Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Disgyblion Wrecsam yn cymryd cam ymlaen ar gyfer ‘WOW – yr her cerdded i’r ysgol’
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Disgyblion Wrecsam yn cymryd cam ymlaen ar gyfer ‘WOW – yr her cerdded i’r ysgol’
Busnes ac addysg

Disgyblion Wrecsam yn cymryd cam ymlaen ar gyfer ‘WOW – yr her cerdded i’r ysgol’

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 18, 2024 9:59 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Disgyblion Wrecsam yn cymryd cam ymlaen ar gyfer ‘WOW - yr her cerdded i’r ysgol’
RHANNU

Mae disgyblion yn Wrecsam yn dechrau’r diwrnod yn y ffordd iawn gyda WOW – her cerdded i’r ysgol Living Streets.

Yng Nghymru, mae miloedd o blant yn mwynhau’r buddion o gerdded, beicio neu fynd ar olwynion i’r ysgol diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.  Fel rhan o brosiect dwy flynedd, mae Living Streets Cymru’n gweithio gyda 170 o ysgolion cynradd a 42 o ysgolion uwchradd i ddarparu ei raglen cerdded i’r ysgol yng Nghymru. 

Mae wyth ysgol yn Wrecsam yn cymryd rhan yn WOW – her cerdded i’r ysgol Living Streets lle mae disgyblion yn cofnodi sut maent yn mynd i’r ysgol gan ddefnyddio Traciwr Teithio rhyngweithiol WOW a bydd y rhai sy’n cerdded, seiclo, mynd ar olwynion, sgwter neu’n ‘parcio a cherdded’ i’r ysgol yn derbyn bathodyn WOW misol.

Dim ond 50% o blant ysgol gynradd yng Nghymru sy’n cerdded i’r ysgol ac mae Living Streets yn gweithio i helpu rhagor o deuluoedd i ddewis ffyrdd glanach ac iachach o deithio.  Mae ysgolion WOW fel arfer yn gweld cynnydd yn y cyfraddau cerdded o 43% (lle mae disgyblion yn cerdded, seiclo, mynd ar olwynion, sgwter neu’n ‘parcio a cherdded’ i’r ysgol) a gostyngiad o 59% yn y ceir sy’n gyrru i giatiau’r ysgol.

Mae mis Hydref yn Fis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol a bydd disgyblion o amgylch y byd yn mwynhau cerdded neu fynd ar olwynion i’r ysgol. Eleni, mae Living Streets yn annog plant i fynd ar Saffari Stryd yr Hydref gan dreulio ychydig funudau yn cerdded i’r ysgol i  gasglu eitemau arbennig a dathlu’r hydref gyda gweithgareddau hwyliog, sydd hefyd ar gael yn Gymraeg.

Meddai Catherine Woodhead, Prif Weithredwr Living Steets:“Mae cerdded neu fynd ar olwynion i’r ysgol yn ffordd hwyliog a syml i blant gwblhau 60 munud o weithgarwch corfforol y dydd yn unol ag argymhellion arbenigwyr iechyd.  Mae’n wych ar gyfer lles meddyliol ac yn helpu i leihau tagfeydd, allyriadau carbon a llygredd aer. 

“Rwy’n falch iawn fod disgyblion yn Wrecsam yn mwynhau’r buddion o gerdded i’r ysgol gyda WOW.”

Rhwng 1 Medi, 2023 a 31 Gorffennaf, 2024 mae’r wyth ysgol yn Wrecsam wedi gweld y cyfartaledd canlynol:

  • Cynnydd o 68% mewn cyfraddau teithio llesol i’r ysgol.
  • Lleihad o 74% mewn gyrru’r holl ffordd i’r ysgol.

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr yr Hinsawdd: “Mae’n galonogol iawn gweld ffigurau mor gadarnhaol. Mae teithio llesol yn arwain at well iechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol, hefyd mae’n lleihau llygredd sŵn, llygredd aer ac allyriadau carbon. Mae mwy o bobl yn croesawu teithio llesol a fydd yn gwneud gwahaniaeth yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.”

Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg yng Nghyngor Wrecsam: “Rydym yn falch iawn â’r ffordd y mae’r wyth ysgol wedi croesawu’r her, sydd wedi arwain at ganlyniadau gwych.  Dylai’r plant, athrawon, rhieni a gofalwyr fod yn falch iawn o’u cyflawniadau.”

Pobl ifanc yn gwerthu teisennau i gefnogi elusen sy’n atal hunanladdiad ymysg dynion – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

TAGGED:active travelSchoolteithio llesolysgol
Rhannu
Erthygl flaenorol Helpu’r gymuned i dyfu Helpu’r gymuned i dyfu
Erthygl nesaf Carla ac Alex ein llwybr i ddod yn ofalwyr maeth Ein llwybr i ddod yn ofalwyr maeth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
All Saints School Pupils
Busnes ac addysgPobl a lle

Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!

Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam

Hydref 6, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English