Ddeuddeg mis yn ôl, agorodd yr Hwb Lles yn Adeiladau’r Goron ei ddrysau i drigolion Wrecsam, ac mae’n awr yn amser i ddathlu… felly dewch draw ar 10 Hydref ac ymuno â’r digwyddiad arbennig hwn!
Ers iddo agor, mae pobl o bob oed o bob rhan o’r fwrdeistref sirol wedi ymweld â’r Hwb Lles, sy’n canolbwyntio ar iechyd corfforol, yn ogystal ag iechyd meddwl a lles, mewn amgylchedd diogel.
Bydd y dathliad ar 10 Hydref yn rhoi’r cyfle i chi weld beth sy’n cael ei gynnig yn yr Hwb gyda stondinau a gweithgareddau’n cael eu cynnal drwy gydol y prynhawn.
Rhwng 1pm a 5pm bydd stondinau gwybodaeth, sesiynau blasu (boccia ac aerobeg cadair), gwiriadau iechyd, crefftau a llawer mwy.
Bydd The Dynamic Singing Sensations Choir hefyd yn perfformio yno am 4:30pm.
Nid oes angen i chi archebu unrhyw beth, dim ond cyrraedd ar y diwrnod; ac mae popeth yn rhad ac am ddim!
Felly dewch draw ac ymuno â ni ar 10 Hydref rhwng 1pm a 5pm i roi cynnig ar rai o’r pethau sy’n cael eu cynnig yn yr Hwb Lles.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y gweithgareddau a fydd ar gael ar y diwrnod, neu am beth all yr Hwb Lles ei gynnig i chi, ffoniwch 01978 298110.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd gan yr Hwb Lles i’w gynnig ar wefan Yr Hwb Lles.