Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 27, 2026 3:35 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Green garden waste bin
RHANNU

Gall trigolion nawr adnewyddu eu tanysgrifiad gwastraff gardd i gwmpasu’r cyfnod 1 Ebrill, 2026 hyd at 13 Mawrth, 2027 trwy ymweld â’n tudalen gwastraff gardd.

Cynnwys
  • Talwch ar-lein lle bo hynny’n bosibl
  • Dim sticeri bin
  • Telerau ac Amodau
  • Dydw i ddim eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gymryd fy min gwastraff gardd?
  • Beth galla i ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?
  • Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch
  • Ydych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?

Y ffordd gyflymaf o dalu am y gwasanaeth yw trwy wneud taliad ar-lein. Gallwch wneud eich taliad yn hawdd ar adeg sy’n gyfleus i chi trwy ddilyn y camau syml yn ein ffurflen ar-lein. Ond gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru mewn digon o amser i osgoi colli unrhyw gasgliadau pan fydd y gwasanaeth yn dechrau ym mis Ebrill.

Y gost ar gyfer 2026/27 yw £35 fesul bin gwyrdd y flwyddyn, ac mae’r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Mercher 1 Ebrill 2026 tan ddydd Mercher 31 Mawrth 2027. Byddwn yn parhau i adolygu’r gwasanaeth yn y dyfodol.

Cofrestrwch nawr!

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Mae’r pris ar gyfer gwasanaeth 2026/27 wedi’i rewi ar £35, sy’n ein cadw ni yn un o’r awdurdodau lleol rhataf a mwyaf economaidd yng Nghymru a Lloegr ar gyfer casgliadau gwastraff gardd. Mae’r cyfnod adnewyddu wedi agor, felly manteisiwch a thanysgrifiwch i’r gwasanaeth casglu rhagorol hwn yn barod ar gyfer y Gwanwyn a’r Haf.” 

Talwch ar-lein lle bo hynny’n bosibl

Y ffordd hawsaf o dalu am y gwasanaeth yw drwy ymweld â’r dudalen gwastraff gardd ar ein gwefan.

Gall unrhyw breswylwyr a hoffai gael ychydig o gymorth i wneud taliad ar-lein ymweld â Galw Wrecsam yn Llyfrgell Wrecsam, neu gallwch alw heibio eich swyddfa ystâd dai leol. Rhowch wybod i’n staff eich bod am dalu am eich casgliadau gwastraff gardd a byddant yn eich helpu drwy’r broses, a gallant hyd yn oed eich helpu i greu cyfeiriad e-bost os nad oes un gennych.

Gall ffrind neu berthynas danysgrifio ar-lein ar eich rhan.

Rhaid bod gennych gyfeiriad e-bost i danysgrifio ar-lein. Os nad oes un gennych, gallwch ffonio Strydlun ar 01978 298989 i dalu â cherdyn.

Dim sticeri bin

Fel yn y flwyddyn flaenorol, ni fyddwn yn anfon sticeri bin fel rhan o’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd. Yn hytrach, byddwn yn defnyddio ein system logistaidd i nodi eiddo sydd wedi talu am y gwasanaeth diweddaraf. Rydym yn argymell i chi arddangos eich enw neu rif eich tŷ ar eich bin gwyrdd i’w gwneud hi’n haws i ni baru’ch bin yn erbyn y manylion ar ein system.

Telerau ac Amodau

Mae telerau ac amodau wedi’u diweddaru ar gael ar ein gwefan. Ein nod yw darparu o leiaf 15 casgliad gwastraff gardd y flwyddyn i bob aelwyd. Mae casgliadau’n dilyn patrwm tymhorol, gyda mis Ebrill a mis Mai yn gweithredu yn ôl amserlen addasedig oherwydd gwyliau banc.

Gan na fyddwn bellach yn anfon sticeri bin, ni fyddwn yn anfon copïau papur o’r telerau a’r amodau. Gallwch gasglu copi papur mewn person o Galw Wrecsam.

Dydw i ddim eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gymryd fy min gwastraff gardd?

Gellir cymryd unrhyw finiau gwastraff gardd diangen i ffwrdd ar gais. Ar ôl gofyn am hyn, gall gymryd sawl wythnos i’r bin gael ei gasglu. Yn y cyfamser, gwnewch yn siŵr fod eich bin yn wag ac yn hygyrch, ond heb ei adael allan gan achosi rhwystr.

Efallai y byddai’n werth cadw eich hen fin gwastraff gardd am y tro oherwydd, os yw eich bin gwastraff gardd yn cael ei gymryd i ffwrdd a’ch bod yn newid eich meddwl yn y dyfodol, bydd tâl yn cael ei godi am un newydd.

Beth galla i ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

Gallwch fynd â’ch gwastraff gardd i un o ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (yn rhad ac am ddim). Fel arall, gallech gompostio gwastraff gardd gartref. Cymerwch olwg ar ganllaw Cymru’n Ailgylchu ar ‘Sut i sefydlu compostio gartref’ sy’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd

Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch

Os ydych yn cofrestru i dderbyn ein hysbysiadau e-bost ar Wybodaeth ac Argymhellion Ailgylchu, gallwn anfon ein straeon newyddion diweddaraf ac argymhellion i chi, er mwyn eich helpu i gael y mwyaf allan o’ch ailgylchu, cyngor lleol (gan gynnwys newidiadau sy’n effeithio arnoch chi), a manylion ar ymgyrchoedd sydd ar y gweill i chi gymryd rhan ynddynt.

Darllenwch fwy…

Ydych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?

Pan fyddwch chi’n cofrestru i dderbyn y rhybuddion, fe fyddwch chi’n cael e-bost i’ch atgoffa cyn eich casgliad nesaf, ond mae hefyd yn ffordd dda i ni gysylltu â chi am unrhyw amhariadau allai effeithio ar y gwasanaeth. Os hoffech chi e-byst i’ch atgoffa am eich bin, cliciwch yma a dilynwch y ddolen i gofrestru.

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2026/27 – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Ebrill!

TAGGED:ailgylchubiniaubinsgarden wastegwastraffgwastraff garddrecyclingwaste
Rhannu
Erthygl flaenorol St Anne's Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Erthygl nesaf Traffic alert Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English