Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen CYHOEDDI SWYDDOGION EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM 2025
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > CYHOEDDI SWYDDOGION EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM 2025
Pobl a lle

CYHOEDDI SWYDDOGION EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM 2025

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 20, 2023 10:12 am
Rhannu
Darllen 3 funud
CYHOEDDI SWYDDOGION EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM 2025
2023 08 04 Eisteddfod 2023 Llŷn ac Eifionydd Credit: Eisteddfod Genedlaethol Cymru
RHANNU

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld ag ardal Wrecsam yn 2025, mae trefnwyr y Brifwyl wedi cyhoeddi enwau’r swyddogion a fydd yn llywio’r gwaith dros y flwyddyn a hanner nesaf.

Mae’r gwaith o greu’r pwyllgorau testun a’r pwyllgorau lleol eisoes wedi cychwyn, a’r cyfarfodydd i gytuno ar gystadlaethau a beirniaid yn mynd rhagddynt, er mwyn sicrhau fod y Rhestr Testunau’n barod erbyn y gwanwyn.  Bu’r rheini sydd wedi gwirfoddoli i ymuno â’r pwyllgorau lleol yn pleidleisio er mwyn ethol swyddogion y Pwyllgor Gwaith dros yr wythnosau diwethaf.

CYHOEDDI SWYDDOGION EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM 2025

Llinos Roberts sydd wedi’i hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith.  Yn wreiddiol o’r ardal, mae hi wedi byw a gweithio yn y sir fwy neu lai ar hyd ei hoes, ac yn Bennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a’r Gymraeg yng Ngholeg Cambria.  Gyda dealltwriaeth gref o’r ardal a’i phobl, mae’n awyddus i’r Eisteddfod adlewyrchu’r brwdfrydedd a’r frwydr barhaus i gadw’r Gymraeg yn fyw mor agos at y ffin.

CYHOEDDI SWYDDOGION EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM 2025

Chris Evans yw Cadeirydd y Gronfa Leol.  Fel Llinos, mae Chris yn dod o Wrecsam, ac yn dysgu yn Ysgol Morgan Llwyd ers blynyddoedd.  Mae’n Gadeirydd Saith Seren, a bu ynghlwm â phapur bro Y Clawdd am flynyddoedd lawer.

CYHOEDDI SWYDDOGION EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM 2025

Wyneb arall lleol sydd wedi’i hethol yn Is-gadeirydd Strategol Eisteddfod 2025.  Mae Jane Angharad Edwards yn swyddog gyda Chomisiynydd y Gymraeg wrth ei gwaith, ac fe fydd hi’n arwain ar yr elfen gymunedol, codi ymwybyddiaeth a sicrhau gwaddol yn yr ardal ar ddiwedd y prosiect.

CYHOEDDI SWYDDOGION EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM 2025

Mae Elen Mai Nefydd yn gweithio ym Mhrifysgol Wrecsam ers blynyddoedd, ac yn Bennaeth Datblygiad Academaidd y Gymraeg y Brifysgol ar hyn o bryd.  Gyda chefndir ym maes theatr a chelfyddydau perfformio, Elen Mai yw Is-gadeirydd Diwylliannol Eisteddfod 2025, a hi fydd yn arwain ar elfennau artistig y prosiect.

CYHOEDDI SWYDDOGION EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM 2025

Yn Wrecsam mae gwreiddiau Shoned Mererid Davies, sydd wedi’i hethol yn Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith hefyd. Yn gyn-reolwr Siop y Siswrn yn Wrecsam a’r Wyddgrug, mae Shoned yn gweithio fel Swyddog Addysg yng Nghyngor Llyfrau Cymru ers dros ugain mlynedd. 

Wrth groesawu’r tîm, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at gydweithio gyda Llinos a’r tîm dros y cyfnod nesaf wrth i ni baratoi am Eisteddfod 2025. 

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i ardal Wrecsam. Er i ni ymweld â’r ardal yn lled-ddiweddar yn 2011, mae’r Eisteddfod wedi datblygu ac esblygu llawer yn ystod y cyfnod, yn union fel Wrecsam.  Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i fod yn cynnal yr ŵyl yn yr ardal, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’r gymuned ar bob lefel dros y flwyddyn a hanner nesaf.

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr ardal o 2-9 Awst 2025. 

Rhannu
Erthygl flaenorol Support work jobs homecare reablement Gofalwyr di-dâl – sicrhau eich bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael i chi
Erthygl nesaf Digwyddiad troi goleuadau Nadolig Wrecsam ymlaen 2023 Digwyddiad troi goleuadau Nadolig Wrecsam ymlaen 2023

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Elevate Conference
Cynhadledd Am Ddim Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam yn Dychwelyd 6 Tachwedd
Digwyddiadau
Medi 30, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam

Medi 29, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English