Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Pobl a lle

Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen

Diweddarwyd diwethaf: October 27, 2026 10:22 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
RHANNU

Mae trigolion ledled Wrecsam yn cael eu hannog i barhau i fod yn wyliadwrus am fasnachwyr twyllodrus a allai geisio camfanteisio ar berchnogion tai yn dilyn y tywydd garw diweddar yn gysylltiedig â Storm Austen.

Mae Safonau Masnach Wrecsam yn rhybuddio trigolion y gallai unigolion diegwyddor dargedu cartrefi, yn enwedig y rhai lle gallai toeau, gwteri, simneiau neu rannau eraill o eiddo fod wedi cael eu heffeithio gan y storm. Mae masnachwyr twyllodrus yn aml yn galw heibio i gartrefi‘n ddiwahoddiad gan honni eu bod wedi sylwi ar ddifrod a gallant roi pwysau ar berchnogion tai i gytuno i wneud gwaith atgyweirio ar unwaith sy’n ddiangen, o ansawdd gwael, neu wedi’u gorbrisio.

Mae’r masnachwyr hyn yn aml yn defnyddio tactegau gwerthu pwysau uchel, gan awgrymu bod angen camau brys i atal difrod pellach. Mewn rhai achosion, efallai y bydd deiliaid tai yn cael gwybod bod to yn anniogel neu fod yn rhaid gwneud gwaith atgyweirio ar unwaith. Dylai trigolion fod yn ymwybodol y bydd contractwyr cyfreithlon yn deall yr angen i gwsmeriaid geisio cyngor annibynnol ac ni fyddant yn pwyso arnynt i wneud penderfyniadau yn y fan a’r lle.

Cyngor allweddol i ddefnyddwyr:

  • Byddwch yn ofalus o unrhyw un sy’n galw heibio i’ch drws yn ddiwahoddiad gan gynnig gwaith toi neu adeiladu.
  • Peidiwch â theimlo dan bwysau i gytuno i waith yn syth.
  • Ceisiwch o leiaf ddau neu dri dyfynbris gan fasnachwyr ag enw da cyn gwneud penderfyniad.
  • Gofynnwch am eirdaon a gwiriwch adolygiadau ar-lein lle bo hynny’n bosibl.
  • Peidiwch byth â throsglwyddo symiau mawr o arian ymlaen llaw.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael dyfynbrisiau ysgrifenedig a manylion unrhyw waith arfaethedig.

Cymerwch amser i ystyried eich opsiynau a thrafodwch unrhyw bryderon gyda’ch teulu, ffrindiau, neu gynghorwyr dibynadwy.

Cysylltwch â’ch yswiriwr cyn comisiynu gwaith atgyweirio os oes amheuaeth o ddifrod yn dilyn storm.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, yr Aelod Arweiniol dros Gynllunio Strategol a Diogelu’r Cyhoedd:

“Yn anffodus, mae cyfnodau ar ôl tywydd garw yn aml yn cyflwyno cyfleoedd i fasnachwyr twyllodrus fanteisio ar berchnogion tai pryderus. Bydden ni’n annog trigolion i beidio â rhuthro i wneud penderfyniadau ar stepen eu drws.

“Os bydd rhywun yn galw heibio’n ddiwahoddiad ac yn cynnig gwaith atgyweirio toeau neu’n honni bod angen gwaith ar frys, dylech chi gymryd cam yn ôl, ceisio cyngor annibynnol, a chael dyfynbrisiau gan fusnesau lleol ag enw da cyn cytuno i unrhyw beth.

Ni fydd masnachwyr cyfreithlon yn gwrthwynebu i chi gael ail farn.

“Os yw masnachwr yn rhoi pwysau arnoch chi i wneud penderfyniad ar unwaith, dylid trin hynny fel arwydd o rybudd.”

Dylid cymryd gofal arbennig gan drigolion hŷn neu agored i niwed a allai deimlo dan bwysau gan dactegau gwerthu parhaus. Anogir aelodau o’r teulu, ffrindiau a chymdogion i gadw llygad ar y rhai a allai fod mewn mwy o berygl o ddod yn ddioddefwyr troseddau stepen drws.

Dylai unrhyw un sydd â phryderon am fasnachwr neu sy’n credu eu bod wedi cael eu targedu gan fasnachwr twyllodrus roi gwybod am y mater i Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133, a fydd yn cyfeirio achosion priodol at Safonau Masnach.

Rhannu
Erthygl flaenorol Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029 Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Erthygl nesaf Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026  Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor of Wrexham's Engagements - October - Part 2
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref (Rhan 2)
Pobl a lle Arall
November 13, 2026
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Digwyddiadau Pobl a lle
November 12, 2026
van
Angen Crefftwyr Medrus – Ymunwch â Thîm Atgyweirio Tai Wrecsam!
Arall
November 12, 2026
Foster carers Del and Gary from Wrexham
Gofalwyr maeth Wrecsam yn cael eu cydnabod â gwobr genedlaethol am eu hymrwymiad diwyro i blant a phobl ifanc mewn gofal
Y cyngor Pobl a lle
November 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

telecare scam
Y cyngorPobl a lle

Mae negeseuon atgoffa’r Dreth Gyngor yn Wrecsam yn newid

November 12, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

October 22, 2026
Chirk Aqueduct
Pobl a lleDigwyddiadau

Dathlu pen-blwydd Traphont Ddŵr y Waun yn 225 oed mewn modd ysblennydd yng Nghastell y Waun

November 10, 2026
Remembrance Sunday - image shows the cenotaph at Bodhyfryd in Wrexham
Pobl a lle

Wrecsam yn Cofio – Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio 2026

November 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English