Mae effaith cyffuriau synthetig newydd fel ‘Mamba’ a ‘Spice’ wedi ei nodi’n glir. Rydych chi wedi gweld y lluniau. Rydych chi wedi darllen y penawdau.
Mae trefi a dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig wedi bod yn ceisio canfod ffyrdd i ddelio â’r broblem, ac mae’n deg dweud nad oes ateb syml.
Ond yma yn Wrecsam rydym ni wedi defnyddio dull arloesol sy’n dangos arwyddion cynnar iawn o lwyddiant.
Yn fwy na hynny, mae trefi a dinasoedd eraill yn dechrau edrych ar yr hyn rydym ni’n ei wneud… gan obeithio derbyn atebion i’w problemau nhw.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Mae pob eiliad yn cyfri
Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf rydym ni wedi bod yn siarad gyda phobl o gwmpas canol y dref sydd â phroblemau camddefnyddio cyffuriau – fel ein bod ni’n deall eu cefndiroedd, eu hamgylchiadau a’u hanghenion.
‘Proffilio’ rydym ni’n galw hyn, ond efallai bod hynny’n swnio’n debyg iawn i ddull ‘Big Brother’?
Esbonia Steve Campbell, Cydlynydd Tasglu Sylweddau Seicoweithredol Newydd Cyngor Wrecsam: “Yr hyn y mae’n ei olygu mewn gwirionedd ydi dod i adnabod pobl, fel ein bod ni’n deall pa fath o gymorth sydd arnyn nhw ei angen os ydyn nhw’n fodlon ei dderbyn.
“Er enghraifft, efallai bod ar un person angen cymorth gyda chanfod llety a pherson arall angen cymorth gyda phroblem iechyd meddwl. A byddwn yn parhau i’w monitro, fel ein bod ni’n gwybod sut mae eu hamgylchiadau’n newid o wythnos i wythnos.
“Mae’n golygu ein bod ni’n gallu gweithio ar lawr gwald a chynnig cefnogaeth wedi ei theilwra yr eiliad maen nhw’n penderfynu derbyn y gefnogaeth honno.
“Mae pob eiliad yn cyfri yn ystod y munudau cyntaf hynny pan fydd person yn dewis derbyn cymorth.”
Popeth dan un to
Er bod proffilio wrth wraidd dull Wrecsam, mae yna ddarnau pwysig eraill yn y jig-so.
Oddeutu chwe mis yn ôl cynhaliwyd digwyddiad a ddaeth â llawer o sefydliadau sy’n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau a digartrefedd yn y dref ynghyd.
Rhoddodd gyfle i weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr ar y rheng flaen siarad am yr heriau.
Ac fe arweinydd hynny at syniad gwych.
Meddai Steve: “Un o’r pethau y bu i ni gyd sylweddoli, mewn rhai achosion beth bynnag, oedd pa mor anghyfleus ydi anfon pobl o un lle i’r llall i dderbyn gwanhaol fathau o gymorth.
“Os ydi rhywun gyda dibyniaeth ar gyffuriau yn gofyn am gymorth, ac rydych chi’n dweud wrtho am fynd i un lle i dderbyn cymorth gydag un peth ac i le hollol wahanol i dderbyn cymorth gyda rhywbeth arall yna, yna aml mae problem o ran sicrhau bod yr unigolyn hwnnw yn gallu cael mynediad at yr adnoddau amrywiol o gymorth sydd ar gael iddo.
“Dydi pobl ddim yn mynd i gadw at apwyntiadau a chyrraedd y lle cywir ar amser… ac felly rydych chi’n colli’r cyfle i siarad efo nhw a’u helpu.
“Fe ddaeth yn amlwg ein bod angen ceisio creu rhyw fath o gyfleuster siop un stop.”
Felly, cafwyd syniad o greu siop un stop. Man lle gall pobl sy’n camddefnyddio sylweddau dderbyn gwahanol fathau o gymorth a chefnogaeth.
Rhoddwyd y syniad ar waith – gan sefydlu’r ‘siop’ mewn man cyfleus yng nghanol y dref, yn gweithredu am un diwrnod yr wythnos i ddechrau.
Oherwydd yr holl waith proffilio pwysig sy’n cael ei wneud, mae’r gweithwyr proffesiynol sydd yn y ‘siop’ yn gwybod yn union pa gefnogaeth i gynnig i bob person.
Ac mae system ‘atgyfeirio cyflym’ yn golygu eu bod yn derbyn cefnogaeth yn gyflym. Felly os oes ar berson angen therapi dadwenwyno neu adferiad, gellir trefnu hynny’n gyflym.
Arwyddion cynnar o lwyddiant
A’r cwestiwn sydd ar wefusau pawb…
Ydi hyn yn gwneud gwahaniaeth?
Meddai Steve: “Mae’n ddyddiau cynnar iawn a does neb yn cyfri’r cywion cyn iddyn nhw ddeor. Ond rydym ni wedi gweld canlyniadau calonogol.
“Mae’r bobl rydym ni’n ceisio ymgysylltu â nhw yn fodlon mynd i’r siop un stop, ac mae rhai erbyn hyn yn derbyn triniaethau dadwenwyno ac adferiad.
“Mae hynny’n galonogol iawn, ac yn rhywbeth na fyddai wedi digwydd o’r blaen.
“Mae cael cynllun cefnogi cywir yn ei le, ac ymgysylltu ag unigolion yn y fan a’r lle yn allweddol.
“Oherwydd bod gennym ni lawer o weithwyr cefnogi gwahanol wrth law – sy’n barod i helpu gyda dibyniaeth, materion iechyd, iechyd meddwl, canfod lle i fyw, a hawlio budd-daliadau ac ati – rydym ni’n gallu cynnig cefnogaeth yr eiliad y mae rhywun yn penderfynu ei derbyn.
“Ac mae hynny’n bwysig iawn. Unrhyw oedi, ac awr yn ddiweddarach fe all y person gymryd cyffuriau a gwrthod derbyn help.”
Mae cydlynu effeithiol rhwng yr asiantaethau gwahanol sy’n rhan o’r fenter hon – gan gynnwys Cyngor Wrecsam, yr Heddlu, gwasanaethau iechyd lleol ac elusennau cefnogi – hefyd yn bwysig iawn.
Trefi a dinasoedd eraill
Mae dull Wrecsam wedi ennyn diddordeb trefi a dinasoedd eraill, sy’n awyddus i weld beth fedran nhw ei ddysgu o’n profiadau ni.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam: “Rydym ni’n gwneud rhywbeth sy’n syml iawn mewn egwyddor – rydym ni’n ceisio ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobl dderbyn y gefnogaeth sydd arnyn nhw ei hangen, mewn un lle, yr eiliad y maen nhw’n penderfynu derbyn y gefnogaeth honno.
“Ond mae hyn hefyd yn rhywbeth arloesol gan mai ychydig iawn o drefi a dinasoedd sy’n gweithredu dull o’r fath. Felly mae ardaloedd eraill gyda phroblemau tebyg yn awyddus i weld y canlyniadau yn Wrecsam.
“Does yna ddim ateb hawdd, ond os fedrwn ni helpu mwy o bobl i dderbyn cefnogaeth a manteisio ar gyfleoedd i gefnu ar gyffuriau a bywydau anhrefnus, yna bydd hynny’n mynd yn bell iawn i’n helpu ni reoli’r broblem anodd hon.”
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU