Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 28, 2026 9:29 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
RHANNU

Mae Wrecsam yn dathlu ar ôl ennill Aur a chael ei choroni’n enillydd y Categori Dinas Fach a Dinas yn Rowndiau Terfynol mawreddog RHS Prydain yn ei Blodau 2026.

Cyhoeddwyd y canlyniadau mewn seremoni wobrwyo yn Rochdale ar 20 Hydref, gan gydnabod gwaith caled ac ymroddiad timau Cyngor Wrecsam, sefydliadau cymunedol a gwirfoddolwyr sy’n helpu i wneud Wrecsam yn lle gwyrddach, glanach a mwy croesawgar.

Mae’r cyflawniad yn dilyn llwyddiant diweddar Wrecsam yng Nghymru yn ei Blodau, lle sicrhaodd y fwrdeistref sirol Aur yn y categori Dinas hefyd. 

Yn ystod eu hymweliad ym mis Awst, bu beirniaid Prydain yn ei Blodau ar daith o amgylch nifer o leoliadau ar draws y fwrdeistref sirol, gan arddangos yr ystod eang o brosiectau garddwriaethol, amgylcheddol a chymunedol sy’n digwydd ledled Wrecsam. 

Roedd eu llwybr yn cynnwys Parc Gwledig Tŷ Mawr, Perllan Pen-y-cae, Meithrinfa Pentrebychan a Gardd Furiog Erlas, cyn ymweld â chanol y ddinas i weld ei arddangosfeydd blodau lliwgar. 

Ar hyd y ffordd, dysgodd y beirniaid am y rôl bwysig a chwaraeir gan wirfoddolwyr a hyfforddeion, yn ogystal â mentrau amgylcheddol gan gynnwys gwesty chwilod WRECSAM, systemau cynaeafu dŵr glaw, prosiectau ailgylchu a chompostio.  

Tynnodd yr ymweliad sylw hefyd at y gwaith sy’n digwydd drwy gydol y flwyddyn i wella mannau gwyrdd, annog bioamrywiaeth a chreu amgylchedd deniadol i drigolion ac ymwelwyr. 

Dywedodd Peter Barton-Price, Cadeirydd Cymru yn ei Blodau, “Mae’n bleser enfawr gen i, ar ran Cymru yn ei Blodau, i longyfarch Wrecsam yn ei Blodau ar gael ei henwi’n Enillydd Categori Dinas y DU 2026 gyda gwobr Aur.

Mae hwn yn gyflawniad gwirioneddol ragorol ac yn un sy’n adlewyrchu’r dull gweledigaethol, cydweithredol gan y Swyddogion, yr Aelodau Etholedig a’r gwirfoddolwyr sydd i gyd yn gweithio’n ddiflino i wneud Wrecsam yn lle gwyrddach, glanach a mwy croesawgar i bawb.

Mae ennill categori Dinas Prydain yn ei Blodau y DU 2026 yn gyflawniad rhyfeddol ac yn gydnabyddiaeth o’r safonau eithriadol y mae Wrecsam yn parhau i’w cyflawni. Dylen nhw i gyd fod yn hynod falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni gyda’i gilydd.

Rydyn ni’n dathlu’r llwyddiant hwn gyda nhw, maen nhw’n cynrychioli’r gorau o Gymru ac edrychwn ymlaen at weld Wrecsam yn parhau i ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.”

Cafwyd llwyddiant pellach i Casglwyr Sbwriel Wrecsam, gyda dau wirfoddolwr yn derbyn Gwobr Hyrwyddwr Cymunedol yr RHS.

Mae’r gwobrau unigol yn cydnabod eu cyfraniadau eithriadol ac yn adlewyrchu ymroddiad ehangach gwirfoddolwyr Casglwyr Sbwriel Wrecsam, sy’n rhoi eu hamser yn rheolaidd i helpu i gadw cymunedau’n lân a chroesawgar. 

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth, “mae ennill aur a chael ein henwi fel enillydd cateogri Dinas a Dinas Fach ym Mhrydain yn ei Blodau yn gyflawniad gwych i Wrecsam ac yn rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn hynod falch ohono. 

Mae’r gydnabyddiaeth genedlaethol hon yn tynnu sylw at y balchder yr ydym yn ei gymryd yn ein bwrdeistref sirol a’r ymdrech aruthrol sy’n mynd i wneud Wrecsam yn lle deniadol a chroesawgar i drigolion ac ymwelwyr. 

Mae’n braf iawn gweld ein gwirfoddolwyr cymunedol yn cael eu cydnabod ochr yn ochr â’r llwyddiant hwn, a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi chwarae rhan mewn cyflawni canlyniad rhagorol.”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, “Mae’r wobr hon yn adlewyrchiad o’r gwaith caled a’r ymroddiad a ddangoswyd gan dimau ein cyngor, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr drwy gydol y flwyddyn. 

Mae Prydain yn ei Blodau yn ymwneud â llawer mwy nag arddangosfeydd blodau. Mae’n cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud i ddiogelu ein hamgylchedd, annog bioamrywiaeth a gwella’r mannau gwyrdd y mae ein cymunedau yn eu mwynhau. 

O’n prosiectau amgylcheddol i ymdrechion gwych Casglwyr Sbwriel Wrecsam, mae pawb sy’n cymryd rhan wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn, a hoffwn ddiolch iddynt am eu hymrwymiad parhaus. 

Mae’r cyflawniad diweddaraf yn ychwanegu at lwyddiant cynyddol Wrecsam mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol, gan gydnabod ymdrechion ar y cyd y rhai sy’n gweithio i wella amgylchedd y fwrdeistref sirol i bawb. 

Rhannu
Erthygl flaenorol Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Pobl a lle
Hydref 27, 2026
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 27, 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wo
Pobl a lleArallDatgarboneiddio Wrecsam

Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid

Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English