Ledled yr awdurdod, mae ein hysgolion cynradd yn gweini bwydlen newydd ddiwygiedig i ddisgyblion gan gynnig mwy o gynnyrch Cymreig.
Mae grwpiau llywio arlwyo CBSW, Ysgolion Hyrwyddo Iechyd a Lles a Bwyd mewn Ysgolion CBSW wedi bod yn gweithio gyda Menter Môn a Larder Cymru i ddod â dewis gwell ar gyfer dysgwyr ifanc ein cymuned. Mae’r gwaith wedi ei ariannu drwy Lywodraeth Cymru.
Cynnyrch Cartref
Mae’r tîm arlwyo wedi bod yn gweithio gyda chyflenwyr i gynyddu’r amrywiaeth o gynnyrch Cymreig sydd ar y fwydlen newydd. Yn ystod y broses, tynnodd sylw at yr holl gynnyrch lleol a ddefnyddir ar hyn o bryd o gynnyrch llaeth i gig ac amrywiaeth o ffrwythau a llysiau sydd ar gael.
Gweithiodd y tîm arlwyo yn anhygoel o galed y tu ôl i’r llenni, gan fodloni canllawiau Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth alergenau genedlaethol. Cyflawnodd y gwaith rhagorol hwn wrth fwydo miloedd o ddisgyblion Wrecsam bob dydd ar gyllideb hynod dynn.
Cydweithio
Trwy gydol y prosiect, gweithiodd y gwasanaeth arlwyo a’r tîm Ysgol Hyrwyddo Iechyd a Lles yn agos â chogyddion, disgyblion a rhieni i gael eu mewnbwn i’r fwydlen a’r cynllun terfynol.
Am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn, rydym wedi gallu darparu cynllun graffig lliw llawn o’r fwydlen. Yn flaenorol, roedd hyn ar gael ar wyneb teip du a gwyn nad oedd yn adlewyrchu’n llawn ystod ac amrywiaeth y bwyd a gynigir.
Bydd fersiwn Word ar-lein ar gael bob amser i sicrhau ein bod yn bodloni deddfwriaethau, ond erbyn hyn gall ysgolion arddangos dyluniad mwy deniadol yn weledol.
Rhywbeth at ddant bawb
Ledled Wrecsam, mae gennym 58 o ysgolion cynradd gydag amrywiaeth o ethnigrwydd ac anghenion addysgol. Bydd y fwydlen bythefnosol newydd yn ceisio darparu ar gyfer yr holl anghenion deietegol.
Nod y fwydlen yw ei newid dwywaith y flwyddyn er mwyn osgoi blino ar y fwydlen. Drwy’r ymdrech newydd hon, rydym am hyrwyddo a dathlu’r amrywiaeth o fwyd sydd ar gael, sy’n cynnwys cynnyrch Cymreig ac opsiynau llysieuol hefyd.
Rydym hefyd yn awyddus i annog defnydd o ffrwythau a llysiau trwy’r dewis newydd.
Datblygu syniadau newydd
Gwnaed y rhan fwyaf o’r gwaith datblygu cynnwys gan ein tîm Prydau Ysgol. Cafodd y fwydlen ei threialu gyda disgyblion mewn ysgolion penodedig. Gwnaed y gwaith dylunio, cynnwys a chynhyrchu’r gwaith celf ar gyfer deunydd hyrwyddo gan ein grŵp llywio Bwyd mewn Ysgolion CBSW.
Fe wnaeth ymgorffori ein harweinydd diabetes o Betsi Cadwaladr, Aelod Arweiniol dros Addysg, arweinydd lles CBSW, y tîm arlwyo ac Ysgol Hyrwyddo Iechyd a Lles.
Adeiladu syniadau newydd a gwell
Mynychodd Larder Cymru holl gyfarfodydd y grŵp llywio ar gyfer y prosiect hwn a hwyluso gwaith rhwng ein timau dylunio a’n cyflenwyr.
Trwy weithio gyda’n tîm arlwyo a’n cyflenwyr, helpodd Larder Cymru i dynnu sylw at y cynnyrch Cymreig sydd gennym ar ein bwydlen eisoes nad ydym wedi’i ddathlu a dod o hyd i rai newydd i ychwanegu ato.
Roedd cydbwyso costau, yr ardal leol, cyflogwyr lleol, lleihau carbon a defnyddio cynnyrch Cymreig lle bo’n briodol i gyd yn ffactorau i’w hystyried o gyfarfod cyntaf y prosiect.
Ystyriwyd hefyd y gall cyflenwyr sydd ychydig dros y ffin yn Lloegr gyflogi pobl leol ac efallai fod yn agosach mewn milltiroedd na chynhyrchydd Cymreig, er enghraifft yn Ne Cymru. Byddai hyn yn lleihau allyriadau carbon ac yn cefnogi ein gweithwyr lleol.
O’r dechrau i’r diwedd, mae Larder Cymru wedi helpu i ysgogi’r prosiect ac wedi darparu cymorth ac arweiniad hanfodol ar hyd y ffordd.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg “Mae’n wych gweld canlyniadau’r gwaith caled sydd wedi’i wneud i gyflwyno’r fwydlen newydd a bywiog hon i’n hysgolion cynradd. Mae’n edrych yn rhagorol, a does gen i ddim amheuaeth y bydd yn gwella prydau bwyd i’n plant ysgol. Mae cefnogi plant i wneud dewisiadau bwyd iach yn hanfodol i sicrhau eu bod yn barod i ddysgu ac iddynt fanteisio i’r eithaf ar eu cyfleoedd addysgol. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n cymryd rhan am yr ymroddiad a’r ymrwymiad y maent wedi’u cyfrannu at y fenter hon; mae’r canlyniadau wedi bod yn hynod werth chweil”.


