Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam
Arall

Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 6, 2026 4:58 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Over 120 stakeholders  took the train journey to London to lobby for improved rail connections.
RHANNU

Llofnodwch a rhannwch y ddeiseb gan gefnogi gwasanaethau rheilffyrdd newydd ar gyfer Wrecsam.

Llofnodwch a rhannwch

Ar ddydd Llun 2 Mawrth, teithiodd gwasanaeth siarter o Wrecsam Cyffredinol i Lundain Euston mewn ymgais i ailsefydlu cysylltiad rheilffordd uniongyrchol rhwng y ddwy ddinas.

Roedd nifer sylweddol ac amrywiaeth y rhanddeiliaid yn dangos cryfder ac uchelgeisiau a rennir y busnesau, y sefydliadau a’r cymunedau a fyddai’n elwa o’r ddarpariaeth hon, a allai ddarparu hyd at 4 taith yn ôl rhwng Wrecsam ac Euston bob dydd.

Aeth dros 120 o randdeiliaid a phartïon â diddordeb ar y daith ar y trên i Lundain gyda’r bwriad o dynnu sylw at bwysigrwydd gwell cysylltedd rheilffyrdd rhwng Canolbarth Lloegr, Llundain a Wrecsam.

Cododd y trên amrywiol randdeiliaid a phwysigion ar hyd y ffordd, a hefyd mynd heibio lleoliadau gorsafoedd newydd posib ar y rheilffordd. Nid yw llawer o’r arosfannau’n cael eu gwasanaethu gan wasanaeth trên uniongyrchol i Lundain ar hyn o bryd.

Yna, aeth y cynrychiolwyr ar fysus i San Steffan, taith gerdded fer i ffwrdd o Downing Street, lle tynnwyd lluniau y tu allan i’r gatiau i hyrwyddo’r cynnig, a gwahoddwyd cynrychiolaeth fach i’r tu mewn i’r giât i gyflwyno’r cynnig i ddrws rhif 10.

Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam
Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam
Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Drafnidiaeth Strategol, y Cynghorydd David A Bithell: “Mae cysylltiadau rheilffordd dibynadwy, uniongyrchol yn hanfodol i gryfhau ein heconomi ranbarthol, gan ddenu buddsoddiad, a chreu cyfleoedd newydd i fusnesau lleol.

“Mae’r gwasanaeth rheilffordd newydd arfaethedig hwn yn gyfle sylweddol ar gyfer gwell cysylltedd rhwng Wrecsam, Canolbarth Lloegr a Llundain, a hynny heb unrhyw gost i’r trethdalwr.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae hwn yn gynnig sy’n cael ei yrru’n fasnachol sy’n darparu gwerth economaidd mesuradwy wrth gryfhau cystadleurwydd hirdymor ein rhanbarth.

“Mae ein cyfarfodydd gyda WSMR wedi bod yn gadarnhaol iawn ac rydym yn gweithio’n agos gyda’r holl randdeiliaid i droi’r cynnig cyffrous hwn yn realiti i Wrecsam.

“Os cawn sêl bendith, disgwylir i’r llinell newydd ddarparu gwerth £9 miliwn o fuddion economaidd rhwng Wrecsam, Amwythig a Walsall heb unrhyw gost i’r trethdalwr.”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Nigel Williams: “Cafodd y gwasanaeth uniongyrchol olaf o Wrecsam i Lundain ei atal yn 2011.

“Ers hynny, ac yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Wrecsam wedi newid yn ddramatig o ran proffil fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth yn ogystal â lle gwych i wneud busnes.

“Bydd cyflwyno’r gwasanaeth hwn yn gwella’r profiad teithio, ac yn gwneud mynediad i Wrecsam ar y trên o Ganolbarth Lloegr a Llundain yn opsiwn cyflymach a mwy dymunol.”

Llofnodwch a rhannwch y ddeiseb gan gefnogi gwasanaethau rheilffyrdd newydd ar gyfer Wrecsam.

Llofnodwch a rhannwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Erthygl nesaf Wrexham Ty Pawb Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Nhŷ Pawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English