Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Diweddarwyd diwethaf: Medi 29, 2026 9:49 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
RHANNU

Trwy gydol y flwyddyn, mae dathliadau ar gyfer Blwyddyn o Ryfeddod 1876 wedi bod yn digwydd o amgylch y ddinas. Mae yna lawer mwy i gymryd rhan ynddo cyn i’r flwyddyn ddod i ben.

Cynnwys
  • Ysbrydoli Systemau
  • Beth am gystadleuaeth?
  • Sut i gymryd rhan

Mae ein timau llyfrgell ledled Wrecsam yn lansio cystadleuaeth newydd i barhau â’r dathliadau. I wneud hyn, bydd angen help arnynt gan ein egin artistiaid lleol.

Mae’r gystadleuaeth yn lansio ddydd Iau, Hydref 1. Rydym yn annog plant i gymryd rhan a rhannu eu syniadau am greu cymeriadau.

Ysbrydoli Systemau

Wyddoch chi fod Melville Dewey wedi creu system Dosbarthiad Degol Dewey (DDC) yn 1876? 

Mae’r DDC yn ddull rhifiadol a ddefnyddir gan lyfrgelloedd i drefnu llyfrau yn ôl eu pynciau penodol ac fe’i defnyddir mewn miloedd o lyfrgelloedd ledled y byd. 

Beth am gystadleuaeth?

I ddathlu 150 mlynedd o’r DDC, bydd llyfrgelloedd Wrecsam yn lansio cystadleuaeth gelf i blant ddylunio masgot i gynrychioli’r DDC. 

Gallai eich cymeriad fod yn anifail, robot, archarwr, creadur hudol neu unrhyw beth rydych chi am iddo fod. 

Os gallwch chi greu’r cymeriad gorau, gallech weld eich syniad yn dod yn fyw gan y bydd y dyluniad buddugol yn cael ei ddefnyddio yn ein llyfrgelloedd ledled Wrecsam.

Rwan ydi’ch cyfle i gael eich gwaith wedi’i weld gan y nifer di-ri o bobl sy’n ymweld â’u llyfrgell leol wythnos ar ôl wythnos.

Sut i gymryd rhan

Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i blant rhwng 5 a 12 oed. Mae’r gystadleuaeth yn agor ar Hydref 1 ac yn cau ar Hydref 31.

Bydd yr enillwyr lwcus yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2026.

Y tri cham hawdd i gymryd rhan ydi:

  • Casglwch eich ffurflen gais o’ch llyfrgell leol
  • Arluniwch eich cymeriad â llaw
  • Dychwelwch y ffurflen wedi’i chwblhau yn ôl i’r llyfrgell

Rhaid i’r ceisiadau fod yn waith celf gwreiddiol wedi’i dynnu â llaw ar y ffurflen gais swyddogol. Rhaid llenwi enw, oedran, manylion cyswllt a rhif cerdyn llyfrgell ar gefn y llun. Mae ceisiadau cystadleuaeth wedi’u cyfyngu i un fesul plentyn.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’ch llyfrgell leol. Gallwch ffonio 01978 292090 neu e-bostio library@wrexham.gov.uk am ragor o fanylion.

Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Rhannu
Erthygl flaenorol Rhiannon Roberts yn torri'r rhuban ar gae 3G diweddaraf Wrecsam Rhiannon Roberts yn torri’r rhuban ar gae 3G diweddaraf Wrecsam
Erthygl nesaf Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English