Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sioe gerddorol fawreddog “Tattoo Cymru” yn dod i Neuadd William Aston ym mis Tachwedd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Sioe gerddorol fawreddog “Tattoo Cymru” yn dod i Neuadd William Aston ym mis Tachwedd
Pobl a lleArall

Sioe gerddorol fawreddog “Tattoo Cymru” yn dod i Neuadd William Aston ym mis Tachwedd

Diweddarwyd diwethaf: Awst 27, 2024 10:20 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Tattoo Cymru
RHANNU

Yn fuan bydd Wrecsam yn croesawu Tattoo Cymru – Ar y Llwyfan, sioe gerddorol fawreddog newydd yn nodi 80 mlynedd ers D-Day, yn Neuadd William Aston. Bydd y noson yn cynnwys casgliad o berfformiadau cerddorol ac arddangosiadau trawiadol.

Cynnwys
  • Bydd Tattoo Cymru yn noson ardderchog
  • Bydd Tattoo Cymru yn cynnwys
  • Lle a phryd
    • Tocynnau Tattoo Cymru

Bydd coffáu D-Day yn ganolog i’r digwyddiad, a bydd teyrngedau a hanesion arbennig yn amlygu’r dewrder a’r aberth a wnaed yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn mewn hanes. Daw’r digwyddiad i ben gyda diweddglo teimladwy sy’n adlewyrchu gwaddol D-Day.

Bydd Tattoo Cymru yn noson ardderchog

Dywedodd Gareth Butler, y trefnydd: “Rydym wrth ein boddau cael dod â’r digwyddiad hwn i Wrecsam. Dydy Wrecsam erioed wedi ein siomi ni, ac rwy’n gobeithio y bydd digwyddiad eleni yn achlysur calonogol a myfyriol, ac yn noson i’w chofio.

“Bydd Tattoo Cymru yn noson wych. Mae’n ddathliad o gymuned, hanes, a grym oesol cerddoriaeth i uno ac ysbrydoli. Peidiwch â cholli’r cyfle i fod yn rhan o’r dathliad hanesyddol hwn, a fydd yn cael effaith hirhoedlog ar bawb a fydd yn bresennol.”

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog, “Bu’r digwyddiadau blaenorol yn nosweithiau hynod lwyddiannus a theimladwy, ac mae’n briodol bod digwyddiad eleni’n amlygu’r dewrder a’r aberth a wnaed ar D-Day dros 80 mlynedd yn ôl.

“Wrth i Sul y Cofio nesáu, bydd yn deyrnged briodol i’n lluoedd arfog ac yn atgoffa’r gynulleidfa o’r aberth eithaf a wnaed ar ein rhan er mwyn i ni fedru mwynhau’r rhyddid sydd gennym ni heddiw.” “Wrth i’n meddyliau droi at Sul y Cofio, mae hyn yn deyrnged briodol i’n lluoedd arfog ac yn atgoffa’r gynulleidfa o’r aberth eithaf a wnaed ar ein rhan er mwyn i ni fedru mwynhau’r rhyddid sydd gennym ni heddiw.”

Bydd Tattoo Cymru yn cynnwys

  • Band Cyfunol y Gwasanaethau Tân ac Achub
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Dyfnaint a Gwlad yr Haf
  • Côr Meibion y Fron
  • Corfflu Drymiau’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
  • Band Pres Dinas Wrecsam
  • Pibau a Drymiau Cymdeithas Gwarchodlu’r Alban
  • Dawnswyr yr Ucheldiroedd, White Rose
  • Aelodau’r Gerddorfa Delynau Ieuenctid Genedlaethol
  • Arddangosiadau trawiadol o ddril manwl
  • Pibau a dawnsio traddodiadol y Gororau

Lle a phryd

Dydd Sadwrn, 2 Tachwedd 2024 – dechrau am 7:30pm

Neuadd William Aston, Prifysgol Wrecsam

Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam LL11 2AW

Tocynnau Tattoo Cymru

  • Safonol: £25
  • VIP: £40 – VIP

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Masnachu am ddim ym Marchnad Wrecsam ar ddydd Llun yn ymestyn i 31 Rhagfyr!

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydy'ch plentyn, sydd yn ei arddegua, yn aros mewn addysg neu hyfforddiant? Ewch ati i ymestyn eich Budd-dal Plant nawr. Ymestynnwch hawliad Budd-dal Plant eich plentyn yn ei arddegau heddiw
Erthygl nesaf Ty Pawb Rhestr Ardderchog o Berfformwyr ar gyfer Noson Gomedi Mis Medi!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English