Cynhelir Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu rhwng 17 – 23 Hydref.
Dros yr Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu, rydym yn gobeithio codi ymwybyddiaeth am fabwysiadu yn Wrecsam a Gogledd Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Os ydych erioed wedi ystyried mabwysiadu plentyn neu blant, mae gan ein Tîm Mabwysiadu a’n gweithwyr cymdeithasol ymroddedig gyfoeth o wybodaeth, ac maent yn gweithio gyda’i gilydd gyda theuluoedd lleol ac ysgolion lleol, i greu gwell dyfodol i blant lleol. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch neu eich bod eisiau cymryd y cam nesaf ar eich siwrnai fabwysiadu, cysylltwch â’r tîm. Maent yn hynod wybodus ac yn fwy na pharod i helpu gydag unrhyw gwestiynau neu wybodaeth sydd ei hangen arnoch.”
Os oes gennych le yn eich calon a’ch cartref, yna mae pob siawns y gallwch chi fabwysiadu. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u statws perthynas, rhywioldeb, credoau neu ethnigrwydd. Os oes gennych yr hyblygrwydd a’r gwytnwch i roi cartref hapus i blentyn – neu blant – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Fel man cychwyn ar gyfer mabwysiadu, rhaid:
- Gallu darparu cartref diogel a sefydlog i blentyn
- Bod yn 21 oed o leiaf – ond does dim terfyn oedran uchaf
- Bod yn byw yn y DU
- Peidio â chael unrhyw rybuddion nac euogfarnau yn erbyn plentyn (mae’r un peth yn berthnasol i unrhyw aelodau eraill o’ch cartref)
- Bod wedi gorffen triniaeth ffrwythlondeb fwy na 6 mis yn ôl
- Bod â pherthynas gref, sefydlog a pharhaus os ydych chi gyda phartner
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech sgwrsio mwy am eich amgylchiadau, cysylltwch â ni.
Sesiynau Holi ac Ateb
Ydych chi’n ystyried mabwysiadu neu eisiau mwy o wybodaeth? Rydym yn cynnal tair sesiwn holi ac ateb ar Microsoft Teams yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu. Mae’r manylion isod:
Sesiwn 1: Amser: Hydref 18, 2022 12:30-1:30 PM Llundain
Ymunwch ar eich cyfrifiadur, dyfais neu ap symudol
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod
ID y Cyfarfod: 351 202 009 733
Cyfrinair: RbDpmA
Sesiwn 2: Amser: Hydref 20, 2022 07:00 – 8.00 PM Llundain
Ymunwch â’r Cyfarfod ZOOM yma
ID y Cyfarfod: 964 9550 9796
Cyfrinair: 50903654
Sesiwn 3: Amser: Hydref 21, 2022 12:30-1:30 PM Llundain
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod
ID y Cyfarfod: 372 637 463 852
Cyfrinair: 28sNhM
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu’r Gogledd yn hyrwyddo a chefnogi’r arferion gorau mewn mabwysiadu ar draws Cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch mabwysiadu a’r prosesau cysylltiedig, cysylltwch â Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru: 08000850774 / 01978295311
www.mabwysiadugogleddcymru.co.uk
Ydych chi wedi derbyn llythyr/ffurflen ynglŷn â’r gofrestr etholiadol?
PARATOWCH I BLEIDLEISIO