Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Allech chi fod yn gynghorydd?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Diweddarwyd diwethaf: October 22, 2026 3:35 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Could you be a councillor?
RHANNU

Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth fyddai bod yn gynghorydd?

Cynnwys
  • Pryd a ble…
  • Ar y noson…
  • Hygyrchedd ac archebu

Efallai eich bod wedi meddwl am gymryd mwy o ran yn eich cymuned, ond yn meddwl bod gwleidyddiaeth leol ar gyfer pobl eraill. Pobl sydd â llawer o brofiad gwleidyddol, gwybodaeth arbenigol, neu fwy o amser sbâr nag sydd gennych chi.

Y gwir yw, mae cynghorwyr yn dod o bob cefndir.  Maen nhw’n rieni, gofalwyr, gweithwyr, perchnogion busnes, gwirfoddolwyr, myfyrwyr a phobl sydd wedi ymddeol.  Yr hyn maen nhw’n ei rannu yw ymrwymiad i’w cymunedau a pharodrwydd i gymryd rhan.

Wrth i Wrecsam barhau i dyfu a newid, mae gan bobl leol rôl hanfodol i’w chwarae wrth lunio ei dyfodol.  Po fwyaf o brofiadau, safbwyntiau a lleisiau sy’n gysylltiedig â’r sgyrsiau hynny, y cryfaf y daw ein democratiaeth leol.

Dyna pam rydyn ni’n gwahodd pobl o bob rhan o Wrecsam i ddod draw i’n digwyddiadau Allech chi fod yn Gynghorydd? i ddysgu mwy.

Pryd a ble…

Rydym yn cynnal dau ddigwyddiad anffurfiol yn Neuadd y Dref:

Dydd Iau, 26 Tachwedd, 2026, 5pm-7pm

Dydd Iau, 28 Ionawr, 2027, 5pm-7pm

P’un a ydych chi’n ystyried sefyll ar gyfer etholiad rhyw ddiwrnod, neu’n chwilfrydig am yr hyn y mae cynghorwyr yn ei wneud, bydd croeso mawr i chi. Dewch â’ch plant, eich teulu a’ch ffrindiau gyda chi.

Nid oes angen archebu lle, ond os hoffech gofrestru eich diddordeb cliciwch ar y ddolen hon.

Ar y noson…

Bydd y noson yn dechrau gyda sesiwn holi ac ateb fer rhwng 5pm a 5.30pm, lle cewch gyfle i ofyn eich cwestiynau yn uniongyrchol i’r prif weithredwr, y Maer ac arweinwyr grwpiau gwleidyddol.  Byddwn yn gofyn i gwestiynau gael eu hanfon ymlaen llaw, ynghylch ymarferoldeb bywyd fel cynghorydd.

Ar ôl y drafodaeth panel, gallwch sgwrsio’n anffurfiol gyda chynghorwyr presennol, swyddogion y cyngor a chynrychiolwyr o Senedd Ieuenctid Wrecsam. Bydd stondinau gwybodaeth yn ymdrin â phynciau fel:

  • Beth mae cynghorwyr yn ei wneud mewn gwirionedd
  • cydbwyso’r rôl â gwaith, cyfrifoldebau gofalu a bywyd teuluol
  • cyflog a ddarperir
  • cymorth, hyfforddiant a lwfansau
  • sefyll ar gyfer etholiad a’r broses enwebu
  • cynrychioli trigolion lleol a helpu i ddatrys materion lleol

Does dim un cwestiwn sy’n rhy fach. Rydym yn disgwyl y bydd llawer o bobl eisiau atebion gonest am y rôl. Nid oes angen profiad gwleidyddol arnoch.  Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol arnoch. Ac nid oes unrhyw rwymedigaeth i sefyll ar gyfer etholiad.

Mae’r digwyddiadau yn gyfle i ddysgu mwy, cwrdd â phobl sydd eisoes yn ymwneud â llywodraeth leol, a gweld a allai fod yn rhywbeth yr hoffech chi ei ystyried yn y dyfodol.

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl nad ydynt efallai wedi meddwl am chwarae rôl mewn bywyd cyhoeddus o’r blaen.  Os ydych chi’n rhiant sy’n gweithio, gofalwr, person iau, rhywun ag anabledd, neu rywun sy’n teimlo bod ganddynt bersbectif gwahanol i’w gynnig, mae eich llais yr un mor bwysig ag unrhyw un arall.

Hygyrchedd ac archebu

Rydym am i’r digwyddiadau fod yn groesawgar ac yn hygyrch i bawb.  Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad, rhowch wybod i ni wrth archebu a byddwn yn gwneud ein gorau glas i helpu.

Mae croeso i blant, aelodau o’r teulu a ffrindiau fynychu.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cyn y digwyddiad, cysylltwch â legaldem@wrexham.gov.uk.

Nid oes angen archebu lle, ond os hoffech gofrestru eich diddordeb cliciwch ar y ddolen hon.

Rhannu
Erthygl flaenorol Cloudy sky Rhybudd tywydd – Storm Austen
Erthygl nesaf National Adoption Week 2026 Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Air Covers
Air Covers o Wrecsam yn cryfhau twf byd-eang gyda chymorth y Parth Buddsoddi
Busnes ac addysg
November 11, 2026
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Y cyngor Digwyddiadau
November 10, 2026
Chirk Aqueduct
Dathlu pen-blwydd Traphont Ddŵr y Waun yn 225 oed mewn modd ysblennydd yng Nghastell y Waun
Pobl a lle Digwyddiadau
November 10, 2026
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Y cyngor
November 10, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Remembrance Sunday - image shows the cenotaph at Bodhyfryd in Wrexham
Pobl a lle

Wrecsam yn Cofio – Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio 2026

November 5, 2026
Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam
Pobl a lleDigwyddiadau

Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam

November 6, 2026
Wrecswyl Logo
Pobl a lleDigwyddiadau

Gwyl ddiwylliannol Gymreig newydd, WRECSWYL, yn dod i Wrecsam ddydd Sadwrn yma!

November 6, 2026
Library
Y cyngorPobl a lle

Llyfrgelloedd Cymru yn barod i helpu benthycwyr i fwynhau dyddiau mwy disglair y gaeaf hwn

November 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English