Yn dilyn Diwrnod Hawliau Gofalwyr, gofynnom i ofalwyr ifanc yn Wrecsam am yr heriau maent yn eu hwynebu fel gofalwyr ifanc.
Mae WCD Young Carers yn credu bod pob gofalwr ifanc yn anhygoel ac maent yn eu hatgoffa nhw o hynny. Mae eu cefnogaeth wedi’i theilwra, yn cynnwys clybiau seibiant bob pythefnos i wahanol grwpiau oedran, teithiau a gweithgareddau dros wyliau’r ysgol, cefnogaeth un-i-un yn ystod amseroedd anodd, eiriolaeth a chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion/colegau a’r gymuned hefyd.
Fe ddewch chi o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan WCD Young Carers.
Trawsgrifiad
Gofalwyr ifanc 1: Cydnabyddiaeth mae’n siŵr. Er bod llawer o wahaniaeth erbyn hyn, ac mae llawer o bobl bellach yn gwybod beth yw gofalwyr ifanc, nid yw rhai pobl yn gwybod, neu nid yw nifer o bobl yn barod i gydnabod y gwahaniaeth rhwng gofalwyr ifanc a phlentyn cyffredin arall.
Yn arbennig mewn ysgolion, mae’n fater mawr iawn oherwydd pan mae pobl angen mynd allan, neu anfon neges at eu teulu, neu pan fydd pobl angen colli ysgol, nid oes unrhyw un wir yn deall.
Rydych yn cael eich trin fel pawb arall, ond nid dyna’r achos, achos nid oes gennych yr un cyfrifoldebau â phawb arall.
Ar wahân i hynny, cyfoedion efallai. Mae ychydig yn well erbyn hyn, ac mae ffrindiau yn deall bod gennych ychydig mwy i’w wneud, ac ni allwch fynd allan a gwneud pethau. Rwy’n gwybod bod hynny yn gallu effeithio rhai pobl.
Yn arbennig rhai o’r gofalwyr ifanc sydd yn ffrindiau i mi – nid yw eu ffrindiau eraill yn deall pam nad allent fynd allan i wneud pethau.
Ac efallai o fewn sefydliadau eu hunain – y safbwynt bod pobl sy’n gwneud mwy angen mwy o help.
Oherwydd dydw i ddim yn teimlo fy mod yn gwneud llawer o’i gymharu â nifer o bobl, ond rwyf yn dal i fod yn ofalwr ifanc ac rwyf dal angen llawer o gymorth, ond rydw i’n meddwl nad yw rhai pobl yn meddwl fy mod angen cymaint o gymorth, gan nad ydw i’n gwneud cymaint â phobl eraill.
O’i gymharu â phobl sy’n gwneud nifer fawr iawn, maent yn credu bod yr unigolion hynny angen mwy o gymorth gan eu bod yn gwneud mwy, ond rwy’n teimlo bod llawer mwy yn digwydd tu ôl i’r llen.
Mae llawer mwy yn digwydd yn y cefndir, ac rwy’n teimlo na ddylai neb gael yr hawl, neu allu dweud faint o gymorth mae rhywun angen neu ddim ei angen, oherwydd eu bod yn gwneud mwy neu lai na rhywun arall.
Gofalwyr ifanc 2: Gall nifer o ofalwyr ifanc ei chael yn anodd ymdopi â gwaith ysgol. Efallai eu bod yn ymddangos yn hollol iawn, ond maent angen ychydig mwy o gymorth yn yr ysgol.
Mae’n eithaf cyffredin i ofalwyr ifanc ei chael yn anodd cyflawni gwaith cartref, felly rydym yn mynd i drwbl yn fwy aml am waith cartref hwyr, neu beidio cwblhau gwaith cartref o gwbl.
Rydym hefyd yn ei chael yn anodd gwneud pethau ar ben ein hunain, heb boeni am ein teulu.
Gofalwyr ifanc 3: Hyder – mae nifer o ofalwyr ifanc yn ei chael yn anodd â hunan-barch a hyder. Ac er bod gofalwyr ifanc eraill wedi helpu i adeiladu hyder yn ôl, maent yn dal i feddwl nad ydynt yn ffitio i mewn gan eu bod yn gwneud pethau gwahanol.
Mae’r agwedd dal i fodoli, ‘wel rwyt ti’n ofalwr ifanc, felly nid wyt ti’n gallu gwneud dim byd’. Mae mwy o doriad rhwng oedolion a gofalwyr ifanc.
Rydym yn ceisio mynd i’r afael â hyn – rydym yn gwneud cynnydd gwych – ond mae hyder a hunan-barch yn parhau i fod yn anodd.