Mae’r clociau wedi troi, y dail yn felyn a’r barbeciws wedi cael ei disodli gan gawl.
Mae’r rhain i gyd yn arwyddion bod tywydd oerach ar y gweill, a bod y gaeaf ar y ffordd.
Efallai bydd cynllunio o flaen llaw ychydig yn anoddach eleni, ond gall paratoi ar gyfer unrhyw dywydd dros y misoedd nesaf ein helpu i gadw’n ddiogel ac yn iach.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Dyma 8 cwestiwn y dylen ni ofyn i’n hunain…
1. Ydw i’n gymwys am frechlyn ffliw?
Mae’r rhaglen brechlyn ffliw genedlaethol fwyaf erioed nawr ar waith.
Mae grwpiau newydd o bobl wedi cael eu hychwanegu sy’n gymwys am frechlyn ffliw am ddim gan y GIG.
Fodd bynnag, efallai bydd trefniadau gwahanol yn ystod y tymor ffliw hwn, oherwydd y Coronafeirws.
Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i www.curwchffliw.org neu www.beatflu.org, neu chwiliwch am ‘Curiwch Ffliw’ ar Twitter neu Facebook.
2. Ydi fy nghar yn barod am y gaeaf?
Ychwanegwch olch sgrin ar gyfer y gaeaf.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Gwiriwch fod eich teiars yn addas ar gyfer y ffordd a bod y goleuadau i gyd yn gweithio ac yn lân.
Gellir teilwra pecynnau ceir yn ystod y gaeaf yn benodol ar gyfer anghenion personol, ond mae’n rhan fwyaf yn cynnwys blanced goroesi, dillad cynnes sbâr, bwyd a diod, tortsh a bocs cymorth cyntaf.
Gall blocyn gwefru ffôn brofi’n werthfawr iawn.
3. Ydi fy nhŷ ddigon cynnes?
Gall tywydd oer fod yn risg i iechyd, yn enwedig ar gyfer y sawl dros 65, neu unrhyw un gyda chyflyrau iechyd tymor hir.
Fel rheol, dylid cynhesu cartrefi i 18°C (tua 64°F).
4. Ydw i’n gwybod lle mae fy stop-tap?
Gall rhewi a dadmer achosi i bibelli fyrstio.
Bydd sicrhau bod pibelli’n cael eu hinsiwleiddio (yn benodol tu allan) yn lleihau’r risg o fyrstio.
Gall gwybod lle i ddiffodd y dŵr arbed arian o ran biliau atgyweirio a phremiymau yswiriant.
5. Ydi fy nghartref a’m gardd yn barod am unrhyw dywydd?
Efallai bydd angen symud eitemau o amgylch eich cartref a’ch gardd a fyddai’n debygol o gael eu heffeithio gan wyntoedd cryfion, llifogydd, rhew neu eira, neu eu cynnal a cadw’n amlach yn ystod tywydd garw.
6. Oes gen i gyflenwad bach o hanfodion?
Er bod digwyddiad o dywydd stormus yn brin, mae modd iddo ddiffodd gwasanaethau yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol megis trydan, dŵr a llinellau ffôn dros dro.
Mae’n syniad da cael cyflenwad o hanfodion, megis dŵr, tortsh a batris sbâr, yn ogystal â rhestr o rifau ffôn mewn argyfwng.
7. Ydw i wedi gwneud cynlluniau rhag ofn?
Os yw tywydd garw yn achosi i’r ysgol neu i’r feithrinfa gau, neu mae’n effeithio ar ein siwrneiau dyddiol, mae’n ddefnyddiol gwybod beth fyddai’r trefniadau rhag ofn.
8. Beth am fy nghymdogion?
Mae’n bwysig gofalu am eraill yn ein cymunedau, ac i helpu pobl i gael nwyddau, help, neu’r wybodaeth angenrheidiol sydd ei hangen arnynt i gadw’n ddiogel ac yn iach yn ystod y gaeaf.
Drwy ofyn y cwestiynau syml hyn a pharatoi, gallwch gadw eich hunain ac eraill yn ddiogel pan digwyddiad o dywydd garw.
Lawrlwythwch yr ap GIG