Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gŵyl Goronau i ddathlu’r Jiwbilî yn Eglwys San Silyn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gŵyl Goronau i ddathlu’r Jiwbilî yn Eglwys San Silyn
Arall

Gŵyl Goronau i ddathlu’r Jiwbilî yn Eglwys San Silyn

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 12, 2022 10:21 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Crown Festival
RHANNU

Erthyl Gwadd – Yr Eglwys yng Nghymru

Replica anferth wedi’i wneud â llaw o Goron Sant Edward yw canolbwynt Gŵyl Goronau Eglwys San Silyn i nodi blwyddyn Jiwbilî Platinwm y Frenhines eleni.

Mae’r goron, sy’n hongian o’r clochdy, yn wyth troedfedd o led ac wedi cael ei haddurno gan aelodau o gynulleidfa’r eglwys.  Mae 100 o goronau llai wedi’u creu gan ysgolion, grwpiau cymunedol a’r gynulleidfa wedi’u harddangos o amgylch yr eglwys.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Coron Sant Edward yw’r goron a ddefnyddir ar gyfer coroni.  Cafodd ei chreu ar gyfer Siarl II ym 1661, gan gymryd lle’r goron ganoloesol sydd yn ôl sôn yn dyddio’n ôl i sant brenhinol yr unfed ganrif ar ddeg, Edward y Cyffeswr.

Bydd yr ŵyl ar agor tan ddiwedd mis Awst.

Meddai Ficer San Silyn, Canon Jason Bray, “crëwyd ac addurnwyd y goron fawr gan aelodau cymuned yr eglwys, ond David Lambert, sy’n athro dylunio a thechnoleg yn Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff sydd wedi bod wrth wraidd y gwaith hwn.

“Mae coronau eraill wedi cael eu creu gan blant Ysgol Gynradd San Silyn yr Eglwys yng Nghymru, grwpiau a chlybiau lleol, plant o’r eglwys, ac aelodau talentog o gymuned yr eglwys. Maent yn cynnwys coron ddrain, gorchuddion tebot siâp coron wedi’u gweu, a choronau technoleg a hanes creadigol gan y plant ysgol.

“Mae hyn yn ychwanegu at hyfrydwch yr eglwys a gobeithiwn y bydd yn denu nifer o ymwelwyr, yn yr un modd â’n Gŵyl Angylion yn gynharach eleni.

Mae Eglwys San Silyn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm i ymwelwyr ac ar ddydd Sul ar gyfer gwasanaethau.  Mae croeso i bawb ac nid oes ffi mynediad i’r Ŵyl Goronau.

I ddarganfod mwy, anfonwch e-bost at Eglwys San Silyn ar office@wrexhamparish.org.uk

Crown Festival
Gŵyl Goronau i ddathlu’r Jiwbilî yn Eglwys San Silyn
Gŵyl Goronau i ddathlu’r Jiwbilî yn Eglwys San Silyn
Gŵyl Goronau i ddathlu’r Jiwbilî yn Eglwys San Silyn

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwyn Evans Diwrnod Agored Rhagorol yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans
Erthygl nesaf Rock the park Gohirio Rock the Park. Gwybod eich hawliau.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English