Wel…efallai y byddwch yn gwybod am rai ohonynt 😉
Y tro nesaf y byddwch yn cerdded heibio Llyfrgell Wrecsam, edrychwch i fyny…ac efallai fe ddysgwch ffaith ddifyr am y fwrdeistref sirol!
Bob wythnos am y 52 wythnos nesaf, byddwn yn rhannu ffaith am Wrecsam ar y sgrin ddigidol y tu allan i brif fynedfa’r llyfrgell – yn amrywio o hanesion adnabyddus am Lager Wrecsam a’r clwb pêl-droed i rai llai adnabyddus am Ymosodiad y Marchoglu Ysgafn, neu’r record cyflymder ar dir.
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam: “Mae gan Wrecsam ddiwylliant a hanes cyfoethog iawn, ac mae llawer iawn o ffeithiau a ffigyrau diddorol am y fwrdeistref sirol.
“Bydd llawer o bobl yn ymwybodol o rai o’r ffeithiau y byddwn yn eu dangos ar y sgrin – er enghraifft, mae llawer yn gwybod bod Lager Wrecsam yn un o’r diodydd a oedd yn cael ei weini ar y Titanic. Ond bydd ffeithiau eraill yn siŵr o’ch synnu…hyd yn oed y rhai ohonoch sydd wedi cael eich magu yn Wrecsam!
“Mae’n ffordd hwyliog o dynnu sylw at rai o’r amryw o bethau bendigedig a difyr am Wrecsam.”
Gosodwyd y sgrin ar ochr y llyfrgell ar ddiwedd mis Awst er mwyn helpu i hyrwyddo digwyddiadau, gweithgareddau, gwasanaethau cyhoeddus a gwybodaeth arall.
Mae’n rhan o fenter Dinas SMART y cyngor, ac yn cael ei hariannu gan grant gan y Cynllun Trawsnewid Trefi.
Meddai’r Cynghorydd Williams: “Rydym yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio technoleg yng nghanol ein dinas i wella’r profiad i siopwyr, gweithwyr a defnyddwyr hamdden eraill.
“Dim ond un enghraifft yw’r sgrin hon, ond os yw’n gweithio’n dda gallai baratoi’r ffordd ar gyfer datblygiadau pellach yn y modd yr ydym yn defnyddio llwyfannau digidol i rannu gwybodaeth gyda defnyddwyr canol y ddinas.”