Mae gan Price’s Lane yn Rhosddu ardal chwarae newydd swyddogol yn dilyn ei hagoriad swyddogol yr wythnos ddiwethaf.
Daeth plant ac athrawon o Ysgol Gynradd Rhosddu, aelodau o Gyngor Cymuned Rhosddu, y Cynghorydd I David Bithell, swyddogion o Gyngor Wrecsam, yr heddlu lleol a chynrychiolwyr o gontractwyr Wicksteed Leisure ynghyd i nodi’r agoriad swyddogol.
Dyluniwyd yr ardal chwarae gan Wicksteed Leisure yn dilyn ymgynghoriad helaeth â phlant yn yr ysgol leol.
Gofynnwyd i’r plant beth oeddent eisiau ei weld yn eu hardal chwarae newydd. Gofynnwyd yn benodol am:
- siglen ar gyfer grwpiau
- aml-uned
- wal ddringo
- llithren â chanllaw
- troellwr o’r awyr
- bwrdd cyfaill
- si-so aml ddefnyddiwr
- paneli gweithgaredd
- llwybr ystwythder
- si-so syrffio
Ar ôl derbyn y wybodaeth hon, aethpwyd ati i ddylunio amryw o ddyluniadau a rhoddwyd cyfle i’r plant ddewis eu ffefryn.
Dywedodd y Cynghorydd I David Bithell OBE, “Rwyf wedi bod yn ymgyrchu am ardal chwarae newydd yn Rhosddu ers sawl blwyddyn ac rwy’n hapus iawn gyda’r canlyniad terfynol. Bellach mae gennym le i blant bach a phlant o bob oed a gallu chwarae gyda’i gilydd.
Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o’r prosiect hwn yn cynnwys Cyngor Cymuned Rhosddu am ariannu’r gwaith a Chyngor Wrecsam am eu cefnogaeth o ran rheoli’r prosiect.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.