(Ffotograffau o ganon John Wilkinson – trwy garedigrwydd Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam)
Wel gyfeillion, rydym ni ymhell mewn i 2019 erbyn hyn, ac mae hi’n amser gwych i roi’r rhan nesaf i chi yn ein cyfres ‘pump o bethau diddorol am leoedd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam’.
Y tro yma, Y Bers 🙂
I lawer ohonoch chi, pan fyddwch chi’n dweud Y Bers, yr hyn sy’n dod i’ch meddwl yn syth mae’n siŵr ydi Gweithfeydd Haearn Y Bers, ac er y byddwn yn trafod hynny, rydym yn gobeithio sôn wrthoch chi am ddetholiad amrywiol o bethau am y lle gwych yma.
Mae yna lawer i’w ddysgu…a dweud y gwir, fe allem fod wedi sôn am lawer mwy na’r ‘pum peth’ arferol.
Beth bynnag, dyna ddigon o falu awyr. Dyma ein pum peth diddorol am Y Bers…
1. Jac ‘Hurt am Haearn’ Wilkinson a Gweithfeydd Haearn Y Bers.
Daeth John Wilkinson i Wrecsam yn 1753 pan brynodd ei deulu Weithfeydd Haearn Y Bers.
Yn ystod y 1760au, cymerodd John, ynghyd â’i frawd William reolaeth lawn gan fwynhau llawer o lwyddiant wrth i’r elw wella’n aruthrol.
Ond nid gŵr busnes craff yn unig oedd John…fe hoffai arbrofi ar roedd yn ddyfeisiwr gwych, a dyna pam gafodd y llysenw ‘Jac Hurt am Haearn’.
Yn 1774, rhoddodd John batent ar ei dechneg newydd o dyllu gynau haearn o un darn soled. Roedd hyn yn golygu troi baril y gwn, yn hytrach na’r bar tyllu, gan olygu mod y gynau’n fwy cywir ac yn llai tebygol o ffrwydro.
Mae hanes John yn Y Bers yn rhyfeddol, ac allem ni byth rhoi chwarae teg haeddiannol iddo mewn ychydig baragraffau…
Yn syml, roedd Y Bers yn un o’r canolfannau gweithgynhyrchu haearn pwysicaf yn y byd oherwydd ei waith penigamp o.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Weithfeydd Haearn Y Bers a John Wilkinson ar brif wefan y Cyngor.
(Ffotograffau o ganon John Wilkinson – trwy garedigrwydd Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam)
2. Coed Plas Power
Os ydych chi’n hoff o fynd am dro, gallwch wneud hynny yn Y Bers hefyd, yng Nghoed Plas Power…mae dros 100 erw o faint.
Mae’r coed yn rhedeg ar hyd Afon Clywedog, o Goedpoeth trwy Y Bers. Mae’n ffurfio rhan o Lwybr Dyffryn Clywedog poblogaidd, ac mae gennym ganllaw gwych i gerddwyr y gallwch ei lawrlwytho o wefan y Cyngor.
Mae Coed Plas Power yn llawn hanes, ac yma y mae un o’r rhannau mwyaf gwefreiddiol o Glawdd Offa.
Ewch i weld drosoch eich hun – mae’r Gored Gorllewinol, Pont y Nant a Chyfrinfa y Bers ymysg rhai o’r nifer o uchafbwyntiau.
3. Y Brodyr Davies
Roedd Robert a John Davies yn frodyr a’r ddau yn efail rhagorol, yn hanu o’r Bers, oedd yn adnabyddus am eu gwaith o ansawdd uchel gyda haearn gyr.
Roeddynt yn weithredol yn y 18fed Ganrif ac mae’n debyg eich bod wedi gweld llawer o’u gwaith…
Mae’r giatiau yng Nghastell y Waun ac Eglwys San Silyn wedi cael eu priodoli i’r brodyr Davies, ac mae yna lawer mwy o enghreifftiau o’u gwaith ar draws yr ardal leol.
Teulu talentog iawn yn wir 🙂
4. Eglwys y Santes Fair
Rydym wedi sôn am nifer o eglwysi hardd yn ein blogiau blaenorol ‘pump o bethau diddorol’, ac nid yw Eglwys y Santes Fair yn eithriad (hefyd yn hysbys fel Eglwys Plas Power).
Cafodd ei dylunio yn 1875 gan John Gibson ar gyfer Thomas Fitzhugh, gyda’r bwriad y byddai’n cael ei ddefnyddio gan aelwyd Plas Power a’i ddibynyddion.
Cafodd ei adeiladu mewn dull ‘Romanésg’ gyda rwbel craig ar yr wyneb ac mae ganddo nifer o nodweddion gwahaniaethol, gan gynnwys mowldiau ceibr a bandiau dau-liw sy’n amgylchynu’r ffenestri a bwáu’r drysau.
Ceir mynediad i’r eglwys trwy giatiau pren trwm gyda bolltau haearn bwrw.
Fe ychwanegwyd twr i’r eglwys yn hwyrach ymlaen yn 1985, ac fe’i adeiladwyd mewn tri cham.
5. Allen ‘Alf’ Pugh
Ganed Allen, oedd yn cael ei alw’n ‘Alf’ weithiau, yn Y Bers yn 1869.
Roedd yn chwaraewr pêl-droed, oedd yn chwarae yn safle’r gôl-geidwad ar lefel pur dda i Rhostyllen Victoria am sawl blwyddyn. Fe dreuliodd dymor yn chwarae i Wrecsam rhwng 1885-86.
Cafodd un ymddangosiad annhebygol i Gymru mewn amgylchiadau anarferol iawn.
Ar 15 Ebrill 1889, roedd Cymru yn chwarae yn erbyn Yr Alban ar y Cae Ras, ond roedd y gôl-geidwad arferol yn absennol am fod ei glwb wedi gwrthod ei ryddhau.
Cafodd y gic gyntaf ei gohirio wrth iddynt chwilio am gôl-geidwad arall…sef Allen ‘Alf’ Pugh!
Cafodd ‘Alf’ ei eilio 20 munud mewn i’r gêm pan gyrhaeddodd y gôl-geidwad arferol, ond mae gan y gêm yma bwysigrwydd am nifer o resymau.
Ef oedd y chwaraewr cyntaf erioed i gael ei eilio mewn gêm bêl-droed ryngwladol.
A dyma oedd y tro cyntaf i’r Alban fethu â churo Cymru (hon oedd y pedwerydd tro ar ddeg i’r ddwy wlad gwrdd, a’r sgôr terfynol oedd 0-0).
Ugain munud i sicrhau bod gan ‘Alf’ le mewn hanes.
Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r rhifyn hwn 🙂
Os wnaethoch chi, cadwch lygad am y nesaf.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR