Mae oriel Siop//Shop Tŷ Pawb yn newid…
O ganol mis Ionawr 2021, bydd y gofod yn cael ei ail-lansio fel Gofod Gwneud – stiwdio hygyrch lle bydd artistiaid, gwneuthurwyr a dylunwyr o bob cefndir yn datblygu’u harferion, gyda ffenestr ar y byd.
Mae pawb sydd ynghlwm wrth Dŷ Pawb yn awyddus i wneud arferion creadigol traddodiadol a chyfoes yn weladwy.
Bydd Tŷ Pawb yn parhau i werthu gwaith gan amrediad eang o artistiaid cymhwysol mewn cypyrddau arddangos yn y brif fynedfa.
Cyfleon Preswyl
Mae cyfleon preswyl Gofod Gwneud ar gyfer artistiaid a gwneuthurwyr o bob math; gwahoddir ceisiadau gan ddylunwyr, ymarferwyr sy’n ymwneud â’r gymdeithas, artistiaid a chrefftwyr.
Amserlen: Pedwar mis yn ystod Ebrill – Gorffennaf; Awst – Tachwedd; Rhagfyr – Mawrth 2022
Gofod Gwneud: Mae’r gofod 48 metr sgwâr gyferbyn â’r orielau yn Nhŷ Pawb, ac mae ffenestr fawr yn agor i’r brif fynedfa. Gall gwneuthurwyr ddangos yr hyn y maent yn ei wneud i gynulleidfa ehangach. Mae gan y gofod offer i gynnal cyflwyniadau digidol. Bydd Tŷ Pawb yn hyrwyddo digwyddiadau ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Bydd cyfleon i gynnal arddangosfeydd a gweithgareddau datblygu megis sgyrsiau a dosbarthiadau meistr.
Yn ystod y preswyliad caiff y gwneuthurwr gyfle i gael eu talu i arwain hyd at chwe sesiwn gweithgarwch cyhoeddus yn y Lle Celf Ddefnyddiol.
Cewch gyllideb deunyddiau o hyd at £500, a chynigir cefnogaeth yn cynnwys: Marchnata a chyhoeddusrwydd; mynediad at sesiynau mentora/hyfforddi.
Mae nifer yr ymwelwyr â Thŷ Pawb fel arfer yn 50,000 (cyn Covid) felly anogir cyfleon i werthu yn ystod y cyfnod yn y gofod.
Er mwyn gwneud cais, anfonwch ddatganiad o hyd at 500 gair am yr hyn yr ydych yn ei wneud, a sut y gall y cyfle hwn ddatblygu eich gwaith. Bydd gofyn ichi dreulio o leiaf 20 awr yr wythnos yn y gofod. Dylech hefyd anfon 10 delwedd (neu enghreifftiau o ffilmiau) a CV cyfredol i typawb@wrexham.gov.uk erbyn 31 Ionawr 2021
Croesewir ceisiadau gan wneuthurwyr o bob cefndir. Prif ddelwedd: https://rachelholian.co.uk/
CANFOD Y FFEITHIAU