Aelodaeth 1 Mis AM DDIM yn Nghanolfannau Hamdden Freedom Leisure Wrecsam neu Canolfan Hamdden Plas Madoc.
Mae’r cynnig 1 Mis a ariennir ar gyfer pobl gymwys yn cynnwys:
Mynediad i’r gampfa, dosbarthiadau ymarfer corff grŵp a nofio ar draws ein Safleoedd Freedom Leisure yn Wrecsam NEU Canolfan Hamdden Plas Madoc.
Bydd hyn yn cynnwys safleoedd Freedom Leisure:
Byd Dŵr Wrecsam: 01978 297300/ Stadiwm Queensway: 01978 355826/Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans: 01978 269540 a Chanolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun: 01691778666
NEU
Canolfan Hamden Plas Madoc 01978 821600
Yn ogystal yn PMLC bydd yn caniatáu mynediad i’r sesiynau 60+ unigryw hyn:
Dydd Llun 60+ Dosbarth Cylchdaith 1.00-1.45pm/ Dydd Mercher 60+ Zumba Aur 10.30-11.30am/ Gwers nofio nos Fercher 60+ 8.00-8.45pm/Dydd Iau 60+ Dosbarth Cylchdaith 1.30-2.15.
Ar ddiwedd y 1 mis byddwch yn symud i’n Haelodaeth 60+ Freedom Leisure neu aelodaeth 60+ Plas Madoc neu unrhyw un o’n Haelodaeth Debyd Uniongyrchol Misol/Aelodaeth Flynyddol yr ydych yn gymwys ar ei gyfer ( Gofynnwch i staff y dderbynfa pa un yw’r gorau opsiwn i chi wrth gofrestru)
Mae’r cynnig yn agored i aelodau newydd, dros 60 oed, nad ydynt wedi bod yn aelod o Freedom Leisure neu Plas Madoc ar ôl 1/4/2022, gyda ffocws ar yr anactif/lleiaf actif.
Mae’r cynnig ar gael or 2 o Fai 2023 (mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer y cynnig hwn)
Un o ofynion y Mis rhad ac am ddim hwn yw eich bod wedyn yn dilyn hyn drwy gymryd Aelodaeth allan yn un o’n Nghanolfannau Hamdden Freedom yn Wrecsam neu Ganolfan Hamdden Plas Madoc.
Cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y cynnig aelodaeth 60+ hwn. Gallwch hefyd anfon e-bost at Active60@wrexham.gov.uk gydag unrhyw ymholiadau.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD