sut mae hyn yn gweithio. Mae llawer o syniadau yr ydym yn eu gwneud fel cyngor yn effeithio arnoch chi, felly rydym eisiau gwybod beth ydych yn feddwl amdano.”

Daeth disgyblion o Ysgol Clywedog, Ysgol Bryn Alyn, Ysgol St Christopher, Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff ac Ysgol y Grango i’r digwyddiad a dysgu am Senedd yr Ifanc, tîm Ysgolion Iachus a Disgybl Lywodraethwyr Cyswllt, a thrafod beth oedd yn gwneud cynghorydd ysgol berffaith.

Bu i’r gweithgaredd olaf ysgogi llawer o sgyrsiau, ac yn ffordd wych i bobl ifanc feddwl am ba sgiliau mae cynghorydd ysgol ei angen i gynrychioli ei ddisgyblion orau – ac roedd gwneud ymdrech, gofalu am syniadau eraill, bod yn amyneddgar, cadw at amser a bod yn gydweithredol wedi cyrraedd y rhestr.

Dywedodd Caroline Bennett, Cydlynydd Cyfranogiad Cyngor Wrecsam:  “Roedd hwn yn ddiwrnod pwysig a llawn hwyl. Mae’r pobl ifanc a ddaeth yn chwarae rôl bwysig o fewn strwythur eu hysgolion, ac mae ganddynt rolau gwerthfawr i gysylltu eu cyd-ddisgyblion gyda thimau rheoli’r ysgolion. Rydym yn gobeithio eu bod wedi gadael y digwyddiad gyda gwell ddealltwriaeth o’u rôl a sgiliau sydd yn eu gwneud yn well wrth gynrychioli eu cyd-ddisgyblion.”

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol DIWEDDARIAD: Mwy o luniau a fideos o ymweliad Y Brenin a’r Frenhines Gydweddog â Wrecsam DIWEDDARIAD: Mwy o luniau a fideos o ymweliad Y Brenin a’r Frenhines Gydweddog â Wrecsam
Erthygl nesaf calendar Cofiwch edrych ar eich calendr biniau wrth i ni agosáu at y Nadolig

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parking sign
Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 5, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Arall Mawrth 4, 2026
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau Mawrth 3, 2026
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Parking sign
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!

Mawrth 5, 2026
LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
St Anne's
Busnes ac addysg

Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English