Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Peidiwch â rhoi eich hunain mewn perygl wrth yr olwyn dros gyfnod y Nadolig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Peidiwch â rhoi eich hunain mewn perygl wrth yr olwyn dros gyfnod y Nadolig
Busnes ac addysgPobl a lle

Peidiwch â rhoi eich hunain mewn perygl wrth yr olwyn dros gyfnod y Nadolig

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 7, 2018 2:14 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Peidiwch â rhoi eich hunain mewn perygl wrth yr olwyn dros gyfnod y Nadolig
RHANNU

Â’r Nadolig ar ei ffordd, bydd partïon yr ŵyl yn eu hanterth cyn pen dim.

Cynnwys
  • Peidiwch â chymryd y risg
  • “Bydd yr Heddlu’n gwylio’r ffyrdd”
  • “Gall yfed a gyrru ddifrodi bywydau”

Mae pawb yn gwybod fod pobl yn hoff o fwynhau ambell ddiod gyda ffrindiau neu gydweithwyr ar nosweithiau allan yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.  Â hynny mewn cof, rydym ni – ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru – eisiau gwneud yn siŵr fod pobl yn ymwybodol o’u terfynau, ac atgoffa pawb na ddylent yrru dan ddylanwad alcohol na chyffuriau.

Ar 1 Rhagfyr, lansiwyd ymgyrch Nadolig Heddlu Gogledd Cymru yn erbyn gyrru dan ddylanwad, ac fe fydd swyddogion yn monitro mannau problemus ledled Gogledd Cymru er mwyn canfod unigolion sydd yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol dros gyfnod yr ŵyl.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Gyda chefnogaeth gan ymgyrch #DewisDoeth ar y cyfryngau cymdeithasol, bydd swyddogion o Uned Plismona Ffyrdd yr heddlu â chefnogaeth partneriaid yn gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos er mwyn patrolio’r mannau problemus hysbys hyn.

Y llynedd, cynhaliodd Heddlu Gogledd Cymru brofion ar 9,448 o unigolion ar ochr y ffordd, gyda 95 ohonynt naill ai’n profi’n bositif, yn methu neu yn gwrthod y prawf; a 63 o arestiadau am droseddau yn ymwneud â chyffuriau.

Peidiwch â chymryd y risg

Rydym yn gwybod y bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwneud yn siŵr nad ydynt yn gyrru os ydynt wedi cael ychydig ddiodydd ar noson allan, gan wneud trefniadau amgen gyda thacsis neu yrwyr penodedig.

Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol y gallech barhau i fod dros y terfyn cyfreithlon y bore wedi noson allan – hyd yn oed os ydych yn teimlo’n sobor ac wedi dod atoch eich hun; os ydych dros y terfyn cyfreithlon, nid yw’n ddiogel i chi yrru.

Hyd yn oed os ydych yn “teimlo’n iawn”, mae dal yn bosib y gallech fod ag amser ymateb gwael. Mae hynny yn achosi gyrru peryglus, ac felly y neges syml yw i beidio â chymryd y risg.

Gall gyrru dan ddylanwad diod a chyffuriau achosi difrod anadferadwy – gall bobl gael eu hanafu neu hyd yn oed eu lladd mewn gwrthdrawiadau a achosir gan yrwyr dan ddylanwad, gan gynnwys y gyrwyr eu hunain.

Felly, mwynhewch dymor yr ŵyl mewn modd cyfrifol, a pheidiwch â chymryd y risg o ddinistrio eich bywyd eich hun trwy gael eich canfod yn euog o yfed dan ddylanwad diod neu gyffuriau.

“Bydd yr Heddlu’n gwylio’r ffyrdd”

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Y neges syml yw na ddylai pobl gymryd y risg o yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau dros gyfnod y Nadolig.

“Hyd yn oed os nad ydynt yn achosi damwain, bydd yr Heddlu’n gwylio’r ffyrdd am unrhyw un y maent ag amheuaeth y gallent fod yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol, ac fe fyddant yn gweithredu’n briodol lle bynnag y bo angen hynny.

“Os oes unrhyw un yn credu y gallent fod dros y terfyn, y peth symlaf i’w wneud yw peidio â gyrru o gwbl.”

“Gall yfed a gyrru ddifrodi bywydau”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Gall gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau wneud difrod anadferadwy i fywydau, ac fe fydd yr heddlu yn gwneud popeth o fewn eu gallu i berswadio pobl i beidio yfed a gyrru, ac yn cymryd camau gorfodaeth yn erbyn y rhai hynny sy’n mynnu gwneud.

“Rydym yn ymwybodol fod pobl yn hoffi mwynhau eu hunain adeg y Nadolig, ond dylent wastad sicrhau eu bod yn gwneud trefniadau teithio amgen.”

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Peidiwch anghofio eich brechiad ffliw – gallai arbed eich bywyd Peidiwch anghofio eich brechiad ffliw – gallai arbed eich bywyd
Erthygl nesaf Wrexham council news, School reception applications 2019, Wrexham schools Cofiwch!! Gwnewch gais am y cynnig gofal plant nawr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 21, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English