Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen ‘Pobl a Sgiliau’ Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU am ail agor i geisiadau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > ‘Pobl a Sgiliau’ Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU am ail agor i geisiadau
Busnes ac addysgPobl a lle

‘Pobl a Sgiliau’ Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU am ail agor i geisiadau

Diweddarwyd diwethaf: July 31, 2024 1:37 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Thank you
RHANNU

Cyllid ar gael ar gyfer prosiectau i’w cynnal ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Bydd 1af Awst 2024 yn gweld cynllun Cronfa Ffyniant Cyffredinol yn ailagor ar gyfer ceisiadau mynegi diddordeb.

Gall y gronfa hon helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol. Mae’r cynllun yn cynnig rhwng £2,000 a  £125,000 o gyllid i gefnogi prosiectau a fydd yn:  

  • Rhoi hwb i sgiliau craidd a chefnogi oedolion i ddatblygu yn eu gwaith, trwy dargedu oedolion sydd heb unrhyw gymwysterau neu sgiliau neu rai lefel isel mewn mathemateg, ac uwchsgilio’r boblogaeth weithio, drwy annog dulliau arloesol i leihau rhwystrau dysgu i oedolion.  
  • Gostwng lefelau o anweithgarwch economaidd trwy fuddsoddiad mewn cefnogaeth bywyd a chyflogaeth ddwys bwrpasol wedi ei theilwra i angen lleol.
  • Llenwi bylchau mewn darpariaeth sgiliau lleol i gefnogi pobl i symud ymlaen mewn gwaith, ac ychwanegu at ddarpariaeth sgiliau TG oedolion lleol (er enghraifft trwy gynnig darpariaeth trwy ystod eang o ffyrdd neu alluogi darpariaeth fwy dwys/arloesol, yn seiliedig ar gymhwyster ac nad yw’n seiliedig ar gymhwyster.)

Dylai’r prosiectau fod yn ychwanegol at y ddarpariaeth sydd ar gael drwy raglenni cyflogaeth a sgiliau cenedlaethol.  

Pwy all wneud cais?

  • sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol sefydledig
  • elusennau cofrestredig
  • grwpiau neu glybiau sefydledig
  • cwmnïau nid er elw neu gwmnïau buddiannau cymunedol (mentrau cymdeithasol)
  • ysgolion (cyn belled bod eich prosiect er budd ac yn cynnwys y gymuned leol)
  • cyrff statudol (gan gynnwys cynghorau tref, plwyf a chymuned)
  • cyrff cyhoeddus

Ar beth fyddwch yn gwario’r arian?

  • offer
  • digwyddiadau untro
  • costau staff sy’n gysylltiedig â’r prosiect
  • costau hyfforddi
  • cludiant sy’n gysylltiedig â’r prosiect  
  • costau cynnal neu gyfleustodau sy’n gysylltiedig â’r prosiect  
  • treuliau gwirfoddolwyr
  • costau ar gyfer darparu eich prosiect yn ddwyieithog megis costau cyfieithu
  • prosiectau tir neu adeiladau bach
  • ailwampio adeiladau

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam ac Aelod Arweiniol Cyllid: “Mae hyn yn newyddion gwych ac rydym eisiau i fusnesau, grwpiau a sefydliadau lleol gymryd mantais lawn ohono.

“Os oes gennych brosiect a allai fod o fudd i Wrecsam a’ch cymuned, edrychwch ar y meini prawf ac ystyriwch gyflwyno cais.

“Rydym eisiau i’r arian hwn weithio’n galed i Wrecsam, ac felly rydym angen clywed gan bobl sydd â syniadau da a all wir wneud gwahaniaeth.”

Am fwy o wybodaeth, ac i ddarganfod sut i ymgeisio, plîs e-bostiwch spfkeyfundgrants@wrexham.gov.uk

Fedrwch hefyd ddarganfod mwy ar ein gwefan Cronfeydd Ffyniant Gyffredin y DU | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Rhannu
Erthygl flaenorol ‘Amgueddfa Dau Hanner’ newydd Wrecsam i dderbyn cyllid mawr gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ‘Amgueddfa Dau Hanner’ newydd Wrecsam i dderbyn cyllid mawr gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Erthygl nesaf Housing Byddwch wyliadwrus rhag Sgamiau Rhent – Beth i wylio amdano a sut i’w hosgoi

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Remembrance Sunday - image shows the cenotaph at Bodhyfryd in Wrexham
Wrecsam yn Cofio – Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio 2026
Pobl a lle
November 5, 2026
Walking
Ewch yn Lleol ym mis Tachwedd
Pobl a lle Arall
November 5, 2026
Maes Parcio
🚗🚌 Wrecsam v Wolves – beth am Barcio a Theithio? ⚽
Pobl a lle Digwyddiadau
November 5, 2026
Noson tân gwyllt – syniadau cyn cynnau
Noson tân gwyllt – syniadau cyn cynnau
Y cyngor
November 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

bys deulawr
Busnes ac addysgArall

Gwelliannau arfaethedig i deithio ar fysus ar gyfer ardaloedd cyflogaeth allweddol

November 3, 2026
Vote
Pobl a lleBusnes ac addysg

Mewn dau le ar yr un pryd…

November 2, 2026
Armed Forces
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd… 3 Rhagfyr 🎄

October 28, 2026
Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 

October 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English