Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Datblygu arloesi ffresni bwyd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg

Datblygu arloesi ffresni bwyd

Diweddarwyd diwethaf: October 20, 2026 12:05 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Datblygu arloesi ffresni bwyd
RHANNU

Mae cefnogaeth Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint wedi galluogi i gwmni arall o Wrecsam gymryd y camau sydd eu hangen arno i sicrhau ei ddyfodol.

Mae’r busnes arobryn Mimica, sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, yn ceisio lleihau gwastraff bwyd diangen.  Mae ‘Bump’, eu technoleg ffresni patent, yn ymateb i amodau storio go iawn ac yn rhoi signal clir pan fydd bwyd neu ddiod wedi difetha, gan yrru gostyngiad mewn gwastraff bwyd a chynyddu gwerthiannau.

Gan adeiladu ar waith llwyddiannus gyda chwaraewyr mawr y diwydiant ar draws llaeth, sudd, cig a physgod, eu ffocws ar gyfer 2026 yw datblygu’r busnes ymhellach, gan fynd â Bump o gysyniad profedig i system a ddefnyddir ar draws y diwydiant bwyd.

Mae diddordeb yn Bump yn tyfu’n gyflym gyda mwy na 300 o gwmnïau bwyd eisoes ar eu rhestr aros.

Wrth i Mimica dyfu, maen nhw’n buddsoddi yn eu pobl gymaint â’u llinellau cynhyrchu.  Maent yn bwriadu ehangu eu labordy ar y safle i fod yn ganolfan ragoriaeth, gan ddod â gwyddonwyr bwyd, dylunwyr a pheirianwyr ynghyd i weithio ochr yn ochr, gan adeiladu ar y diwylliant sy’n canolbwyntio ar bobl sydd wedi bod yn ysgogiad y tu ôl i lwyddiant Mimica hyd yn hyn.  Y cyfuniad hwn o wyddoniaeth, gweithgynhyrchu a phwrpas fydd yn dod â nhw’n agosach at eu gweledigaeth: dod yn nod ffresni byd-eang.

Dywed Lawrie Matthews, prif swyddog technoleg ac ariannol Mimica:  “Mae ein safle cynhyrchu yng Nghanolfan Fusnes y Bryn wrth wraidd ein cynlluniau twf, a gefnogir gan gyllid gan Barth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.  Rydyn ni’n buddsoddi yn yr offer sy’n troi gwaith ymchwil a datblygu yn allbwn go iawn, a’r awtomeiddio i’w redeg ar raddfa, gan greu swyddi gweithgynhyrchu medrus ac ymchwil a datblygu yng Ngogledd Cymru ar hyd y ffordd.  Rydym yn credu y dylai Cymru fod yn lle sy’n gwneud pethau, ac nid eu gwasanaethu’n unig, ac rydym yn falch o gefnogi’r uchelgais honno tra’n gwerthfawrogi ein hadnoddau.”

Cefnogwyd y prosiect gan barth buddsoddi a thîm busnes a buddsoddi Cyngor Wrecsam, a weithiodd yn agos gyda’r cwmni i gael gafael ar gyllid drwy Grant Gweithgynhyrchu BBaCh y Rhaglen Parth Buddsoddi.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, aelod arweiniol dros yr economi, busnes a thwristiaeth yng Nghyngor Wrecsam: “Roedd fy ymweliad â Mimica yn ddiddorol iawn ac roedd yn wych gweld busnes o Wrecsam yn arwain ar fater mor bwysig â lleihau gwastraff bwyd.  Dyma enghraifft o gwmni arall o Wrecsam yn manteisio ar Grant Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint i sicrhau eu hyfywedd yn y dyfodol ac i fuddsoddi yn eu staff hollbwysig. Edrychaf ymlaen at weld Bump yn dod i’r farchnad.”

bump tag

Mae Rhaglen Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint yn cefnogi busnesau i fuddsoddi, tyfu ac arloesi, gan helpu i greu swyddi, rhoi hwb i gynhyrchiant a chryfhau’r sector gweithgynhyrchu datblygedig ledled y rhanbarth.

Rhannu
Erthygl flaenorol Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Erthygl nesaf Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam
Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam
Pobl a lle Digwyddiadau
November 6, 2026
Wrecswyl Logo
Gwyl ddiwylliannol Gymreig newydd, WRECSWYL, yn dod i Wrecsam ddydd Sadwrn yma!
Pobl a lle Digwyddiadau
November 6, 2026
Library
Llyfrgelloedd Cymru yn barod i helpu benthycwyr i fwynhau dyddiau mwy disglair y gaeaf hwn
Y cyngor Pobl a lle
November 5, 2026
Remembrance Sunday - image shows the cenotaph at Bodhyfryd in Wrexham
Wrecsam yn Cofio – Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio 2026
Pobl a lle
November 5, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Busnes ac addysg

Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau

October 13, 2026
bys deulawr
Busnes ac addysgArall

Gwelliannau arfaethedig i deithio ar fysus ar gyfer ardaloedd cyflogaeth allweddol

November 3, 2026
Vote
Pobl a lleBusnes ac addysg

Mewn dau le ar yr un pryd…

November 2, 2026
All Saints School fundraising activities
Pobl a lleBusnes ac addysg

Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da

October 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English