Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wythnos Hinsawdd Cymru 2022 – mae newid hinsawdd yn effeithio ar bawb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Wythnos Hinsawdd Cymru 2022 – mae newid hinsawdd yn effeithio ar bawb
Arall

Wythnos Hinsawdd Cymru 2022 – mae newid hinsawdd yn effeithio ar bawb

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 17, 2022 12:29 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Wales Cl
RHANNU

Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn cael ei gynnal yn ystod wythnos 21-25 Tachwedd ac mae’n cynnig cyfle i ni gynnal sgwrs genedlaethol ar newid hinsawdd.

Cynnwys
    • “Ychwanegwch eich cefnogaeth”
  • Ydych chi wedi llenwi ein harolwg newid hinsawdd? Mae amser yn brin…
  • Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar agor

Mae’r wythnos yn archwilio’r gweithredoedd sydd eu hangen er mwyn lleihau allyriadau carbon a chreu mwy o wytnwch i effeithiau newid hinsawdd rydym ni eisoes yn eu profi ar draws Cymru.

Yn benodol, mae thema eleni yn canolbwyntio ar gyfraniad pwysig y gall y cyhoedd ei wneud i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Gallwch fynd i wefan Wythnos Hinsawdd Cymru i ddysgu mwy, a gallwch hefyd ddilyn #WythnosHinsawddCymru2022 i gael y newyddion diweddaraf yn ystod yr wythnos.

“Ychwanegwch eich cefnogaeth”

Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd: “Nid problem at y dyfodol yw newid hinsawdd, mae hi’n broblem argyfyngus sydd angen sylw yn gyflym. Gall fod yn hawdd meddwl ‘Dwi’n gwneud digon yn barod’, neu mai rhywun arall sy’n gyfrifol am hynny, ond mae hi’n amlwg y bydd angen ymdrech enfawr gan bawb ohonom, felly ychwanegwch eich cefnogaeth i’r ymgyrch os gwelwch yn dda. Yng Nghyngor Wrecsam, rydym ni’n parhau i wneud cynnydd da gyda’n Cynllun Datgarboneiddio, tra’n bod ni’n gweithio tuag at gyflawni carbon sero erbyn 2030.”

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Ydych chi wedi llenwi ein harolwg newid hinsawdd? Mae amser yn brin…

Does dim llawer o amser ar ôl i chi lenwi ein harolwg newid hinsawdd a datgarboneiddio!

Fe fydd yr arolwg ar agor tan 30 Tachwedd a dim ond tua 5-10 munud sydd ei angen i’w lenwi, ac mae yna wobrau arbedion ynni gwych ar gael.

Bydd pobl sy’n llenwi’r arolwg ac yn gadael eu cyfeiriad e-bost yn cael eu cynnwys mewn cystadleuaeth gyda chyfle i ennill un o’r canlynol:

• talebau beic
• popty araf
• ffrïwr aer
• teclyn gwefru solar ar gyfer ffôn symudol
• tocyn blynyddol i Xplore!

Rydym ni’n gofyn i gynifer o breswylwyr â phosibl gymryd rhan, felly rhannwch gyda’ch teulu a ffrindiau os gwelwch yn dda.

LLENWI’R AROLWG

Mae ein harolwg newid hinsawdd ar agor, ac mae ‘na wobrau gwych i’w hennill hefyd!

Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar agor

Mae gan Lywodraeth Cymru ymgynghoriad agored yn gofyn am eich barn ar ei strategaeth ddrafft i ymgysylltu gyda’r cyhoedd i weithredu dros newid hinsawdd.

Os hoffech chi gymryd rhan, bydd angen i chi ymateb cyn iddo gau ar 14 Rhagfyr.

Efallai y bydd angen i chi gyfeirio at ddogfennau’r ymgynghoriad wrth i chi ateb y cwestiynau (mae’r rhain ar gael i’w lawrlwytho ar wefan Llywodraeth Cymru).

Nid oes rhaid i chi ateb pob cwestiwn os nad ydych yn dymuno gwneud hynny, a gallwch arbed y ffurflen a’i llenwi yn nes ymlaen drwy ddarparu cyfeiriad e-bost.

YMATEB I’R YMGYNGHORIAD

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Archebwch yn hawdd ar-lein Ydych chi angen bocs ailgylchu newydd? Mae archebu un yn hawdd
Erthygl nesaf Rhythm Train Rhythm Train: Parti Nadolig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English