Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 19, 2026 3:44 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Rhos library
RHANNU

Yma yn Wrecsam, rydym yn ffodus i gael timau gwasanaethau llyfrgell ymroddedig ar draws ein cymunedau. Maent yn ceisio darparu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer pob diddordeb a hobi.

Cynnwys
  • I’r ymwelwyr iau
  • Gwell gyda’n gilydd
  • Gweithgareddau celf a llenyddiaeth
  • Cefnogaeth a chymorth cymunedol

Heddiw, byddwn yn edrych ar yr hyn sydd gan ein tîm yn llyfrgell Rhos ar y gweill i chi pan fyddwch yn ymweld â nhw nesaf.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

I’r ymwelwyr iau

Bob dydd Mercher, rhwng 3 a 4pm, mae llyfrgell Rhos yn cynnal y Clwb Lego.

Mae’r sesiynau hyn yn helpu plant i ddysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn eu dysgu sut i weithio a rhyngweithio ag eraill. Trwy ffordd o ddysgu sy’n llawn hwyl, gall plant ddatblygu sgiliau meddwl creadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a datrys problemau.

Mae’r sesiynau yn addas ar gyfer plant 4 oed a hŷn ac nid oes cost am fynychu. Nid oes angen cadw lle, dim ond galw heibio a chymryd rhan.

Mae yna hefyd sesiwn ryngweithiol gyfeillgar a llawn hwyl i rieni neu ofalwyr a’u babanod. Bob dydd Gwener am 10.30 tan 11am, gallwch ddod draw i ymuno â sesiwn Stori a Chân.

Mae hwn yn ddigwyddiad grŵp dwyieithog. Mae croeso mawr i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, yn ogystal â theuluoedd sy’n newydd i’r Gymraeg. Os nad ydych yn siarad Cymraeg eich hun, peidiwch â phoeni, byddwch yn dod yn gyfarwydd ag ymadroddion Cymraeg syml yn fuan.

Nid oes cost am fynychu ac nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.

Gwell gyda’n gilydd

Does dim byd yn curo paned a sgwrs gyda chwmni da. Bob dydd Gwener, rhwng 2 a 3pm, gall ymwelwyr ddod draw i’r Grŵp Cyfeillgarwch.

Gallwch gwrdd â ffrindiau newydd a sgwrsio am faterion sy’n bwysig i chi. Mae croeso i chi ddod â phrosiect crefft, llyfr, cwis – neu ddim ond chi eich hun.

Nid oes cost am fynychu, darperir lluniaeth ac mae croeso i bawb.

Mae cyfle gwych arall i wneud ffrindiau newydd yn y sesiynau Hel Atgofion/Amser Cofio. Cynhelir y rhain ar drydydd dydd Gwener pob mis, rhwng 11am a 12pm.

Yma, gall ymwelwyr rannu eu hatgofion, hel atgofion gyda llyfrau a rhoi cynnig ar weithgareddau newydd gydag eraill. Mae croeso i unigolion, teuluoedd a gofalwyr.

Mae’r sesiynau am ddim gyda lluniaeth ar gael.

Gweithgareddau celf a llenyddiaeth

Bob wythnos, mae’r Grŵp Celf i Oedolion yn cyfarfod ar ddydd Gwener rhwng 12.30 a 3pm. Mae pob sesiwn yn cyflwyno prosiect newydd i’r grŵp gan ddefnyddio llawer o gyfryngau gwahanol.

Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer y digwyddiad hwn ac mae cadw lle yn hanfodol er mwyn osgoi colli cyfle. Gallwch anfon e-bost at y tîm asiantau cymunedol i gael rhagor o wybodaeth ac i gadw eich lle yn rhoscommunityagent@gmail.com.

Os ydych yn hoffi darllen a sgwrsio am lyfrau, mae yna grŵp perffaith i chi. Ar ddydd Mercher cyntaf pob mis, rhwng 2.30 a 3.30pm, mae’r Grŵp Darllen yn cwrdd i ddod â darllenwyr brwd o’r un anian at ei gilydd.

Cefnogaeth a chymorth cymunedol

Mae asiantau cymunedol yn gweithio gydag unrhyw un dros 50 oed ac sy’n byw yn Wrecsam i’w cefnogi i wneud dewisiadau gwybodus am anghenion y presennol a’r dyfodol.

Gallant eich helpu i deimlo’n fwy annibynnol, diogel ac wedi’ch gofalu amdanoch, ac i gael gwell ansawdd bywyd.

Michele yw’r asiant cymunedol ar gyfer ardal Rhos a Johnstown. Mae hi’n cynnal sesiynau galw heibio anffurfiol bob dydd Llun, rhwng 10.30am a 12pm. Mae croeso i chi ddod draw am sgwrs gyda hi am unrhyw ymholiadau sydd gennych. Nid oes angen gwneud apwyntiad.

I gael rhagor o fanylion am yr holl ddigwyddiadau a grybwyllir yma a mwy, ewch i’n tudalen digwyddiadau llyfrgelloedd. Fel arall, gallwch ffonio llyfrgell Rhos ar 01978 840328 neu e-bostio rhos.library@wrexham.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Old Library exterior Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Erthygl nesaf David Ebsworth Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English