Mae’r amser yna eto 🙂
Dyma’r rhan nesaf o ‘pum peth diddorol am leoedd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam’.
A heddiw, rydym yn canolbwyntio ar Y Mwynglawdd…
1. Tarddiad yr enw
I’r rhai ohonoch sy’n gyfarwydd â hanes y Mwynglawdd, ni fyddwch yn synnu o glywed bod yr enw’n dod o’r gair Lladin am ‘gloddfa’ neu ‘mwyn’.
Ac mae’n hanes sy’n estyn yn ôl am gyfnod hir; mae pobl wedi bod yn cloddio yn y Mwynglawdd ers o leiaf y canol oesoedd.
Mae’r cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at y Mwynglawdd yn dyddio o 1296, pan anfonodd Edward 1 gloddwyr o’r Mwynglawdd i Ddyfnaint, i weithio yn ei gloddfeydd arian…felly mae’r enw Mwynglawdd wedi’i ddefnyddio ers dros 700 o flynyddoedd!
Rydym yn credu bod yr holl dreftadaeth hon a gaiff ei hadlewyrchu yn yr enw Mwynglawdd yn eithaf arbennig, felly dyma ein dewis cyntaf 🙂
2. Pyllau Plwm a pharc gwledig y Mwynglawdd
Mae hwn yn un o’n parciau gwledig mwyaf unigryw, oherwydd mae’n cynnwys gweddillion yr ardaloedd prosesu plwm o’r 18fed a’r 19eg ganrif.
Mae hyn yn golygu bod ymwelwyr yn cael cipolwg ar y gorffennol ymhlith y nifer o olygfeydd hyfryd o’r Mwynglawdd.
Darperir ar gyfer cerddwyr, ac mae dewis iddynt o nifer o lwybrau cerdded. Dyma fideo o’n taith gerdded gan ddechrau ym Mhyllau Plwm y Mwynglawdd o’r llynedd.
Yr injan tŷ distiau wedi’i adfer yw gogoniant y parc gwledig arbennig hwn o bosibl, ond mae digonedd i ddewis ohono.
Felly os nad ydych wedi ymweld ers tro, ewch draw i gael golwg.
Ac os ydych yn hoffi cerdded, byddwch yn hoffi’r un nesaf hefyd…
3. Taith gerdded gylchol Coedpoeth i’r Mwynglawdd
Mae’r daith yn dechrau yng Nghoedpoeth mewn gwirionedd ond ni allem beidio cynnwys taith gerdded sy’n cynnwys Melin Nant a’r gorau o’r Mwynglawdd hefyd 🙂
Bydd angen pâr da o esgidiau cerdded arnoch oherwydd mae hon yn daith 5 milltir. Mae gennym arweiniad cerdded gwych ar gyfer y llwybr hwn a gallwch ei lawrlwytho o’n gwefan.
Mae’r arweiniad yn dweud y dylid caniatáu tair awr, ond mae’n debyg y byddwch am gael rhagor o amser i fwynhau’r golygfeydd.
Mae’r daith gerdded yn mynd â chi o Goedpoeth i Felin Nant, a thrwy goetir sy’n arwain at y Mwynglawdd a’i olygfeydd anhygoel. Yna byddwch yn mynd heibio’r Pyllau Plwm y soniwyd amdanynt eisoes, cyn dychwelyd ar hyd llwybr arall.
Rhowch gynnig arni – rydym yn ei argymell yn fawr.
4. Hanes yr Eglwys
Mae cofnodion am gapel cyfleus yn y Mwynglawdd mor gynnar â 1577 (adeilad i bobl leol na allent gyrraedd Eglwys y Plwyf yn gyfleus).
Fe’i gwnaed o bren yn wreiddiol, cyn cael ei hailadeiladu o 1728-33, ac yna yn ddiweddarach eto ym 1815.
Wrth i boblogaeth yr ardal ddechrau tyfu, nid oedd yn gwneud synnwyr bellach i’r Mwynglawdd gael ei ystyried fel treflan o blwyf Wrecsam.
Felly ym 1864, dechreuodd gwaith ar safle’r hen gapel cyfleus i greu Eglwys newydd ar gyfer y Mwynglawdd, a ddyluniwyd gan Kennedy a Rogers o Fangor.
Er ei fod yn adeilad newydd, gwnaethant gadw amlinellau a thu mewn yr hen eglwys, ac mae’n sefyll heddiw fel Eglwys y Santes Fair.
Yn ogystal ag Eglwys Anglicanaidd y Santes Fair, mae gan y Mwynglawdd hefyd gapel anghydffurfiol a adeiladwyd ym 1804. Yr enw gwreiddiol arni oedd capel y Mwynglawdd, ond ei henw nawr yw Capel Pen-y-Bryn.
Hanes helaeth iawn!
5. Chwarel Mwynglawdd
Mae ein pedwar ‘peth diddorol’ arall yn amlygu pa mor dda mae’r Mwynglawdd wedi llwyddo i gadw ei hanes, ac mae Chwarel Mwynglawdd yn enghraifft arall o hyn.
Mae’r chwarel wedi bod yn gysylltiedig ag echdynnu calchfaen ers dros 200 mlynedd.
Ac mae’r safle, fel y mae heddiw, yn ddiddorol ac mae rhywbeth i bawb yma.
Bydd gweddillion cloddio plwm a gweithfeydd calchfaen – heb sôn am y ffurfiannau daearegol pwysig, yn creu argraff ar rai sy’n frwdfrydig dros hanes.
Ac os nad yw hanes yn mynd â’ch bryd, beth am natur?
Oherwydd ers 1994, mae nifer o rywogaethau prin a rhai dan fygythiad i’w gweld yma.
Mae’r rhain yn cynnwys o leiaf tair rhywogaeth o ystlum (ystlum pedol lleiaf, ystlum hirglust, ystlum Natterer), yn ogystal ag adar sy’n trigo ar glogwyni fel hebog tramor a chigfran.
Mae nifer o blanhigion gwych – coedwyrdd crynddaill, crwynllys chwerw a lloer-redynen, i enwi rhai.
Aethom i Chwarel Mwynglawdd yn gyflym ar ddiwedd ein fideo Pyllau Plwm y Mwynglawdd, felly cymerwch olwg os ydych am gael rhagolwg cyflym.
Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r rhifyn hwn o ‘pum peth diddorol’. Roedd yn canolbwyntio ar hanes, a gobeithio bod rhai pethau nad oeddech yn eu gwybod eisoes wedi’u cynnwys.
Unwaith eto, cadwch olwg am yr un nesaf 😉
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR