Yn ein rhifyn nesaf o ‘pum peth diddorol am leoedd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam’, rydym wedi penderfynu cael cipolwg ar Borras.
Fel llawer o’r mannau eraill yr ydym wedi sôn amdanynt, mae gan Borras gyfoeth o hanes ac mae ein pwynt cyntaf yn sôn ychydig am hynny.
Felly, ymlaen â ni i ganfod ein pum peth diddorol…
1. Anheddiad Neolithig
Ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf (rhywbryd tua 8000CC), byddai pobl Fesolithig yn teithio o amgylch gogledd-ddwyrain Cymru trwy afonydd.
Casglwyr-helwyr oedden nhw ac roedden nhw’n byw fel nomadiaid mewn tirweddau coediog. Mae tystiolaeth i ddangos eu bod wedi troedio ardal Borras gan fod offer bach fflint (o’r enw microlithiau) wedi cael eu darganfod yno.
Yna tua’r cyfnod Neolithig (tua 4300 – 2300CC), dechreuodd bobl ymgartrefu mewn cymunedau amaethyddol.
Byddent yn creu adeileddau fel beddrodau hir ac yn clirio coetiroedd gan ddefnyddio bwyelli carreg… mae enghreifftiau o’r rhain wedi cael eu canfod yn Borras hefyd, sy’n arwydd o anheddiad.
Mae’r darganfyddiadau hyn wedi denu llawer o sylw gan y cyfryngau dros y degawd diwethaf, fel y gwelir yn yr erthygl hon gan BBC News.
Mae’r cyfan yn ddiddorol dros ben!
2. Awyrlu Brenhinol Wrecsam
Efallai y gwyddoch bod safle Awyrlu Brenhinol yn Borras, a gafodd ei ddefnyddio yn ystod y ddau ryfel byd.
Yn ystod 1917-20, defnyddiwyd y safle gan Ysgolion Sgwadron Hyfforddi Rhif Pedwar a Rhif 52 y Corfflu Hedfan Brenhinol.
Yna, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd y tri llwybr glanio glaswellt fel llwybrau glanio llanw, a chafwyd sawl ymweliad gan sgwadronau hyfforddi fel awyrennau Spitfire o safle Awyrlu Ternholl gerllaw.
Cafodd y llwybrau glanio eu huwchraddio i rai concrid yn ddiweddarach a gosodwyd goleuadau arnynt ac yn 1941, cyrhaeddodd Sgwadron Rhif 96 Wrecsam.
O 1941 tan 1944, roedd Sgwadron Rhif 285 yn aros yn Wrecsam ar gyfer ymarferion hyfforddi ac roedd y safle’n cael ei ddefnyddio gan Fyddin yr Unol Daleithiau hefyd i gefnogi eu hunedau cyfagos.
Oherwydd hanes helaeth yr Awyrlu Brenhinol yn Wrecsam, cynhaliwyd dathliad canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru ar Sgwâr y Frenhines y llynedd. Dyma ein fideo o’r digwyddiad 🙂
3. Byncer niwclear
Mae’r detholiad nesaf ar yr un safle â’r maes awyr. Rhwng 1962 ac 1992 adeiladwyd byncer niwclear caled yma ar gyfer Grŵp Rhif 17 Corfflu Arsyllu Brenhinol Gogledd Cymru.
Gwnaethpwyd hyn yn ystod y Rhyfel Oer a byddai rhybudd pedwar munud yn cael ei seinio i rybuddio trigolion Wrecsam o gwymp ymbelydrol.
Roedd 80 o wirfoddolwyr yn gweithio yn yr adeilad ar y pryd ond pan giliodd y bygythiad posibl, nid oedd eu hangen , mwyach.
Mae’r byncer niwclear yn dal i fod ar safle Awyrlu Brenhinol Wrecsam, ond mae bellach wedi cael ei droi yn stiwdio recordio.
4. Plas Borras
Mae Plas Borras yn hen faenordy trawiadol o ddechrau’r 17eg ganrif.
Credir ei fod wedi disodli tŷ a adeiladwyd ar yr un safle ar ddechrau’r 13eg ganrif, oherwydd yn 1988 daethpwyd o hyd i eitem y credir a oedd yn perthyn i arglwyddi Borras ac Erlas – a adeiladodd Plas ym Mwras oddeutu 1200.
Mae bellach yn sefyll fel adeilad deulawr ac mae rhan ohono yn ffrâm bren wedi’i orchuddio â brics coch a tho llechi.
Mae’n adeilad hardd iawn ac yn ddiddorol roedd rhai o’r ychwanegiadau brics diweddarach yn arfer dal hufenfa a chyfleusterau gwneud caws.
5. Y Borras arall
Wyddoch chi bod dinas yn Sweden o’r enw Borras? Wel, bron iawn beth bynnag, Boras yw’r sillafiad ar gyfer y ddinas honno.
Mae Boras yn rhanbarth o Västra Götaland, dros 200 milltir i’r de-orllewin o Stockholm.
Mae arfbais y ddinas yn cynnwys dau bâr o wellau defaid, sy’n deyrnged i’r holl ofaint a oedd yn arfer bod yno yn y gorffennol.
Mae’r tîm pêl-droed IF Elfsborg yn tarddu o’r lleoliad hwn ac maent yn chwarae eu gemau yn Arena Boras.
Ffaith hwyl arall yw bod nifer o gyngherddau awyr agored yn cael eu cynnal yn rhad ac am ddim bob nos Iau yn ystod yr haf ym Moras.
Mae’n swnio fel lle da i fod 🙂
Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau’r rhifyn hwn o ‘pum peth diddorol’. Ac yn ôl yr arfer, byddwch yn barod am y rhifyn nesaf cyn bo hir.
Siaradwr Cymraeg? Helpwch ni i wella ein gwasanaethau Cymraeg.
CWBLHEWCH EIN HYMGYNGHORIAD RŴAN