E-bost. Efallai ei fod yn teimlo braidd yn ‘hen ffash’, ond mae’n parhau i fod yn un o’r ffyrdd gorau o dderbyn gwybodaeth.
Felly os ydych chi’n meddwl bod y blog yma’n iawn ac nad ydych chi eisiau colli allan ar unrhyw beth, mae gennym ni awgrym.
Cofrestrwch i dderbyn bwletinau e-bost Newyddion Cyngor Wrecsam, a bob wythnos fe fyddwch yn derbyn neges gyda dolenni i’n prif straeon.
Ni fyddwn yn anfon e-bost atoch bob pum munud, ac fe allwch danysgrifio unrhyw adeg y byddwch chi’n cael digon arnom ni.
Mae bron i 14,000 o bobl wedi cofrestru i dderbyn ein bwletinau ar hyn o bryd, ac mae’n ffordd wych o sicrhau nad ydych chi’n methu allan ar straeon a gwybodaeth bwysig am wasanaethau Cyngor Wrecsam.
E-BOSTIWCH Y PRIF STORÏAU
Ffaith ddiddorol?
Mae hi’n anodd dweud pryd y cafodd e-bost ei ddyfeisio. Fe esblygodd yn y 1960au a’r 70au o’r angen i rannu ffeiliau rhwng cyfrifiaduron rhwydwaith.
Serch hynny, gwr o’r enw Ray Tomlinson sydd yn cael y clod o ddyfeisio’r e-bost rydym yn gyfarwydd ag o.
Yn 1972, fe ddatblygodd y fformat cyfeiriad rydym yn dal i’w ddefnyddio heddiw … gyda’r symbol ‘@’ yn y canol.
Boi clyfar.
E-BOSTIWCH Y PRIF STORÏAU