Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
ArallPobl a lle

Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 17, 2026 9:49 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
RHANNU

Erthygl gwadd – Cyngor Cymuned Rhosllannerchrugog

Gwahoddir trigolion i lunio dyfodol y pentref – a phenderfynu sydd y caiff arian newydd ei wario.

Gwahoddir trigolion cymuned Rhosllannerchrugog i sesiwn galw heibio yn y Stiwt ddydd Iau 19 Mawrth, 2–7pm, i roi eu barn ar ddyfodol pentref mwyaf Cymru. Mae’r digwyddiad yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun Creu Lleoedd drafft, sydd hefyd yn cynnwys platfform ar-lein ar wrexhamplacemaking.info/rhos/cymraeg sy’n agored tan ddydd Llun 30 Mawrth. Mae copïau caled o’r cynllun ar gael o ddydd Iau 19 Mawrth yn Llyfrgell y Rhos, swyddfa’r Cyngor Cymuned a chyntedd y Stiwt.

Mae Cyngor Cymuned Rhosllannerchrugog yn gofyn i drigolion, busnesau a grwpiau cymunedol rannu eu blaenoriaethau – gan gynnwys sut y dylai arian cyfalaf newydd gael ei wario. Rhaid i’r Gronfa Balchder Bro, a gafwyd drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gael ei defnyddio ar gyfer gwelliannau ffisegol i lleoedd cymunedol, mannau cyhoeddus, neu’r stryd fawr. Mae hwn yn gyfle gwych i ddylanwadu ar benderfyniadau go-iawn ynghylch prosiectau go-iawn.

Mae’r cynllun drafft yn dangos gweledigaeth ar gyfer y Rhos sy’n ymwneud â phedwar amcan: adfywio Stryt y Farchnad; dathlu asedau diwylliannol a threftadaeth y pentref; gwella symudiad a mynediad; a chryfhau arweinyddiaeth gymunedol. Mae wedi cael ei ddatblygu yn dilyn misoedd o ymchwil lleol ac ymgynghori â’r gymuned, a chaiff ei gyhoeddi ym mlwyddyn canmlwyddiant y Stiwt – sy’n garreg filltir arbennig o bwysig i’r pentref.

Meddai’r Cynghorydd Geoff Foy, cadeirydd y Cyngor Cymuned, wrth esbonio mwy am y cynllun: ‘Mae’r cynllun creu lleoedd drafft hwn yn cynnig cyfle pellach i drigolion gyfrannu at ffurf y gymuned yn y dyfodol, gyda rhagolygon o dynnu cyllid gan lywodraeth Prydain i fynd i’r afael â phroblemau a gwella llawer o asedau.’

Mae’r Rhos yn wynebu heriau gwirioneddol – yn enwedig ar Stryt y Farchnad – ond mae hefyd yn meddu ar asedau eithriadol: y Stiwt, traddodiad Cymraeg a cherddorol cryf, capeli hanesyddol, Parc Ponciau, clybiau chwaraeon llewyrchus, ysgolion uchel eu parch a sefydliadau cymunedol cryf. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar adeiladu ar y cryfderau hyn.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Cymuned Rhosllannerchrugog ar 01978 840007.

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae GradCon Cymru yn dod i’r Gogledd am y tro cyntaf Mae GradCon Cymru yn dod i’r Gogledd am y tro cyntaf
Erthygl nesaf HANES YN CAEL EI GWNEUD: WRECSAM YN CYRRAEDD Y RHESTR HIR AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029 HANES YN CAEL EI GWNEUD: WRECSAM YN CYRRAEDD Y RHESTR HIR AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Pobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English