Mae cyfle ariannu i grwpiau a sefydliadau drwy wneud cais i’r Gronfa Allweddol Lluosi yn Wrecsam sydd â’r nod i wella sgiliau rhifedd ar gyfer oedolion 19+ oed sydd heb ennill cymhwyster mathemateg Lefel 2/SCQF Lefel 5 neu uwch (cyfwerth â TGAU Gradd C/4).
Bydd y cyllid yn cael ei ddarparu trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae pobl sy’n gwella eu sgiliau rhifedd yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth, ar gyflogau uwch, a gyda gwell lles ac yn gallu symud ymlaen i lefelau uwch o hyfforddiant am ddim i sicrhau swydd fedrus yn ein heconomi.
Mae’r cynllun yn cynnig rhwng £10,000 a £200,000 o gyllid i gefnogi prosiectau a fydd yn arwain at:
Fwy o oedolion yn ennill cymwysterau mathemateg / cymryd rhan mewn cyrsiau rhifedd (hyd at, ac yn cynnwys, Lefel 2 / SCQF Lefel 5).
Canlyniadau gwell i’r farchnad lafur e.e. llai o fylchau sgiliau rhifedd yn cael eu hadrodd gan gyflogwyr, a chynnydd yn y gyfran o oedolion sy’n mynd ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy ac / neu addysg.
Cynnydd mewn rhifedd oedolion ar draws y boblogaeth – bydd yr effaith gyffredinol hon, sy’n mynd y tu hwnt i gyflawni tystysgrifau neu gymwysterau, yn olrhain y gwahaniaeth canfyddedig a gwirioneddol y mae cymryd rhan yn y rhaglen yn ei wneud wrth gefnogi dysgwyr i wella eu dealltwriaeth a’u defnydd o fathemateg yn eu bywydau bob dydd, yn y cartref ac yn y gwaith – a theimlo’n fwy hyderus wrth wneud hynny.
Byddwn yn cynnal gweminar ar 6 Tachwedd (12:00) am 30 munud gyda manylion pellach am y gronfa a gwybodaeth ar sut i wneud cais. Felly, i ddarganfod mwy anfonwch e-bost at spfkeyfundgrants@wrexham.gov.uk
Pwy sy’n gallu ymgeisio i Gronfa Allweddol Lluosi?
- Awdurdodau lleol
- Sefydliadau’r sector cyhoeddus
- Sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach
- Cwmnïau’r sector preifat
- Sefydliadau cymunedol / nid er elw/ gwirfoddol sefydledig/ mentrau cymdeithasol
- Clybiau / grwpiau cymunedol sefydledig
- Elusennau cofrestredig
Bydd yr holl brosiectau angen eu cwblhau a chyflwyno hawliadau terfynol erbyn 31 Rhagfyr 2024.
Mae’r Gronfa Allweddol Lluosi “yn gyfle gwych”
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Mae’r fenter Cronfa Allweddol Lluosi yn gyfle gwych i wella rhagolygon y rheiny sy’n byw yn Wrecsam drwy wella eu sgiliau rhifedd. Gall sgiliau o’r fath helpu i ddod o hyd i gyflogaeth tâl uwch, adeiladu hyder a hyd yn oed annog pobl i ddechrau busnes eu hunain.
“Byddwn yn annog holl sefydliadau sy’n gymwys i fynychu’r gweminar i ddarganfod sut y gallan nhw helpu a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i gynnal y digwyddiad am eu cefnogaeth barhaus i wella lles pobl sy’n byw yn Wrecsam.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch