Erthygl wadd gan WRAP Cymru
Mae tymor yr hydref wedi cyrraedd, gwyliau’r haf y tu cefn i ni, a phethau nôl i’w trefn arferol. Boed yn cael trefn ar fywyd gwaith neu fywyd teuluol, neu eich trefniadau astudio, mae’r hydref yn adeg ddelfrydol i ailosod arferion – yn enwedig yn y gegin.
Dyna pam mae Cyngor Wrecsam wedi mynd i bartneriaeth gyda Cymru’n Ailgylchu i ddangos sut y gall coginio’n ddoeth eich helpu i arbed amser ac arian, lleihau gwastraff, a’i gwneud hi’n haws nag erioed i fwynhau eich 5 y dydd… a helpu Cymru ar yr un pryd ar ei thaith i fod yn genedl ailgylchu orau’r byd.
Rydym eisoes yn falch o fod yn ail yn y gynghrair ailgylchu fyd-eang – ychydig y tu ôl i Awstria – ond gwastraff bwyd yw lle gallwn gael yr effaith fwyaf. Ar gyfartaledd, mae chwarter pob bin sbwriel yng Nghymru yn cynnwys gwastraff bwyd, a gallai dros 80% o hynny fod wedi cael ei fwyta. Mae’r bwyd gwastraffu hwnnw’n costio tua £84 bob mis. Dyna daflu arian (a phrydau bwyd) yn syth i’r bin!
Drwy fod yn fwy doeth gyda’ch prydau bwyd ac ailgylchu’r hyn na allwch ei fwyta, byddwch yn lleihau gwastraff, yn arbed arian, ac yn bwyta eich 5 y dydd yn hawdd – i gyd tra’n helpu Cymru i gyrraedd y brig. Ac rydyn ni’n mynd i ddangos mor syml y gall fod.
Coginio unwaith, gweini sawl gwaith: Paratoi. Addasu. Ailgylchu!
Gyda’r nosweithiau’n tywyllu ac amser yn aml yn brin, yr hydref yw’r tymor ar gyfer bwyd hawdd a di-ffwdan sy’n cynnig cysur. Mae’r syniad yn un syml: Paratoi. Addasu. Ailgylchu!
Coginiwch bryd sylfaen syml gyda chynhwysion bob dydd, yna ychwanegwch ambell beth arall ato i’w gadw’n ffres a blasus. Gweinwch ef mewn gwahanol ffyrdd yn ystod yr wythnos fel eich bod chi’n treulio llai o amser yn y gegin a mwy o amser yn mwynhau’ch prydau.
A chofiwch – dylai’r darnau na allwch eu bwyta, fel croen, coesau, esgyrn neu blisg, fynd yn syth i’ch cadi bwyd. Mae gwastraff bwyd yng Nghymru yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy. Gall un cadi yn unig bweru cartref nodweddiadol am awr! Dyma 3 rysáit hawdd i’ch rhoi ar ben y ffordd.
Stiw sbeshal – syml, hyblyg a llond eich bol
Gall unrhyw beth fynd i’r stiw hwn ac mae’n wych ar gyfer nosweithiau hydrefol pan fyddwch chi eisiau rhywbeth i’ch cynhesu heb ormod o ymdrech. Dechreuwch gyda sylfaen syml o winwns, garlleg, tomatos tun, stoc a’ch dewis o brotein – cig sydd gennych dros ben, ffa neu ffacbys. Yna ychwanegwch ba lysiau bynnag sydd wrth law a gadewch iddo fudferwi’n gymysgedd cyfoethog a chynhesol.
Mae’r pryd hwn yn wych oherwydd gall newid trwy gydol yr wythnos: mwynhewch ef yn gyntaf gyda bara ffres, wedyn gyda thatws stwnsh y noson ganlynol, ac ar ei ben ei hun gyda thoes ar ei ben i’w droi’n bastai yn nes ymlaen yn yr wythnos. A chofiwch, mae crwyn winwns, topiau moron, coesynnau pupur neu esgyrn yn mynd i’ch cadi bwyd i gael eu troi’n ynni gwyrdd.
Cyri o Bob Math – blas mawr, ymdrech fach
Dechreuwch trwy ffrio winwns, garlleg a sinsir, yna cymysgwch sbeisys neu bast cyri ynddo. Ychwanegwch eich dewis o brotein, boed hynny’n gyw iâr, ffacbys neu tofu, cyn arllwys tomatos tun neu laeth cnau coco. Ychwanegwch swmp gyda phethau tymhorol – mae pwmpen, pupur, madarch, sbigoglys neu ffa i gyd yn gweithio’n wych.
Ar ôl ei goginio, gallwch ei fwynhau gyda reis fel cinio clasurol, ei lapio mewn bara fflat fel cinio cyflym, neu ei arllwys dros daten bob pan fydd angen rhywbeth cyflym arnoch. Cofiwch ailgylchu’r hyn na allwch ei fwyta i bweru Cymru yn ei blaen i fod yn Rhif 1 yn y byd.
Crymbl Ffrwythau Iach – syml, hyblyg a chysurlon
Pan fo angen bach o gysur arnoch yn yr hydref, does dim yn well na chrymbl ffrwythau. Mae’n syml i’w baratoi a gallwch wneud llwyth o bethau gydag e. Cymysgwch geirch, blawd ac ychydig o fêl neu surop gyda menyn i greu crymbl euraidd, yna ei bobi dros ffrwythau tymhorol meddal fel afalau, gellyg, eirin neu fwyar duon, gyda ychydig o sinamon neu nytmeg i greu teimlad ychwanegol o gynhesrwydd.
Ar ôl ei bobi, gallwch ei fwynhau’n boeth o’r ffwrn gyda chwstard neu hufen iâ, ei weini’n oer gydag iogwrt ar gyfer brecwast iachus, neu hyd yn oed ei daenu dros fenyn cnau ar dost. O ran calonnau’r afalau, coesynnau’r gellyg a cherrig eirin – maen nhw i gyd yn mynd i’ch cadi bwyd, yn barod i’w hailgylchu fel ynni glân, gwyrdd.
Cymerwch yr Her Bwyd Doeth ac ennill gwobr flasus o Gymru
Ewch draw i Cymru’n Ailgylchu i gymryd yr Her Bwyd Doeth, gweld rhagor o ryseitiau da fydd yn arbed amser ac arian i chi, a chael cyfle i ennill gwobr flasus o Gymru.