Rydym yn parhau â’n gweithredoedd Cofio blynyddol gyda mwy o straeon am yr eneidiau dewr a frwydrodd dros ein rhyddid. Dyma rai o drigolion Wrecsam a fu’n aelodau o’r lluoedd arfog yn yr hen ddyddiau.
Mae gan wasanaethau amgueddfa ac archifau Wrecsam drysorfa o wybodaeth ac arteffactau o hanes ein dinas. Gadewch i ni edrych eto y tu ôl i’r llenni a chyfarfod â rhagor o bobl o Wrecsam yn ystod y Rhyfel.
Cwympo ar faes y gad
Realiti dinistriol pob gwrthdaro yw nifer y marwolaethau a’r anafiadau sy’n dod yn anffodus gyda rhyfel. Roedd llawer o ffrindiau ac aelodau teulu’r rhai a wasanaethodd wedi cael cyfnodau poenus yn aros i glywed a oedd eu hanwyliaid wedi goroesi.
Yn anffodus, derbyniodd Mr a Mrs F. Johnson o Riwabon y newyddion yr oedd pob rhiant yn ei ofni. Cyrhaeddodd yr hysbysiad swyddogol yn rhoi gwybod iddynt fod eu mab, Alfred Johnson, wedi cael ei ladd mewn brwydr ar Fedi 8, 1943, yn yr Eidal.
Roedd Alfred yn 23 oed pan fu farw. Roedd yn un o bum mab a oedd i gyd yn gwasanaethu yn y rhyfel. Lladdwyd ei frawd, Joseph, hefyd wrth ymladd yn Dunkerque.
Roedd Alfred yn gwasanaethu ym Malta ac wedi gwneud hynny am dair blynedd. Roedd wedi bod oddi cartref am dair blynedd a hanner, ac ar y pwynt hwnnw, daeth ar draws ei frawd iau, Harold, yn yr Aifft.
Derbyniodd mam arall, Mrs W. M. O’Malley, y newyddion trasig bod ei mab hithau, Patrick O’Malley, hefyd wedi cael ei ladd wrth wasanaethu.
Roedd y Gynnwr Patrick O’Malley yn arwyddwr 21 oed i’r Magnelwyr Ceffylau Brenhinol. Ar ôl cwblhau ei addysg yn yr Ysgol Genedlaethol yn Wrecsam, aeth Patrick ymlaen i ddysgu yng Ngholeg Technegol Sir Ddinbych.
Mae adroddiadau lleol yn dweud bod Patrick wedi aros yn y coleg nes iddo sicrhau swydd gyda Messrs W. Phillips & Co. ar y Stryd Fawr ac arhosodd yno am dair blynedd.
Roedd Patrick wedi bod yn aelod o’r côr bechgyn yn Eglwys Plwyf Gresffordd am flynyddoedd lawer cyn ymuno â’r côr yn Eglwys Sant Ioan yn Hightown. Yma y daeth yn un o brif aelodau’r côr bechgyn.
Ym mis Ionawr 1942, ymunodd O’Malley â Lluoedd EF. Aeth i hyfforddiant ar gyfer ei alwedigaeth newydd a nodwyd pa mor awyddus yr oedd i lwyddo. Ni chymerodd yn hir i Patrick basio ei arholiad a dod yn arwyddwr i’r lluoedd.
Sonnir yn yr erthygl newyddion leol a adroddodd am farwolaeth y Gynnwr O’Malley, ar ôl iddo lanio dramor, dechreuodd ysgrifennu adref yn syth at ei ffrindiau a’i deulu. Roedd pob llythyr a anfonwyd gan Patrick yn llawn hwyl, ffraethineb a hiwmor a oedd yn nodweddiadol o’i gymeriad.


Toriad yn y distawrwydd
Byddai llawer o’r rhai a arhosodd gartref yn aml yn derbyn newyddion bod eu hanwyliaid wedi mynd ar goll wrth frwydro. Ar ôl i’r newyddion gael ei dderbyn, byddai distawrwydd yn aml.
Gallai’r distawrwydd hwn bara misoedd lawer ac mae’n debyg y byddai wedi teimlo’n llawer hirach i’r rhai a oedd am wybod mwy. Roeddent yn ysu i wybod a oedd aelodau eu teulu naill ai wedi cael eu lladd wrth frwydro neu wedi dod yn garcharorion rhyfel.
Bu Mr a Mrs R. S. Wright o Rosllannerchrugog yn aros yn y distawrwydd hwnnw am ddeuddeg mis. Roeddent yn aros am newyddion pellach am yr hyn a oedd wedi digwydd i’w hunig fab, y Gynnwr Dennis Wright.
Roedd Dennis wedi bod yn garcharor rhyfel yn Borneo am ddwy flynedd a hanner. O’r diwedd, derbyniodd ei rieni gerdyn post gan Dennis, a oedd â’r dyddiad Rhagfyr 25, 1943.
Yn y cerdyn post, dywedodd wrthynt ei fod yn “iach” ac yn gobeithio eu bod hwythau’n cadw’n iach hefyd. Dywedodd hefyd wrthynt am beidio â phoeni amdano ac y dylent “barhau i wenu”.
Roedd y newyddion hwn yn rhyddhad mawr i Mr a Mrs Wright, yn ogystal â’r ffrindiau niferus a oedd gan Dennis, a oedd hefyd yn awyddus iawn i glywed a oedd eu ffrind yn iawn.

Wynebu gofid gyda dewrder
Er ein bod yn naturiol yn cofio’r rhai a fu farw wrth frwydro, rydym hefyd yn cofio’r rhai y bu eu bywydau newid yn ystod eu gwasanaeth. Dangoswyd llawer iawn o wydnwch a dewrder ym mhob rheng o’n lluoedd arfog.
Cydnabuwyd dewrder meddyliol a phenderfyniad caled ein milwyr gyda llawer o wahanol anrhydeddau a medalau.
Dyfarnwyd y Fedal Filwrol i’r Sarjant Harold Lancelotte, o Gatrawd Frenhinol Gorllewin Caint, wrth wasanaethu gyda’r Môr-fyddin Ymgyrchol.
Roedd y Sarjant Lancelotte o Garden Village, Wrecsam, wedi gwasanaethu fel Sarjant Signalau Bataliwn. Gwasanaethodd trwy gydol ymgyrchoedd Gogledd Affrica, Sisili a’r Eidal.
Fe wnaeth ei fenter ardderchog gyson trwy gydol llawer o amseroedd anodd arwain at ei bennaeth milwrol yn nodi bod enw’r Sarjant Lancelotte wedi dod yn arwyddair am effeithlonrwydd ymhlith ei gyd-filwyr.
Er mwyn cynnal signalau cyfathrebu di-wifr i’w blatŵn, wynebodd y Sarjant Lancelotte amodau tywydd peryglus a saethu o gyfeiriad y gelyn ar ei ben ei hun er mwyn atgyweirio’r llinellau a oedd wedi’u difrodi gan gerbydau ac arfau.
O dan ei orchymyn, enillodd ei blatŵn ganmoliaeth a chydnabyddiaeth am eu safon uchel o effeithlonrwydd gan y swyddogion digomisiwn a’r bataliwn.
Roedd ei ddiffyg ofn yn wyneb perygl o’r fath yn ysbrydoliaeth i’w gyd-filwyr a chredwyd mai dyma oedd y gyfrinach i’r buddugoliaethau niferus a gyflawnodd y platŵn.

Beth am weld a allwch chi ddod o hyd i straeon arwrol o’r rhyfel yn eich teulu? Mae gan ein gwasanaeth archifau ystafell chwilio newydd wedi’i lleoli yn llyfrgell Wrecsam. Mae ar agor yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Mercher.
Galwch heibio yn ystod eu horiau agor a gweld pwy allech chi ddod o hyd iddo yn eich coeden deulu.


