Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lleY cyngor

Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 23, 2026 1:26 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
RHANNU

1.1      Fel rhan o broses ymgynghori’r Swyddfa Gartref ar gyfer llety gwasgaru 

i geiswyr lloches, mae Clear Springs (darparwr llety’r Swyddfa Gartref)  

wedi cysylltu â’r Cyngor ynghylch y defnydd arfaethedig ar gyfer y safle 

a elwid gynt yn Plas yn Rhos, Stryt y Doctor, Rhosllannerchrugog, 

Wrecsam.

1.2     Bwriedir i’r eiddo y cyfeirir ato yn yr ymgynghoriad fel Elm House, Stryt y Doctor, Rhosllannerchrugog, Wrecsam LL14 1AA fod yn lle i 35 o unedau i deuluoedd o hyd at ddau berson fesul uned. Mae’r safle yn gyn-gartref gofal sydd wedi’i gysylltu’n ffisegol â phractis meddyg teulu gyda pharcio a rennir a mynediad o sawl cyfeiriad. Mae wedi’i amgylchynu gan eiddo preswyl, gyda lladd-dy union gyferbyn iddo. Mae mynediad uniongyrchol i ffenestri a drysau’r adeilad ac mae’n weladwy iawn ac yn hygyrch i’r cyhoedd. 

1.3        Mae’r broses ymgynghori yn ei gwneud yn ofynnol i ni ymgynghori â phartneriaid gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru, yr Awdurdod Iechyd, Gwasanaeth Achub a Thân Gogledd Cymru ac adrannau perthnasol o fewn y Cyngor megis Tai, Addysg, Cynllunio ac Iechyd yr Amgylchedd. Fel awdurdod mae gennym hefyd bolisi o ymgynghori â mi, y Dirprwy Arweinydd, yr Aelod Arweiniol a’r Aelod Lleol. Rydym yn bwriadu cyflwyno ymateb o fewn yr amserlenni a ddarparwyd gan y Swyddfa Gartref yn gwrthwynebu’r cynnig. Nid yw Heddlu Gogledd Cymru ac Iechyd wedi cefnogi’r cynnig chwaith. Mae ein gwrthwynebiad yn seiliedig ar y rhesymau canlynol:

  • Effaith ar Ddiogelwch Cymunedol Lleol a chydlyniant cymunedol
  • Effaith ar ddarpariaeth gofal iechyd – Mae cynllun y safle a rennir, y parcio cyfyngedig, a’r llwybrau mynediad ar y cyd yn creu risgiau uwch i ddiogelwch staff a chleifion a diogelwch unrhyw breswylwyr posib, yn enwedig o ystyried y potensial am aflonyddwch a tharfu cyhoeddus. Mae risg gredadwy o ddifrodi eiddo, torri ar draws y gwasanaeth, a mynediad anniogel yn ystod cyfnodau o densiwn.

1.4     Mae’r Swyddfa Gartref wedi ymgynghori â’r Cyngor mewn perthynas â’r eiddo ar ddau achlysur blaenorol yn 2022 a 2023, ac rydym wedi gwrthwynebu’r defnydd arfaethedig yn gryf ar y ddau achlysur. Dylwn nodi nad yw pob ymgynghoriad gan y Swyddfa Gartref yn mynd drwodd i’r cam caffael am wahanol resymau.

1.5      Bydd unrhyw newid yn y defnydd o’r adeilad yn destun ystyriaethau cynllunio arferol maes o law.

1.6      Mewn amgylchiadau lle mae’r awdurdod lleol yn gwrthwynebu, bydd Clear Springs yn cyfeirio’r achos at Banel Dyfarnu ar gyfer Ceiswyr Lloches y Swyddfa Gartref i’w ystyried.  

1.7      Cynhaliodd yr Aelodau Lleol gyfarfod cyhoeddus yn Rhos ddydd Gwener 16 Ionawr yr oedd tua 700 o bobl ynddo. Roedd tensiynau cymunedol yn uchel iawn gyda phryder eithafol yn cael ei fynegi yn erbyn y cynnig. Yn ogystal, rwy’n deall bod deiseb ar-lein yn gwrthwynebu’r datblygiad gyda thua 5,000 o 

lofnodwyr. 

2.0      Oak Alyn Hall, Gwersyllt

2.1      Yn yr un modd â Phlas yn Rhos, ym mis Hydref 2025, ymgynghorodd Clear Springs yn ffurfiol ynglŷn ag eiddo Oak Alyn Hall i’w ddefnyddio fel Tŷ Amlfeddiannaeth ar gyfer 20 o oedolion sengl.

2.2      Datgelwyd yr wybodaeth hon i mi, y Dirprwy Arweinydd, yr Aelod Arweiniol a’r 

Aelod Lleol yn unol â’r weithdrefn.

2.3      Cynhaliwyd cyfarfod amlasiantaethol i ymgynghori â phartneriaid.  Cyflwynwyd ymateb ffurfiol i Clear Springs yn ddiweddarach yn y mis yn gwrthwynebu’r cynnig ar sail diogelwch cymunedol, cydlyniant cymunedol. 

2.4      Cyflwynodd Clear Springs y gwrthwynebiad i Banel Dyfarnu ar gyfer Ceiswyr Lloches y Swyddfa Gartref, ac yna cawsom wybod gan y panel fod yr achos wedi ei adolygu a bod y caffael i fynd yn ei flaen er gwaethaf gwrthwynebiadau. Yn gyffredinol, y dull o ddarparu llety i geiswyr lloches yw bod eiddo yn cael ei brynu gan fuddsoddwr, sy’n gwneud yr addasiadau angenrheidiol, yn cael y caniatâd/trwyddedau perthnasol, ac yna’n ei brydlesu i Clear Springs. 

2.5      Cafodd swyddogion gyfarfod â chynrychiolwyr o Dîm Cyflawni Gwasgaru Llawn y Swyddfa Gartref i fynegi ein gwrthwynebiad parhaus i’r penderfyniad, a’n rhwystredigaeth bod ein hymateb i’r ymgynghoriad wedi’i ddiystyru. Gwnaethant ymrwymo i ymchwilio ymhellach. Anfonais lythyr hefyd at Lywodraeth Cymru, yn gofyn am eu cefnogaeth. Ar 20 Tachwedd, cysylltodd Clear Springs/Ready Homes â ni i gadarnhau eu penderfyniad i fwrw ymlaen â’r eiddo.

2.6      Mae cais cynllunio wedi’i gyflwyno i’r awdurdod i drosi Oak Alyn yn llety Tŷ Amlfeddiannaeth. Nid oes unrhyw gyfeiriad at y ffaith ei fod ar gyfer ceiswyr lloches, fodd bynnag nid oes gofyniad cynllunio i wneud hynny. Mae Clear Springs wedi cadarnhau ers hynny eu bod nhw’n dal i fynd ar drywydd yr eiddo.

TAGGED:Oak Alynwrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol Cefn Mawr library Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Erthygl nesaf Ruabon library Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English