Mae dydd Gwener 14 Tachwedd 2025 yn nodi dechrau pennod newydd ar gyfer adeilad yr Hen Lyfrgell, sydd wedi’i leoli yng Nghanol Wrecsam.
Agorwyd y llyfrgell am y tro cyntaf ddydd Gwener 15 Chwefror 1907 gan Faeres Wrecsam ar y pryd, Mrs Edward Hughes, a Syr Foster H.E. Cunliffe. Ar gost o £4,300, cafodd y llyfrgell ei thalu amdani gan y dyngarwr Albanaidd-Americanaidd Andrew Carnegie a’i hadeiladu ar ddarn o dir a roddwyd gan Gyngor Wrecsam.
Roedd agoriad 1907 yn cynnwys araith gan Syr Cunliffe, a soniodd ymhlith pethau eraill fod Homer’s Odyssey yn stori antur wych i fechgyn ei darllen a bod Wrecsam yn dref ddwyieithog ac na ddylid ystyried y Saesneg fel iaith estron! Hefyd yn y seremoni agoriadol, defnyddiwyd allwedd aur arysgrifedig i agor gatiau’r llyfrgell.
Mae llawer o bethau wedi newid yn Wrecsam ers i’r adeiladau gael eu hagor yn wreiddiol, ond yn debyg i’r agoriad cyntaf, yn dilyn areithiau gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd Tina Mannering, agorwyd yr adeilad yn swyddogol eto trwy agor y gatiau. Er, y tro hwn, cafodd yr allwedd aur arysgrifedig ei disodli gan allwedd fetel blaen, ac yn dilyn datblygiadau technolegol, mae’r gatiau bellach yn agor gyda ffob allwedd!
Yr Hen Lyfrgell
Mae’r cyllid grant gan Cronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Cyffredin wedi galluogi Cyngor Wrecsam i drawsnewid yr adeilad hanesyddol hwn, sydd wedi’i danddefnyddio tan nawr, yn Hyb Creadigol ffyniannus fydd o fudd i’r ddinas, a sicrhau ei fod yn cyfrannu tuag at wireddu gweledigaeth ac amcanion strategol y ddinas a’r rhanbarth.
Gweledigaeth CBSW oedd creu hyb hyblyg, ynni-effeithlon, creadigol sy’n cyfuno diwylliant, technoleg a chynaliadwyedd dan arweiniad sefydliadau, entrepreneuriaid a busnesau pwrpasol o sector y diwydiannau creadigol.
Mae’r tenant cyntaf eisoes wedi cofrestru, gyda llawer o bartïon eraill â diddordeb ar wahanol gamau o’r broses ymgeisio am denantiaeth.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant AS: “Roeddwn i wrth fy modd yn ymweld â’r safle ym mis Awst ac roeddwn i wedi fy argraffu’n fawr nid yn unig gan safon y gwaith, ond hefyd gan yr uchelgeisiau ar gyfer yr adeilad rhestredig Gradd II hwn i ddod yn ganolfan i’r diwydiannau creadigol ledled y rhanbarth.
“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft ardderchog o sut mae canol dinas Wrecsam yn elwa o fwy na £13 miliwn mewn cyllid Trawsnewid Trefi, gan roi bywyd newydd i’n hadeiladau hanesyddol wrth gefnogi twf economaidd a datblygiad diwylliannol yn y gymuned.”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Ein huchelgais ar gyfer yr adeilad rhestredig Gradd II hwn sydd newydd ei adnewyddu yw iddo ddod yn ganolbwynt ac yn hyb i’r diwydiannau creadigol yn lleol ac ymhellach i ffwrdd. “Mae adnewyddu’r adeilad amlwg hwn yng nghanol y ddinas yn ein hatgoffa o’n gorffennol, ond hefyd yn helpu i wireddu ein huchelgeisiau i ddenu busnesau creadigol o ansawdd uchel i Wrecsam. “Mae’r diddordeb sydd wedi’i ddangos yn yr adeilad yn brawf bod yna eisoes gymuned ffyniannus ym maes y diwydiannau creadigol yn lleol, ac rydyn ni’n ceisio ei chefnogi a’i thyfu.”
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi ac Adfywio: “Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid allanol i wella golwg ac ymarferoldeb canol ein dinas sy’n prysur ddatblygu. “Mae’r cyllid grant wedi ein galluogi i drawsnewid yr adeilad hanesyddol hwn, sydd wedi’i danddefnyddio tan nawr, yn Hyb Creadigol ffyniannus fydd o fudd i’r ddinas, a sicrhau ei fod yn cyfrannu tuag at wireddu gweledigaeth ac amcanion strategol y ddinas a’r rhanbarth.


