Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 23, 2026 10:18 am
Rhannu
Darllen 3 funud
National Adoption Week 2026
RHANNU

Penderfynodd Kylie a’i gŵr Pete ddechrau eu teulu trwy fabwysiadu, gan ddilyn yn ôl troed nain Kylie a fabwysiadodd fam Kylie.

“O’n i’n ofni’r broses, yr hyfforddiant, a’r siarad am fy nhrawma blaenorol o’n i wedi’i oresgyn. Do’n i ddim eisiau codi unrhyw beth eto, ond o’n i jyst yn glynu wrth y ffaith fy mod i’n mynd i fod yn fam ar ddiwedd hyn i gyd. Doedd o ddim mor ddrwg ag o’n i wedi’i adeiladu yn fy mhen, ac fe wnes i sortio pob ffurflen neu gwestiwn ar unwaith, o’n i eisiau ei wneud o cyn gynted â phosib.”

Flwyddyn ar ôl yr alwad ffôn gyntaf i Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, fe wnaethon nhw groesawu eu merch i’w cartref.

“Dw i’n cofio’r eiliad y galwodd hi fi yn mam am y tro cyntaf. Cymerodd hi tua chwe wythnos. Roedden ni’n chwarae bi-bo a dywedais i, “Ble mae mam?” Ac fe wnaeth hi jyst dweud o, “Mam!” Roedd o’n anhygoel; na i byth anghofio’r foment honno.”

Ddwy flynedd ar ôl i’w merch ddod adref, dechreuodd Kylie a Pete y broses unwaith eto i fabwysiadu bachgen bach. Dywedodd Kylie fod eu merch “mor gyffrous” i gael brawd bach.

“Maen nhw fel unrhyw frawd a chwaer arall, maen nhw’n chwarae gyda’i gilydd, maen nhw’n caru ei gilydd, maen nhw’n ymladd, maen nhw’n casáu ei gilydd!”

Parhaodd: “Gall pethau fod yn anodd, yn ystod ac ar ôl mabwysiadu, byddwch chi’n wynebu heriau, ond rydych chi’n cyfarfod pobl ar hyd y ffordd sydd hefyd ar daith debyg i chi, mabwysiadwyr eraill a’ch gweithwyr cymdeithasol, pobl sydd yno i siarad â nhw ac am bethau heblaw mabwysiadu hefyd. Rydyn ni’n teimlo mor lwcus i gael ein plant. Mae mor werthfawr, byddwn i’n annog unrhyw un sy’n ystyried mabwysiadu i wneud hynny, gwneud yr alwad ffôn honno, fyddwch chi ddim yn difaru.”

Cysylltwch â ni

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn hyrwyddo a chefnogi arfer mabwysiadu gorau trwy Gymru. I gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu a’r prosesau dan sylw, llenwch y ffurflen Cysylltwch â Ni ar-lein neu gallwch ffonio 0800 085 0774 / 01978 295311.

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da – Newyddion Cyngor Wrecsam

Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth.

Rhannu
Erthygl flaenorol Could you be a councillor? Allech chi fod yn gynghorydd?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Rhybudd tywydd – Storm Austen
Y cyngor Arall
Hydref 22, 2026
Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Digwyddiadau Arall Busnes ac addysg
Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English