Nid oes gan lywodraeth leol yr enw da mwyaf hudol fel gweithle, ond gall golwg fod yn dwyllodrus a gall gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gynnig mwy o fuddion na fyddech yn feddwl.
- Torri lawr ar deithio
Wedi cael digon ar eistedd mewn traffig oriau brys? Wedi disbyddu eich llyfrgell podlediad? Mae gweithio’n lleol yn golygu nad ydych yn gorfod gwastraffu amser gwerthfawr yn teithio yn ôl ac ymlaen o’r gwaith.
Trwy weithio’n agosach at adref gallwch adael yn hwyrach i fynd i’r gwaith, bod adref mewn pryd i roi’r plant yn eu gwelyau, neu yn ôl yn eich pyjamas yn gynt. Gallech hyd yn oed ymweld â’r deintydd yn eich awr ginio!
- Manteision y swydd
Mae llywodraeth leol yn cynnig pensiwn a gwyliau hael ac nid yw CBSW ddim gwahanol gan gynnig cyflogau cystadleuol ynghyd â chynllun pensiwn llywodraeth leol.
Gallech hefyd fanteisio ar ostyngiad mewn pris aelodaeth mewn canolfannau hamdden, y cynllun beicio i’r gwaith a gostyngiadau mewn amrywiol sefydliadau.
- Dywedwch ffarwel wrth 9 tan 5
Gyda Chyngor Wrecsam gallwch weithio oriau hyblyg, felly gallwch ddweud ffarwel wrth 9 tan 5 a mwynhau’r cydbwysedd bywyd/gwaith perffaith.
- Datblygwch eich gyrfa a meithrin sgiliau newydd
Mae Cyngor Wrecsam yn cymryd hyfforddiant a datblygiad parhaus o ddifrif. Mae’r Cyngor yn ddigon mawr i gynnig twf gyrfa ac yn ddigon bach i ddatblygu sgiliau unigol.
Cefnogir pob gweithiwr i ddatblygu eu sgiliau, a all gynnwys dilyn cymwysterau a hyfforddiant pellach.
- Gwneud gwahaniaeth
Gweithio mewn swydd lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned eich hun. Mae gweithio fel gwas cyhoeddus yn golygu eich bod yn cyfrannu’n uniongyrchol at wella eich cymuned leol.
Gall olygu eich bod yn teimlo’n agosach at eich amgylchedd a buddsoddi eich oriau gwaith i wneud newidiadau pendant.
Swnio’n dda? Rydym yn chwilio am ddadansoddwr technegol profiadol ar hyn o bryd i ymuno â’r tîm TGCh yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Ydych chi’n ateb y gofynion?
YDW! RYDW I EISIAU YMGEISIO!
NA, MI WNÂI ANWYBYDDU’R CYFLE RHAGOROL HWN