Bob blwyddyn, mae Cyngor ar Bopeth yn cynnal eu hymgyrch Ymwybyddiaeth Sgamiau, sy’n anelu at greu rhwydwaith o ddefnyddwyr hyderus, gwyliadwrus sy’n gwybod beth i’w wneud pan fyddant yn sylwi ar sgam.
Cynhelir ymgyrch Ymwybyddiaeth Sgamiau 2026 rhwng 12 Hydref a 25 Hydref 2026, gyda ffocws ar gefnogi defnyddwyr ynghylch sgamiau masnachwyr.
Mae Ymwybyddiaeth Sgamiau yn ymgyrch flynyddol sy’n anelu at:
- Rhoi sgiliau i bobl adnabod sgamiau
- Annog pobl i rannu eu profiadau
- Helpu pobl i fagu hyder i roi gwybod am sgamiau
Gyda mwy a mwy o adroddiadau o sgamiau toeau mewn perthynas â’r thema ehangach o sgamiau masnachwyr, mae Cyngor ar Bopeth yn gofyn i bobl fod yn arbennig o wyliadwrus ynghylch peryglon hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gynllunio Strategol ac Amddiffyn y Cyhoedd, “mae’n hanfodol bwysig bod cymaint o bobl â phosibl yn ymwybodol o beryglon sgamiau mewn byd sy’n newid yn barhaus yn hyn o beth.
“Dyna pam mae’n hanfodol bwysig bod pobl yn ymwybodol o’r arwyddion o sgamiau sy’n datblygu ac yn teimlo’n hyderus i adrodd amdanynt yn y ffordd gywir i amddiffyn eu hunain ac eraill rhag peryglon a chanlyniadau difrifol sgamiau yn ein cymunedau.”
Os ydych chi’n chwilio am gyngor a chymorth ar sgamiau, ewch i dudalennau cyngor sgamiau Cyngor ar Bopeth.


