Bydd ein Pwyllgor Archwilio yn cyfarfod heddiw (22 Chwefror) a bydd yr aelodau yn ystyried gwaith archwilwyr mewnol ac allanol y Cyngor yn ogystal â chanlyniadau arolwg o effeithiolrwydd y Pwyllgor.
Mae’r Pwyllgor Archwilio yn gyfarfod agored ac mae croeso i aelodau o’r cyhoedd fynychu. Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal am 4pm yn Neuadd y Dref.
Mae un adroddiad a fydd yn cael sylw heddiw yn ymwneud â gwaith archwilio mewnol a gynhaliwyd rhwng mis Rhagfyr 2017 a mis Ionawr 2018. Mae’r Adain Archwilio Mewnol yn cynnal archwiliadau rheolaidd o systemau ariannol, prosesau llywodraethu a gwasanaethau’r Cyngor.
Meddai Jerry O’Keeffe, Aelod Lleyg Annibynnol a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Mae’r Adain Archwilio Mewnol yn rhoi sicrwydd annibynnol i’r Pwyllgor Archwilio bod rheolaethau o fewn gwasanaethau yn effeithiol. Pan nad ydynt, mae’r Pwyllgor Archwilio yn gallu ac yn cymryd camau pellach, gan gynnwys dwyn uwch swyddogion a chynghorwyr i gyfrif.”
Bydd y Pwyllgor Archwilio hefyd yn derbyn adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy’n archwilio sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus i gyflawni gwerth am arian wrth ddarparu gwasanaethau. Bydd yr adroddiad yn diweddaru’r Pwyllgor Archwilio ar y graddau y mae canfyddiadau’r Archwilydd Cyffredinol o astudiaethau perfformiad cenedlaethol wedi eu hymgorffori yng nghynlluniau lleol y Cyngor.
Meddai Mr O’Keeffe: “Pan fo’r adroddiadau cenedlaethol hyn yn canolbwyntio ar feysydd y gellir eu gwella yn Wrecsam, yna bydd y Pwyllgor Archwilio yn ystyried a yw’r Cyngor wedi ymateb yn briodol.”
Bydd y Pwyllgor Archwilio hefyd yn ystyried adroddiad ar ei effeithiolrwydd ei hun, yn seiliedig ar arolwg diweddar a gynhaliwyd gyda chynghorwyr a swyddogion yn erbyn arfer gorau cydnabyddedig. Mae gan y Pwyllgor Archwilio rôl allweddol o ran darparu sicrwydd i’r Cyngor, aelodau o’r cyhoedd a sefydliadau allanol bod trefniadau llywodraethu a rheoli ariannol y Cyngor yn effeithiol a bod y datganiadau ariannol blynyddol yn rhoi darlun teg o sefyllfa ariannol y Cyngor.
Meddai Mr O’Keeffe: “Er bod yr arolwg wedi dod i’r casgliad bod y Pwyllgor Archwilio yn effeithiol, byddwn yn ystyried unrhyw welliant posibl a nodir yn ofalus a’u cynnwys yn rhaglen ddatblygu’r Pwyllgor Archwilio yn ôl yr angen.” Dywedodd hefyd y bydd y Pwyllgor sicrhau bod pobl yn deall bod rôl y Pwyllgor Archwilio yn un ar wahân i bwyllgorau craffu’r Cyngor, sy’n adolygu/craffu ar swyddogaethau gweithredol ac anweithredol o fewn y meysydd cyfrifoldeb.
Bu iddo hefyd bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod y cyhoedd a sefydliadau allanol yn deall bod cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio yn agored i unrhyw un sy’n dymuno eu mynychu.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT