Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Awgrymiadau defnyddiol ynglŷn ag ailgylchu gwastraff bwyd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Hedgehog
Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?
Arall
Dog
Pwy sy’n gofalu am eich ffrind gorau tra byddwch ar wyliau?
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Awgrymiadau defnyddiol ynglŷn ag ailgylchu gwastraff bwyd
Y cyngor

Awgrymiadau defnyddiol ynglŷn ag ailgylchu gwastraff bwyd

Diweddarwyd diwethaf: 2022/03/09 at 9:13 AM
Rhannu
Darllen 6 funud
Food Waste
RHANNU

Tuag at ddiwedd y llynedd, fe wnaethom ni lansio ein Harolwg Gwastraff Bwyd i’n helpu ni ddysgu mwy am arferion gwastraff bwyd ein preswylwyr.  Cawsom ymateb da iawn i’r arolwg; fe roesoch wybodaeth ddefnyddiol iawn i ni ac rydym wedi ystyried eich holl sylwadau.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Arolwg Gwastraff Bwyd wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn ein helpu ni ddeall y gwahanol resymau pam fod preswylwyr yn Wrecsam yn ailgylchu gwastraff bwyd neu beidio, felly rydym eisiau diolch i bawb a dreuliodd amser yn llenwi’r arolwg i ni.

“Fe wnaethom werthfawrogi eich sylwadau ac maent wedi galluogi i ni weld rhai o’r meysydd rydych chi angen rhagor o wybodaeth i fanteisio i’r eithaf ar y gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd.  Felly gyda hynny mewn golwg, rydym wedi llunio rhestr o awgrymiadau defnyddiol i fynd i’r afael â’r problemau rydych wedi’u hwynebu.

Dyma rai awgrymiadau a fydd yn gwneud pethau ychydig yn haws i chi gobeithio:

  • Rydym ni’n cynnig bagiau bin bwyd am ddim

Dywedodd nifer o breswylwyr a lenwodd yr arolwg nad oeddynt yn ymwybodol bod bagiau bin bwyd am ddim ar gael fel rhan o wasanaeth Wrecsam.

Gallwch barhau i gael eich bagiau bin bwyd am ddim drwy glymu bag bin bwyd gwag i handlen eich bin bwyd ar ddiwrnod casglu a bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi.

Neu, os yw’n well gennych chi, gallwch gasglu’r bagiau bin bwyd am ddim (yn ogystal â sachau glas newydd) o amryw leoliadau yn Wrecsam, gan gynnwys nifer o siopau cyfleus, swyddfeydd ystadau, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu.  Cliciwch yma i weld y rhestr gyflawn.

  • Peidiwch â gorlenwi eich bag bin bwyd

Problem gyffredin yw bod bagiau bin bwyd yn rhwygo, ac un o’r ffyrdd gorau o atal hyn rhag digwydd yw sicrhau nad ydych yn eu gorlenwi nhw.

Awgrym defnyddiol arall yw cario eich gwastraff bwyd y tu allan i’ch cadi cegin pan fyddwch chi’n barod i’w drosglwyddo i’r cadi ymyl ffordd. Mae hyn yn ei atal rhag rhwygo ac unrhyw hylif rhag colli.

  • Archebu biniau newydd ar-lein yn hawdd

Dywedodd ychydig o bobl wrthym eu bod wedi symud mewn i eiddo newydd sydd heb finiau bwyd, felly ni fu modd iddynt ailgylchu gwastraff bwyd.

Rydym ni’n cynnig biniau newydd, felly os nad oes gan eich cartref newydd fin cegin neu ymyl palmant, peidiwch â phoeni – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw archebu un newydd.

Gallwch wneud cais am fin bwyd newydd yn hawdd ar eich gwefan. Fe allwch chi archebu bocsys ailgylchu newydd hefyd os ydych chi eu hangen.

  • Nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r cadis bwyd sy’n cael eu darparu gan Gyngor Wrecsam

Dywedodd nifer o breswylwyr nad ydynt yn hoffi edrychiad ein biniau cegin llwyd, ond nid yw’n orfodol defnyddio ein fersiwn ni.

Os yw’n well gennych chi, gallwch brynu eich cadi eich hun sydd yn cydweddu’n well â lliw eich cegin.

Neu fe allwch ei gadw o dan sinc y gegin a’i godi ar y cownter pan fyddwch chi’n plicio llysiau ac ati.

  • Arferion newydd yn gweithio

Un o’r pethau a ddaeth yn amlwg o’r hyn rydych chi wedi’i ddweud wrthym ni yw sut mae dechrau arferion newydd wedi’ch helpu chi wrth ailgylchu eich sbarion.

Er enghraifft, tra’n gwagio bocsys bwyd y plantos ar ddiwedd y dydd, ceisiwch grafu crystiau sydd heb eu bwyta yn syth i mewn i’r bin yn rhan o’ch trefn.

Beth bynnag yw’ch patrwm newydd, mae arferion newydd yn gweithio!

  • Ceisiwch ddysgu a chofio pa fwydydd y gellir eu hailgylchu

Rydym ni’n gwybod fod yna lawer i’w gofio, ond mae ceisio dysgu a chofio beth sy’n cael ei roi yn y bin bwyd yn ein helpu ni.

Mae rhai o’r pethau yma’n cynnwys:

  • Ffrwythau a llysiau – amrwd ac wedi’u coginio
  • Cig a physgod – amrwd ac wedi’u coginio
  • Esgyrn a phlisgyn wyau
  • Reis, pasta, grawnfwydydd a nwdls
  • Bara, cacennau, crwst a bisgedi
  • Bagiau te a gwaddodion coffi
  • Caws, wyau ac iogwrt
  • Ffa, cnau, corbys a hadau
  • Bwyd sydd heb ei fwyta o’ch plât

Tarwch olwg ar y rhain i gael rhagor o wybodaeth:

https://www.wrecsam.gov.uk/service/beth-syn-mynd-ir-bincynwysyddion-ailgylchu

  • Biniau bwyd drewllyd yn yr haf

Rydym ni’n gwybod bod y biniau’n gallu drewi ychydig dros fisoedd cynnes yr haf, ond mae yna ychydig o bethau y gallwch chi eu gwneud i atal hyn rhag digwydd.

Rhowch gynnig ar rai o’r pethau yma:

 

  • Gwagio’r bin yn fwy aml mewn tywydd cynnes
  • Gwasgaru ychydig o ficarbonad soda yng ngwaelod y bin
  • Glanhau unrhyw beth sydd wedi diferu ar unwaith
  • Cadw bin bwyd y gegin allan o olau haul uniongyrchol
  • Glanhau/diheintio’r bin yn rheolaidd
  • Ac yn bwysig iawn, cadw’r caead ar gau

Diolch yn fawr i bawb unwaith eto a lenwodd yr Arolwg Gwastraff Bwyd, rydym ni’n gwerthfawrogi’n fawr.

I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i  wrexham.gov.uk/recycling

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Caddie Liners Cyngor a Sachau Cadi Am Ddim yn Nhŷ Pawb yfory – 09.03.2022
Erthygl nesaf Broadband Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, efallai y byddwch yn gallu gostwng eich bil band eang

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor Awst 20, 2025
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg Awst 19, 2025
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Awst 19, 2025
Hedgehog
Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?
Arall Awst 19, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol

Awst 20, 2025
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor

Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan

Awst 13, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English